Yn wahanol i'r rhelyw o drefi glan m么r Cymru, cynlluniwyd ac adeiladwyd Llandudno fel tref bwrpasol ar gyfer ymwelwyr. Wedi'r ddeddf cau yn 1848, 'Deddf y Ladrad Mawr' yn 么l un disgrifiad, seliwyd tynged y pentref bach diarffordd. Mwyach nid oedd y boblogaeth yn gorfod dibynnu ar durio mwyn copr, pysgota a ffermio am gynhaliaeth. Cynhaliwyd arwerthiant ym Mhlas Mawr, yng Nghonwy, ym mis Awst 1849 a gwerthwyd lleiniau o dir i'r sawl a fynnai gymryd rhan yn y fenter newydd. Menter wedi'i seilio ar gynllun Owen Williams, g诺r o Sir F么n oedd yn syrfewr yn Lerpwl. Ym 1854 codwyd gwesty'r St George's, ac o hynny 'mlaen bu bwrlwm gwyllt o waith adeiladu. Erbyn diwedd y ganrif roedd yr hanner cylch o westai, a welir heddiw, yn ymylu'r bae.
Y dref yn tyfu
Llifodd mewnfudwyr i'r dref newydd a chodwyd tai, siopau, gweithdai, swyddfeydd ar eu cyfer. Cododd y Llandudno newydd o wlybaniaeth Morfa Rhianedd a datblygu'n un o drefi glan m么r blaenllaw Prydain.
I ddechrau, cerrig lleol, carreg galch o'r Gogarth a thywod o'r twyni glan m么r, a ddefnyddiwyd i adeiladu'r gyrchfan gwyliau newydd. Deuai'r coed angenrheidiol i draeth Llandudno o'r America mewn llongau hwylio yn glanio ar draeth y dref i ddadlwytho.
Rheilffordd - datblygiad pwysig
Yna, ym 1858 cyrhaeddodd y rheilffordd. Golygai hyn fod llawer mwy o ddewis o'r defnyddiau adeiladu ar gael. Mwyach roedd priddfeini a gwahanol gerrig yn cael eu cludo i mewn ac nid oedd gofyn dibynnu'n llwyr ar y garreg leol. Gyda'r defnyddiau gwahanol deuai crefftwyr i'w defnyddio.
Ymysg y 'defnyddiau newydd' deuai llawer o dywodfaen ar gyfer linteli, piled ffenestri, cerrig brig, a gwaith addurniadol cyffelyb. Erbyn wythdegau'r ganrif golygfa ddigon cyffredin oedd adeiladau brics gyda thywodfaen addumiadol ynddynt. Ar y pryd roedd galw cynyddol am 'dai bobl fawr' ar gyfer y dosbarth canol newydd a lifodd i'r dref.
Tai y bobol fawr
Codwyd tai ar eu cyfer yn y caeau lle saif Abbey Road yn awr. Yn y t欧 sydd erbyn hyn yn rhif 85 fe adeiladwyd mur amgylchynol cadarn a chyfuniad o briddfeini coch a melyn. Bob pen i'r wal gosodwyd pileri cadam a chywrain i gynnal y giatiau. Ar ben bob piler gosodwyd clamp o garreg frig, coping o dywodfaen melyn. Criw o seiri meini teithiol oedd yn trin y tywodfaen. Arferent symud o un fangre i'r llall i gyflawni'r gwaith arbenigol hyn. Eu gorchwyl oedd torri a naddu'r blociau tywodfaen ar gyfer yr adeiladwyr.
Yn rhif 85 rhaid oedd iddynt naddu carreg frig tua llathen sgw芒r a rhyw ddeuddeg modfedd o uchder i goroni'r pileri. Gofynnwyd iddynt baratoi carreg gyda thop a phedwar wyneb llyfn iddi. Ar bob wyneb rhaid oedd naddu rhosyn. Mae'n amlwg fod yr hen grefftwyr hyn yn gerflunwyr penigamp ac yn meddu ar ddawn artistig ryfeddol.
Y g诺r oedd yn gyfrifol am y gwaith oedd Isaac Owen, saer maen o Ochr Penrhyn. Efe oedd fforman y safle ac yn gyfrifol am oruchwylio'r adeiladau. Bu'r hen Isaac yn ddigon anffodus i golli ei lygaid mewn damwain rhai blynyddoedd ynghynt. Am ryw reswm cododd ffrae rhwng Isaac a'r seiri meini teithiol. Peth digon cyffredin ar safleoedd adeiladu yw anghydfod rhwng y gwahanol grefftwyr a'r sawl sy'n rheoli'r gwaith.
Ond er gwaetha'r anghydfod aeth y gwaith ymlaen a gorffennwyd y t欧, y mur o'i flaen, a'r pileri. Yna canodd y criw symudol yn iach ag Abbey Road ac Issac Owen, a symud ymlaen i'r gweithle nesaf.
Pen y Diafol
Wedi iddynt ddiflannu craffodd rhywun ar y pileri a gweld mai nid rhosyn oedd y llun a naddwyd ar wyneb un o'r cerrig ond wyneb ar ffurf pen diafol. Ond nid rhyw lun cyffredinol o'r diafol oedd yno.
Roedd yn wawdlun gwych o Isaac Owen yn ei bortreadu fel diafol unllygeidiog a chyrn yn tyfu allan o'i ben. Mae'n amlwg i un o seiri meini'r tywodfaen dalu'r pwyth yn 么l - a gwneud hynny mewn ffordd barhaol ac artistig. Yn ddiamau, dyma sut oedd cael y gair olaf!
Deil y piler yna hyd heddiw, dros ganrif yn ddiweddarach gyda gwawdlun cerflunedig yr hen Isaac yn dal i ysgyrnygu'n unllygeidiog a blin ar bawb sy'n mynd heibio'r gi芒t.
Go brin iddo erioed ystyried y buasai ychydig o ffrwgwd gyda'i weithwyr yn para tra safai'r pileri.
Tom Parry