Ymdrech oedd hon i geisio sefydlu arferiad o ddathlu g诺yl nawddsant Cymru ar raddfa fwy, gan drefnu digwyddiadau i farcio'r dyddiad, ac felly cynyddu'r sylw sy'n cael ei roi i'rdiwmod.
Er bod grwpiau a mudiadau traddodiadol, fel y capeli a Merched y Wawr, yn dathlu'r w欧l yn flynyddol, gobeithir fod modd ychwanegu at y dathliadau hyn, gan godi proffil y diwrnod ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.
Ymysg digwyddiadau newydd y flwyddyn hon, cafwyd taith gerdded dan arweiniad Gwyn Jones ar Fawrth 1af i lansio'r daflen gyntaf mewn cyfres o daflenni sy'n awgrymu llwybrau cerdded yn dechrau o Lanrwst.
Cafodd y cerddwyr banad a chacennau yng nghanolfan Glasdir ar ddiwedd y daith.
Prosiect yw hwn rhwng gr诺p 'Trailblazers'/Cerddwyr Llanrwst, Cyngor Tref Llanrwst a'r Gwasanaeth Cefn Gwlad.
Bydd y daflen gyntaf ar gael yn siopau a chanolfannau Llanrwst yn ystod y dyddiau nesaf. Trefnodd Clwb beicio Mynydd Dyffryn Conwy daith nos yng Nghoed Gwydir, yn ddiweddarach y noson honno.
Cafwyd noson cwis dan ofal Fwrdd yr laith Gymraeg nos Wener, Mawrth 2il, gyda Llion Williams.
Daeth dros 10 t卯m i gystadlu, gyda'r enillwyr yn dod o d卯m Hami, Peter Booth, Jonsyn, Aled Postmon a Hywel Pen (sawl ffynhonnell wybodaeth y yna, yn amlwg!).
Roedd yna w i'r timau oedd yn ail - t卯m Elgan Lloyd - a thrydydd, sef t卯m Cae Brychiad, a llwy bren i'r olaf. Diolch yn fawr i'r help llaw gan bawb yn y Llew Coch a Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanrwst.
Gwelodd dydd Sadwrn, Mawrth 3ydd blant o ysgolion Bro Gwydir, Betws y Coed a Llanddoged yn dawnsio gwerin ar y sgw芒r.
Gyda'r tywydd yn cadw'n braf, daeth nifer fawr o bobl i wylio, i fwynhau'r dawnsio, y gerddoriaeth a'r haul.
Diolch yn fawr i Ddawnswyr Sir Conwy ac athrawon a phlant yr ysgolion cynradd a gwaith - braf iawn oedd gweld cymaint o liw a bwrlwm yng nghanol Llanrwst.
A diolch hefyd i bawb yn siop Trysorau Bach am defnyddio'u trydan!
Dilynwyd hyn gan daith gerdded hanes, dan ofal Pat Rowley o Gymdeithas Hanes Llanrwst. Roedd Pat yn hapus iawn o'r niferoedd - bron i 30 0 bobl wedi mynychu.
Gyda chymaint o siopau'r dref gwneud y fath ymdrech i addurno'u ffenestri yn dilyn thema Dewi Sant a Chymru, roedd cryn deimlad o 糯yl Dewi y flwyddyn yma.
Mae Menter Nant Conwy a Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gobeithio bydd modd adeiladu ar hyn y flwyddyn nesaf.
Os oes syniadau neu sylwadau gennych ar hyn, mae croeso i chi gysylltu Dafydd Apolloni ar 01492 642108.