Tua blwyddyn yn 么l clywais sgwrs ar y radio (sioe Dyl a Meinir, dw i'n meddwl) lle roedden nhw isio gwybod beth oedd y record o ran ffitio pobl mewn Mini, a bu s么n am ryw gant o bobl, sydd yn amlwg yn hollol amhosib.
Chwiliais ar y We, ac wele! Des i o hyd i'r un rhif - sawl gwaith a dweud y gwir. Rhaid bod hi'n wir! Ond na, pan chwiliais yn ddyfnach, gwelais fod pob safle yn "safle drych", sef un sy'n copio'r wybodaeth o wefan wreiddiol (efo caniat芒d, wrth reswm) - ond un efo manylion sy ddim yn wir!
Chymrodd hi fawr o ymdrech i ddod o hyd i'r record go iawn - 21 o bobl, gyda llaw (yn 么l y rheolau, rhaid i bawb fod o leiaf 4'11" o daldra, a ffitio i mewn 芒'r drysau ar gau am 20 eiliad).
Rydw i wedi s么n o'r blaen am Wikipedia, gwyddoniadur ar y We, ac un gwych yn fy marn i. Os mai gwybodaeth sy isio, ewch i gyntaf cyn defnyddio peiriannau chwilio.
Y tro diwethaf i mi s么n amdano, ryw flwyddyn yn 么l, roedd 'na filiwn o erthyglau ar gael - erbyn hyn mae 'na dros ddwy filiwn!
Ysgrifennir a golygir yr erthyglau gan y cyhoedd - mae pawb yn arbenigwr ar rywbeth - ond mae'r wefan wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar ar 么l i rywun ysgrifennu bod Ronnie Haslehurst - y cerddor a fu farw -
wedi ysgrifennu "Reach", can gan S Club 7.
Rwan 'ta, efallai mai camgymeriad oedd o, neu fandaliaeth hyd yn oed, ond cyhoeddwyd hyn gan rai papurau, sydd yn amlwg yn defnyddio Wikipedia yn hytrach na gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain!
Ac ymddangosodd y ffaith hon am Ronnie Haslehurst ar lawer o wefannau eraill hefyd, gan fod 'na nifer fawr o safleoedd drych sydd yn defnyddio'r hyn sydd ar Wikipedia.
Na, peidiwch a choelio pob dim dach chi'n ei ddarllen ar y We! Mwy am Gyfrifiaduron a Byd y We mis nesaf.
|