Yn dilyn apwyntiad Miss Mari Wynn Meredith i ofal yr ysgol, dychwelodd Miss Roberts i'w chyn swydd yn Ysgol Lloyd Street, tra pharhaodd Miss Nans Williams fel athrawes gynorthwyol am rai blynyddoedd.Yn allanol ac oddi mewn, cartref cwbl ddi-addurn oedd y cytiau Nissen. O'u plaid, gellid dweud eu bod yn ddigon helaeth i'w rhannu'n bedair ystafell ddosbarth, neuadd a chegin, ynghyd ag ystafell fechan i'r athrawon. Cyn pen 'chydig amser gwelwyd trawsnewid y parwydydd sinc llwyd gyda llawnder o luniau a siartiau lliwgar, bywiog, a'r iaith Gymraeg yn fwrlwm arnynt, yn denu llygad plentyn. Clywid mwy a mwy o 'swn yr iaith' ar wefusau'r plant mewn awyrgylch hapus. Yn ddi-oed gwelwyd lliwiau coch, gwyn a gwyrdd yr Urdd yn bywiogi'r Neuadd. Buan y daeth amser pan welid tystysgrifau llwydda bri Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol yn ennill lle ar yr hysbysfyrddau, gyda llwyddiannau'r Band Taro a'r Parti Cerdd Dantyn amlwg. Prin iawn y medrid dweud fod y buarth chwarae tywodlyd yn gymwys,ond bu'n fodd i feithrin camp a hwyl chwaraeon, gyda'r Gymraeg arenau'r disgyblion. Gyda chynnydd cyson yn rhifau'r plant, daeth amser y medrid cael tim p锚l-rwyd a thim p锚l-droed. Bu gweithgarwch hawddgar Miss Mari Wynn Meredith a'i chyd-athrawon yn fodd i ennill cynnydd cyson ar waetha'r llifeiriant Seisnigyn y dreflan. Profodd cefnogaeth parod Mr Mansel Williams, Y Cyfarwyddwr Addysg, yn arbennig werthfawr. Ar ei ymweliadau mynych 芒'r ysgol, deuai ag addysgwyr o wledydd tramor gydag ef i weld dulliau addysgu dwy-ieithedd. Byddai Miss Jennie Thomas,Ymgynghorydd laith y Sir, hithau, hefyd yn tywys tramorwyr ar yr un ymchwil, yn ogystal ag i ennyn diddordeb y plant yng ngwledydd y byd a'u pobloedd.
|