成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Dilys ar lan y m么r gyda Capten Harri G诺yl y Banc
Medi 2008

Dilys ar lan y m么r gyda 'Capten Harri '

Trefnwyd penwythnos arbennig i gofio sut roedd y dref yn ystod y 40au.

Dydd Sadwrn

Ar y Sadwrn roedd nifer o stondinau'r elusenau o dan yr arc锚d a'r hen siop Bartles yn llawn o bob math o bethau am yr hen amser hyd yn oed lein ddillad gyda'r geiriau "Siegfried Line".

Cafwyd brechdanau Spam a jeli a blancmange yn y caffi - roedd yn brysur drwy'r dydd.

Y r un oedd y stori ar lan y m么r gyda'r caffi yn brysurach nag erioed.

Nos Sadwrn cynhaliwyd cabaret a dawns yn y neuadd gyda Calum yn canu, hefyd merch o Loegr, Fiona Harrison. Roedd y lle yn orlawn.

Gwelwyd j卯ps a thanciau yn mynd o gwmpas trwy'r penwythnos a merched a dynion wedi eu gwisgo mewn dillad rhyfel o Brydain, America a'r Almaen.

Dydd Sul

Bore Sul aeth nifer i lan y m么r i weld y milwyr wrth eu gwaith ac yn y prynhawn daeth nifer fawr at y gofgolofn i wasanaeth byr gyda Fiona yn cynrychioli'r Cyngor, Enid dros yr eglwysi a Bill, fel un a fu yn Korea ac yn cynrychioli'r rhai a fu yn y rhyfel, yn gosod tusw o'r pabi coch ar y gofgolofn tra clywyd swn y pibydd yn y cefndir.

Daeth y Sul i ben gyda chyngerdd gan 'Happy Faces' - cwmni sydd yn gweithio'n galed i godi arian at elusennau plant, ac eto roedd y neuadd yn llawn a phawb wedi mwynhau.

Dydd Llun

Diwrnod prysur gyda ambell i stondin a gweithgareddau ar y prom. Daeth y penwythnos i ben tua 3 o'r gloch gyda swn y 'Last Post'.

Roedd nifer o'r merched, a rhai o'r dynion a phIant wedi gwisgo'n addas i gofio'r 40au - ffrogiau, hetiau, 'snoods' sana nylon hefo 'seam' lawr y cefn - Dod ag v atgofion plentyndod yn 么l.

Vivienne Mooney, un o'n cynghorwyr oedd yn arwain y gweithgareddau ac mae'n rhaid canmol y t卯m cyfan am eu gwaith dros yr 糯yl.

Rhaid i mi gyfaddef nad wy'n rhy hoff o bethau fel hyn ond cefais fwynhad mawr o fod yno ac yn llawn canmoliaeth o'r gwaith wnaed.

Enid M Williams, gohebydd Penmaenmawr


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy