成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Huw Gareth Roberts Cricedwr o fri
Mawrth 2004
Mae chwaraeon a ffitrwydd yn rhan bwysig iawn o fyd Huw Gareth Roberts, Llandrillo yn Rhos.
Criced yw ei brif ddiddordeb, a bu'n llwyddiannus iawn yn y g锚m honno. Creda fod anogaeth ei ddau daid yn gyfrifol am ddenu ef i'r byd hwn - taid ar ochr Brian, ei dad, Bob Roberts, yn gryn gricedwr, a thaid ar ochr Carol, ei fam, Arthur Rowlands wedi cael treial p锚l-droed gyda Manchester United. Mae rhieni Huw wedi mwynhau ei wylio ar y llain criced, er i'w chwaer Gwen gael ei llusgo yno heb fawr o barch iddo!

Daeth Huw i'r byd yn Nyffryn Clwyd - ganed ef yn Llanelwy a bu'r teulu yn byw yn Llanrhaeadr yng Nghinmeirch a Dinbych, cyn mudo i Fae Colwyn, pan oedd ef yn 11 mlwydd oed. Treuliodd dri mis yn Ysgol Bod Alaw cyn mynd i Ysgol y Creuddyn. Aeth i Goleg Caer, lle graddiodd mewn Hanes a Gwyddor Chwaraeon, ac i Goleg Bangor ar gwrs paratoi ar gyfer gyrfa fel athro.

Bu'n ymarfer addysgu mewn ysgolion lleol megis Penmaenmawr a Glanwydden, lle bu'n llenwi bwlch wedyn am hanner tymor, ac yn cyflenwi am gyfnod yn Ysgol y Creuddyn. Wedi mynd i Awstralia am 5 mis, gyda ffrind o'r wlad honno bu'n chwarae criced i Fae Colwyn, daeth yn 么l adref, a chyn bo hir cafodd swydd fel athro Blwyddyn 3 yn Ysgol Pen y Bryn. Yn naturiol mae'n dysgu peth chwaraeon yno.

Hoffa Huw lawer o chwaraeon, ac yn arbennig golff a ph锚l-droed, gan fwynhau ar y teledu, gwffio, restlo a bocsio! Ffordd o ymlacio oedd hynny - y criced sy'n cyfrif. Cafodd gyfle i gynrychioli t卯m Cymdeithasol Cymru pan oedd dan 16 oed, ac yn y blynyddoedd dilynol daeth i adnabod rhai o chwaraewyr Clwb Morgannwg. Daeth Huw yn enwog pan oedd Morgannwg yn chwarae ar gae Bae Colwyn yn erbyn Sussex.

Cafodd ei hun wrth gefn rhag ofn i anaf yrru un o hogiau Morgannwg o'r maes. Dyna ddigwyddodd, gyda Huw yn un o'r t卯m am ddeuddydd. Manteisiodd yn llawn ar y cyfle gwerthfawr, gan ddangos dwylo medrus pan oedd y b锚l ar lawr a dwylo bendigedig pan ddaliodd y b锚l ddwywaith yn yr awyr, er mor gyflym yr oedd hi'n trafeilio. Robin Marlyn Jenkins a Tony Cottey (gynt o d卯m Morgannwg) oedd y ddau enwog a anfonodd Huw i'r pafiliwn!

Yn ddoeth iawn rhodd ef y mwynhad o chwarae criced gyda th卯m Bae Colwyn yn gyntaf, gan fod, bob tro, yn gwneud ei orau glas.

Er y sylw roddir i griced, rhaid cofio'r amser pan oedd yn chwarae p锚l-droed. Cafodd gyfle, gyda th卯m Gogledd Cymru dan 15 oed, ac wedyn 16 oed, i ymarfer gyda Michael Owen a chwarae yn erbyn Craig Bellamy - tipyn o gamp. Bron cystal 芒 chwarae, fel mae yn awr gyda th卯m Y Glannau dan arolygaeth Moi Parri, Prifathro Ysgol Bod Alaw, lle mae Huw yn y G么l!

Un o arwyr amlycaf Huw ym myd criced yw Andre Nell o Dde Affrica, fu'n chwarae gydag ef i Fae Colwyn am gyfnod. Erbyn hyn mae Nell yn cynrychioli ei wlad ac wedi bowlio y cawr o fatiwr, Brian Lara, allan ddwywaith mewn un diwrnod - andros o gamp.

Rhydd Huw glod hefyd i Mark Waugh (Awstralia) a Chris Cains (Seland Newydd.) Gan ei fod wedi gwirioni ar griced, dymunwn iddo flynyddoedd o fawrhad a llwyddiant ar y maes. Mae'n ei deilyngu.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy