成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Y corws S诺n y G芒n
Ionawr 2006
Gyda chaniat芒d cwmni Josef Weinberger (am d芒l hawlfraint a dim cyhoeddusrwydd ar wah芒n i gyhoeddusrwydd llafar), bu i Ysgol Dyffryn Conwy lwyfannu rhannau o'r sioe gerdd enwog am dair noson ychydig cyn y Nadolig.
Cynhyrchiad dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) oedd hwn gyda'r ddwy iaith yn cael eu defnyddio yn ystod y cynhyrchiad. Mae rhai o'n darllenwyr yn cofio inni lwyfannu cynyrchiadau Cymraeg ar un noson a Saesneg ar y llall gyda chastiau gwahanol yn y gorffennol.

Y tro hwn, rhoddwyd cyfle i 72 0 ddisgyblion berfformio'n ddwyieithog a braf oedd gweld nifer a oedd yn derbyn eu cyfle cyntaf i actio'n gyhoeddus. Yn wir, roedd Kyle Shirajudin (Capten Von Trapp) o Benmachno yn syrthio i'r categori hwn. Yn anffodus, ychydig wythnosau cyn y perfformiadau, darganfuwyd fod Kyle yn dioddef o Glefyd y Siwgr a bu'n rhaid iddo dreulio rhai dyddiau mewn ysbyty yn rheoli'r aflwydd.

O ystyried y problemau salwch a gafodd wrth ymarfer, mae'n rhyfeddod iddo allu dygymod 芒 pherfformio o gwbl ond gwnaeth hynny'n hynod lwyddiannus.

Golygfa o'r sioeChwaraewyd rhan Maria, y lleian, a oedd gyda'r brif ran, yn hynod ddeheuig gan Kathleen Button o Lanrwst. Bu iddi roi ei holl ymdrech i'r perfformiadau ac roedd yn gwybod llinellau bron pawb o'r cast. Dyma enghraifft o roi'r cyfan i'r perfformiad. Un arall y derbyniwyd canmoliaeth fawr i'w actio oedd eiddo Tom Awdry o Benmachno. Er ei fod yn gymharol fychan o gorffolaeth gwnaeth iawn am hynny trwy gael y gynulleidfa yn ei ddwylo ym mhob perfformiad.

Y tro hwn, rhoddwyd cyfle i blant llai galluog yn academaidd i gymryd rhan - hyn yn unol 芒 pholisi'r ysgol o fod yn un gynhwysol gan geisio rhoi cyfle i bawb. Roedd gweld eu hymdrech arbennig yn wledd i'r llygad a theimlwyd yn falch iawn o'u hawydd i gymryd rhan.

Dyma'r tro cyntaf inni lwyfannu Sioe Gerdd ers rhai blynyddoedd. Diolch i BAWB a gynorthwyodd mewn unrhyw fodd i wneud y perfformiad yn un llewyrchus. Rwy'n si诺r na fydd neb yn gwarafun imi enwi rhai athrawon a fu'n hynod gefnogol o'r cynhyrchiad gyda'u hamser a'u brwdfrydedd. Cyfeiriaf yn neilltuol at Mrs Joy Ostle (Cynhyrchydd), Mr Chris Roberts a Mrs Linda Morus (Cyfarwyddwyr Cerdd), Mrs Ann Davies (Dawns), Mr Gwyn Hughes Roberts (Set), Mr lan W Griffith a Mr Neil Harris (Sain a Goleuo). Bu'r Staff Gweinyddol ac eraill yn cynorthwyo gyda'r coluro a threfniadau gwerthu tocynnau ag ati ac mae'n diolch a'n gwerthfawrogiad iddynt hwythau hefyd am eu gwaith dygn a phwysig.

Serch y diffyg hawl i roi cyhoeddusrwydd trwy bosteri ag ati i'r sioe, llwyddwyd i gael neuadd lawn ar y tair noson a barn y mwyafrif wrth fynd allan ar y diwedd oedd iddi fod yn brofiad gwefreiddiol bob tro. Gofynnwyd sawl tro ar y tair noson am inni baratoi sioe gyffelyb debyg yn fuan eto - ond amser a ddengys beth a ddaw i'r dyfodol. Tybed beth fyddech chwi fel darllenwyr yn ei hoffi tua Nadolig y flwyddyn nesaf - ai Gwasanaeth Carolau lled draddodiadol ynteu sioe debyg i hon? Byddai'n ddiddorol gwybod.

Ond am y tro, gobeithio fod pawb wedi ennill budd o gymryd rhan a phwy a 诺yr na welwn enwau rhai o'r actorion ar fyrddau y tu allan i brif theatrau'n gwlad ymhen rhai blynyddoedd. Eto, amser a ddengys!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy