成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Sgw芒r Llanrwst Troi Llanrwst yn wyrdd
Hydref 2008
Ar ddydd Sadwrn Medi'r 20fed trodd Llanrwst yn wyrdd wrth i'r artistiaid preswyl, Megan Broadmedow a Mari Elain Gwent osod tywyrch gwair ar draws sgw芒r y dref.

Roedd y digwyddiad artistig unigryw hwn yn cynnwys perfformiad unwaith yn unig wrth i'r tywyrch gael eu gosod.

Roedd hefyd yn nodi dechreuad cyfres o ddigwyddiadau yn y dref ac yng nghoedwig Gwydr yn ystod y misoedd nesaf.

Mae Megan a Mari yn gweithio ar brosiect a elwir yn 'Llwybr y Ceirw'. Maent wedi eu comisiynu gan gr诺p cymunedol 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' i gynhyrchu gwaith celf cyfoes er mwyn dathlu hanes cyfoethog ac amrywiol Llanrwst.

Datblygodd y syniad i osod y tywyrch gwair ar y sgw芒r wrth i'r ddwy artist gael eu swyno gan y ffaith fod trigolion Llanrwst, yn anterth gwrthryfel Glynd诺r' yn yr 1440au, wedi ffoi o flaen fflamau'r dref a cheisio lloches yn y goedwig.

Roedd y dref yn wag am gyfnod mor hir fel y tyfodd gwair ar y sgw芒r gan ddenu ceirw o'r goedwig yno i bori!

Eglurodd Megan "Roedd gennym ni awydd mawr i ddangos y cysylltiadau rhwng y dref 芒'r goedwig, ac i ymchwilio i ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod cyfnod y prosiect. Rydw i bob amser yn hoffi'r syniad o gyfuno pethau cyferbyniol, ac felly roedd yn teimlo'n iawn i ddod 芒 deunyddiau naturiol i'r dref, ac i orchuddio'r sgw芒r efo gwair."

Ychwanegodd Mari "Rydym hefyd yn edrych ymlaen at wneud gwaith a fydd yn rhoi cipolwg ar hen gymeriadau fel Dafydd ap Siencyn, a oedd yn Robin Hood o gig a gwaed. Roedd o'n byw mewn ogof uwchben Llanrwst.

"Ond roeddem ni hefyd eisio cynhyrchu gwaith sydd yn ymwneud 芒 thrigolion Llanrwst heddiw, gan eu bod nhw yr un mor ddiddorol.

"Mae'n bwysig i ni fod y gwaith yn golygu rhywbeth i bobl a'i fod yn adlewyrchu'r diwylliant lleol."

Gofynnodd Cymdeithas Cymru, Lloegr a Llanrwst hefyd i'r artistiaid gynllunio llwybr cerfluniau a fydd yn dechrau yn y dref ac yn arwain i'r goedwig.

Mae Megan a Mari wedi bod yn brysur yn meddwl am ystod eang o waith cerfluniol, a bydd y gwaith o lunio'r llwybr cerfluniau yn dechrau ym mis Hydref.

Mi fydd mwy o ddigwyddiadau yn cael ei cynnal yn ystod yr Hydref, ac mi fydd y ddwy artist yn cymryd rhan yn Helfa Gelf.

Am fwy o fanylion cysylltwch 芒 Sian Emlyn ar 01492642357.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy