成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
T卯m p锚l-droed merched Cymru 1976 Pencampwraig Chwaraeon
Medi 2007
Mae Mai Wyn Griffith wedi chwarae p锚l-droed dros ei glwad 21 o weithiau ac mae hi'n bencampwraig golff. Dyma hanes dynes amryddawn...
Dyma bortread o ferch, a ddaw yn wreiddiol o Drefriw. Merch sydd wedi disgleirio ym myd chwaraeon.

  • mwy o luniau Mai
  • Ganed Mai ar y 31 o Fai ym Mangor yn ferch i Brifathro Trefriw, Glyn Owen Griffith a Gwen Griffith. Roedd ei rhieni yn weithgar iawn yn y pentref ac yn mwynhau cymryd rhan yng ngweithgareddau'r ardal.

    Dyma Stori Mai:

    Mae gen i ddau frawd, Peris Wyn yr hynaf, a arferai chwarae p锚l droed i Gwydyr Rovers yn Llanrwst (roedd o'n arfer fy nhalu i am ll'nau a chaboli ei esgidiau cyn pob g锚m!). Nid oedd fy mrawd arall, Geraint, sy'n dal i fyw yn Llanrwst, yn chwaraewr p锚l droed, gwell . oedd ganddo deithio ar ei feic modur! Ganed fy chwaer Eleri yn Nh欧'r Ysgol, Trefriw.

    Ymddeolodd fy nhad o'r ysgol ym 1968 ac aethom i fyw i Brestatyn i ymyl fy mrawd Peris. Bum yn gweithio fel nyrs ddeintyddol am ddwy flynedd ar bymtheg a bu Eleri yn gweithio ar y papur Rhyl Journal. Cyn i ni adael Llanrwst roeddem ein dwy yn chwarae p锚l droed i dim Clwb Ieuenctid Llanrwst ac ymhen y flwyddyn ar 么l symud i Brestatyn fe ffurfion ni D卯m Peldroed Merched Prestatyn. Er Imwyn cael arian i brynu dillad i'r t卯m fe gasglo'm dunelli o bapur newydd a'i werthu!

    Buom yn chwarae ein gemau i gyd at achosion da a chawsom dyrfa ' dda i'n dilyn ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Unwaith pan oeddem yn chwarae yn Bastion Road ar gae F.C.Prestatyn yn erbyn Merched Foden daeth dros 3,000 o bobl i'n cefnogi.

    Erbyn y seithdegau cynnar yr oedd gennym d卯m arbennig a enillodd pob g锚m a chwpan o fewn ein cyrraedd.

    Cyfarfu fy chwaer, Eleri, 芒 Michael Roberts a chwaraeai i d卯m Prestatyn. Ar 么l priodi symudasant i Wrecsam. Cawsant dri o fechgyn, pob un yn beldroediwr! Mae Daniel, yr hynaf yn chwarae i dim Heol, Neil yn gapten Wrecsam F.C. a bu yn chwarae i Gyrnru ac mae eu brawd Stephen yn chwarae i Doncaster Rovers, bu ef hefyd yn chwarae i Gymru.

    Yn 1973 dewisiwyd pump o'n t卯m i chwarae p锚l-droed i Gyrnru a thair i Loegr. Yr oeddwn i yn un o'r chwaraewyr. Fel arfer roeddem yn ymarfer yn Ne Cymru, ym Mhort Talbot fel rheol. Euthum ymlaen i chwarae dros Gymru un ar hugain o weithiau. Mae gen i saith Cap Cymru a chwareais mewn dwy Gwpan Byd yn yr Eidal - Rascara a Rimini - amser anhygoel!

    Yn ystod fy ngyrfa chwaraeais Hoci i'r sir, sboncen i'r sir a ph锚l rwyd ond yn ddeugain oed rhoddais y gorau iddynt i gyd a throi at golff.

    Ym 1988 symudais o Brestatyn yn 么l i Ddyffryn Conwy i Lan Conwy a ymuno 芒 Chlwb Golff, Betws y Coed. Cyfarfum a llawer o ferched oedd yn gybyddus 芒'm teulu pan oeddem yn byw yn Nhrefriw, pobl fel Pat Rowley, Tina Evans, Brenda Cawley, Iona Thomas a Hilary Humphreys - hwy wnaeth fy nghyflwyno i'r g锚m Golff a hwy ddysgodd bopeth am y g锚m i mi! Bum yn bencampwraig y Clwb 5 gwaith.

    Ymunais 芒 Chlwb Golff Conwy ym 1996, rwyf yn chwarae i raddnod o 10. Rwyf yn chwarae i D卯m y Merched ac yn ystod yr h芒f bum yn chwarae yng Nghaerfyrddin ym mhencampwriaeth T卯m Cymru.

    Llwyddais i ennill pob g锚m ac rwy'n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf pan fyddwn yn chwarae yng Ngogledd Cymru - yn Nefyn, rwy'n credu. Enillais dlws arbennig yng Nghonwy yr h芒f hwn - cefais 3 birdie ac un eagle. Ar hyn o bryd rwyf yn byw ym Mwcle efo'm cymar ac yn gweithio fel Rheolwr Cwrnni Yswiriant yn yr ardal, rwyf yn y swydd hon ers ugain mlynedd.

    Rwy'n edrych ymlaen yn arw at gael ymddeol yrnhen ychydig flynyddoedd fel y cawn eto ddychwelyd i'm hoff ddyffryn - Dyffryn Conwy.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy