成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Jean Morgan Roberts y tu allan i;w siop gelf yng Nghonwy Cymeriadau yr ardal
Chwefror 2007
Cafodd Jean Morgan Roberts ei swyno gan waith artistiaid er pan oedd yn blentyn ifanc iawn.
Fe'i ganed, yn y "Black Lion", adeilad hynafol o'r unfed ganrif ar bymtheg, i un o hen deuluoedd Conwy.

Arferai fynd i arddangosfeydd y "Cambrian" yn Plas Mawr dafliad carreg o'i chartref a hithau'n ddim ond plentyn.

Methai amgyffred sut y gallai unrhyw un greu golygfeydd mor rhyfeddol ar bapur a chynfas ac yn fuan lawn dechreuodd drin paent ei hun, a dyna oedd i gychwyn pethau.

Fu Jean erioed yn agos i goleg celf ond yn fuan dechreuodd baentio rhai o'r golygfeydd cyfareddol sydd i'w cael o amgylch tref Conwy.

Yn ddiweddarach agorodd siop gelf yn Stryd y Castell, gyferbyn 芒'r "Black Lion".

Ychydig iawn o amser aeth heibio cyn i'r ardalwyr ac ymwelwyr a'r dref ddechrau gwirioni ar ei gwaith ac roedd mynd mawr ar y lluniau.

Ers y dyddiau cynnar rheini mae Jean wedi crwydro yma ac acw i fwydo ei hoffter o gelfyddyd gain ac wedi paentio golygfeydd dramatig mewn gwledydd fel De America a Patagonia yn arbennig.

Ryda ni'n arfer ei chysylltu i thirluniau lleol, adeiladau yn bennaf, yng nghyffiniau Conwy a mannau eraill yng Ngogledd Cymru, ond mae llyfr o'i heiddo a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni gan Wasg Carreg Gwalch ychydig yn wahanol.

Un o'r cymeriadau lleol cyntaf i Jean ei phaentio oedd Eileen Rhodes a arferai weithio yn "Y Ty Lleiaf" ar y cei yng Nghonwy.

"Nid ei phaentio yn derbyn arian yr ymwelwyr wnes i, fe rois i droell wrth ei hochr" meddai Jean.

Ychydig yn ddiweddarach paentiodd bortread o Peggy Rowlands yn ei gardd oedd o fewn i furiau'r dref.

Arferai Peggy a'i gwisgoedd lliwgar ynghyd 芒'i chasgliad o ddoliau oedd i'w gweld yn ffenestr ffrynt ei chartref ar y ffordd i lawr i'r cei swyno ymwelwyr a Chonwy, dros y blynyddoedd.

Roedd yr hedyn wedi ei blannu ac yn raddol datblygodd y syniad o greu cofnod o gymeriadau lleol ynghyd 芒 phobl oedd a chysylltiad a'r ardal.

Fe lwyddodd i berswadio rhai o'r rhain i ganiatau iddi baentio portread ohonynt ac hefyd roi braslun o hanes eu bywyd ,a'u diddordebau.

Yn raddol adeiladwyd ffolio o chwech ar hugain o bortreadau a rhain fydd yn ymddangos yn y llyfr.

Mae Jean yn ddysgwraig lwyddiannus ac yn gefnogol iawn i'r Pentan. Gwerthir nifer fawr o rifynnau yn ei siop bob mis.

Os oes artist yn unman yn haedda cysylltiad ag ardal, Jean yw honno. Byddai "Artist Conwy" yn deitl haeddiannol iddi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy