Y rheswm dros y pryder yw'r ffaith y gwelir newid yn y defnydd a wneir ohonno pan fydd Ysgol Dyffryn Conwy yn symud i un safle yn Ffordd Cae'r Melwr, a hynny yn y dyfodol agos. Mae Myrddin yn holi beth tybed ddaw o hen neuadd yr Ysgol Rad? A fydd y gwaith gwydr a phren modern yn cael ei ddiosg gan adfer yr adeilad i'w hen ogoniant? A fydd lle yno i ganolfan treftadaeth y dref a'r dyffryn? A yw'r adeilad wedi'i gofrestru rhag fandaliaeth unrhyw 'ddatblygwr' bondigrybwyll?Yn y flwyddyn 2010 bydd yr adeilad y cyfeirir ato, sydd yn rhan o Adran Hyn Ysgol Dyffryn Conwy yn 400 oed ac mae'n fwy na thebyg y bydd yna ddathlu'r achlysur. Cyn edrych ymlaen diddorol fyddai edrych yn 么l a chanfod sut 'roedd pethau yn y gorffennol, ac mae yn orffennol hir i'r hen adeilad.
Fe fu dathlu yn 1960 pan oedd yr ysgol yn dri chant a hanner oed, ac i gofio'r achlysur fe gasglodd R J Parry, M.A., y prifathro ar y pryd, beth o hanes yr ysgol a'i gyhoeddi yn llyfryn. Mae'n cyfeirio, ar ddechrau'r llyfryn at y cyd-ddigwyddiad eu bod yn dathlu'r achlysur yn nheyrnasiad Elizabeth II ac er mai 1610 yw'r flwyddyn y credir i'r ysgol gael ei sefydlu, ac roedd hynny yn ystod teyrnasiad James I mae llawer o'r hanes cynnar yn ffitio i mewn i fframwaith bywyd yn nheyrnasiad Elizabeth I.
Dechrau'r daith oedd sefydlu'r elusen 'Jesus Hospital' ac roedd yr amcan yn ddeublyg - sicrhau addysg rad i fechgyn tlawd ac hefyd darparu ar gyfer yr anghenus yn Llanrwst a'r plwyfi cyfagos. Roedd elusennau tebyg i'w cael led-led y wlad a hynny mewn cyfnod cynhyrfus pryd y gwelwyd newidiadau enfawr ym myd gwleidyddiaeth, crefydd, yr economi a bywyd cymdeithasol yn gyffredinol. Ariannwyd yr elusen, o'r cychwyn, gan ddegwm plwyf Eglwysbach.
Yn 么l haneswyr ni ddylid derbyn yr union ddyddiad, 1610, na chwaith yr honiad gan Syr John Wyn o Wydir mai fo, yn anad neb arall oedd y sefydlydd, fel rhai ffeithiol gywir gan nad oes tystiolaeth bendant i'r naill na'r llall.
Cydnabyddir fod i deulu'r Wyniaid draddodiad hir o chwarae rhan amlwg mewn materion lleol ac roedd Syr John Wyn yn enghraifft dda o'r dosbarth bonedd o dir feddianwyr ddaeth i'r amlwg yng nghyfnod y Tuduriaid. Roedd y teulu wedi hen ymsefydlu yn Nyffryn Conwy ac yn un o'r teuluoedd mwyaf dylanwadol yng ngogledd Cymru.
Cydnabyddir John Wyn fel noddwr hael i llenyddiaeth Gymraeg, un a chanddo ddiddordeb, ymhlith pethau eraill, mewn gweld cyfieithiad Cymraeg o'r Salmau ac hefyd mewn llunio geiriadur Cymraeg. Roedd o hefyd yn wr busnes hirben gyda diddordeb yn y gweithfeydd mwyn lleol yn cynnwys gwaith Mynydd Parys ym M么n. Er hynny doedd ei nodweddion personol ddim yn rhai llawn mor gymeradwy. Dywedir amdano ei fod yn ŵr ymosodol, balch a gormesol. Deliai'n ddidostur a'i denantiaid a byddai wastad mewn dadleuon cyfreithiol 芒'i gymdogion.
Er gwaethaf hyn, fo oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu'r elusen 'Jesus Hospital' yn Llanrwst. Awgryma R J Parry yn lyfryn mai cydymffurfio ag arferion ei gyfnod a'i safle yn y gymdeithas yr oedd trwy weithred o'r fath ac y byddai hyn yn cryfhau ei ddelwedd yng ngolwg ei gyfoeswyr ac yn ychwanegu at ei enw da i'r dyfodol. Ond ar y llaw arall efallai mai tawelu ei gydwybod oedd oherwydd yn 么l pob adroddiad o'i weithgareddau, tra ar dir byw, byddai ganddo lawer i'w ateb drosto yn y byd a ddaw.
Ar 么l chwalu'r mynachlogydd ac hefyd yr hen drefn Gymreig o addysgu yn y llysoedd roedd angen cyfrwng newydd i addysgu ieuenctid. O ganlyniad fe gododd gwir awydd ymhlith y dosbarth bonedd i sefydlu ysgolion a dyma'r cyfnod pryd y gwelwyd yr Ysgolion Gramadeg cyntaf yng Ngogledd Cymru - Friars, Bangor ym 1557, Rhuthun ym 1595 ac ysgolion Biwmares a Wrecsam ym 1603.
Roedd sefydlwyr yr Ysgolion Gramadeg cyntaf yn llawn o ysbryd y Dadeni Dysg a'r diddordeb yma yn arwain at y Clasuron. Canlyniad hyn oedd i'r ysgolion fod yn Ysgolion Gramadeg yng ngwir ystyr y gair, lle roedd y cwricwlwm wedi ei gyfyngu i astudio gramadeg Groeg a Lladin yn unig. Dyma oedd cefndir addysgol Syr John Wyn ei hun a chwbl naturiol felly oedd fod yr ysgol yn Llanrwst yn dilyn y patrwm yma.
Arwyddair yr ysgol :
NEC TIMET NEC TIMET
NID OFNA NI YMCHWYDDA