Ar y ffordd adra o Lincolnshire fuon ni, digwydd bod, wedi ymweld 芒 ffrindiau, ac oherwydd ein bod yn gwybod y buasen yn pasio trwy Ardal y Peak, roedd hyn yn gyfle da i gael dau ddiwrnod o wyliau mewn ardal braf. Yn y dafarn roedd ein "cyffeilliau" newydd ofyn i ni a oedden ni ar wyliau, a lle oedd "adra". Ac wedi clywed ein bod yn byw yn Eryri, roedden nhw'n methu'n l芒n a deall pam roedden ni isio cael gwyliau yn rhywle arall! 'Doedden ni ddim yn byw ym
Mharadwys yn barod?
Mae'n gwneud i chi feddwl, 'tydy? Bydd y rhan fwyaf o bobl yn mynd ar wyliau i rywle braf - cyn gorfod mynd adra i rywle sydd yn llai prydferth o lawer. Ond dim y ni ym mro y Pentan! Dan ni'n ddigon ffodus i fedru mynd i lefydd fel Ardal y Peak (ac oes, mae 'na lefydd sydd yn anhygoel o brydferth yno), ac wedyn dychwelyd i rywle yr un mor brydferth.
Cyn mynd doedden ni ddim yn si诺r a ddylen ni fwcio ymlaen llaw neu beidio, ac wedi edrych ar y We, daeth hi'n glir nad oedd 'na ddiffyg o lefydd Gwely a Brecwast yn yr ardal.
Ond dydy darllen am lefydd ar y We - hyd yn oed os oes 'na luniau - ddim yr un fath a
gweld lle yn y cnawd, nac ydy? Yn y pen draw, er nad oedden yn disgwyl cyrraedd yr ardal tan hwyr yn y prynhawn, penderfynon ni geisio cael hyd i le addas ar siawns.
A dyna wnaethon ni - cael hyd i le bendigedig ym Matlock. Ond
rhaid dweud, wedi edrych ar eu gwefan ers hynny, fuasen ni ddim
wedi bwcio i aros yno tasen ni wedi gweld y geiriau "yn union yng
nghanol y dref" o flaen llaw! Ond fel mae'n digwydd mae'r gwesty ar
ben ryw ffordd bengaead (cul-de-sac) ar lannau'r afon, a pharc mawr
ar ei thraws, felly chlywson ni ddim byd. A chan fod 'na bont fach
dros yr afon, fedren ni fod mewn t欧 bwyta neu dafarn dda o fewn
munudau.
Er ein bod wedi cerdded yn y Peak o'r blaen, dim ond yn y Dark Peak yn y gogledd fu hyn. Roedd y White Peak yn y de yn gymharol newydd i ni, felly cyn mynd roeddwn i wedi edrych ar y We i weld oedd 'na s么n am deithiau cerdded da. Wel oedd - llawer o wybodaeth, ac ar 么l dau ddiwrnod o gerdded yn yr haul rhaid i mi ddweud mod i wedi dotio'n lan at y lle, a jyst a marw isio mynd yn 么l.
A r诺an ein bod yn adnabod yr ardal yn well, ac yn gwybod lle ydy lle, rydw i wedi bod yn chwilio mwy ar y We am deithiau da, yn arbennig yn y Dales ac ar hen welyau'r traciau - mae 'na nifer, er enghraifft Llwybr Tissington, Llwybr Monsal a Llwybr Manifold ('Googliwch' y rhain am wybodaeth!). Ac o ganlyniad, erbyn hyn mae gen i restr hyd fy mraich! A mwy na hyn rydw i wedi dod o hyd i siop lyfrau ar y We sydd yn arbenigo mewn llyfrau cerdded, felly cyn ein hymweliad nesaf byddaf yn archebu sawl o'r rhain.
Cyn cychwyn am adra, dwedodd perchnogion y gwesty wrthon eu bod yn bwriadu cynnig cysylltiad rhyngrwyd diwifrau i westeion yn y dyfodol. Am ddim. Felly fyddaf yn mynd a'r laptop tro nesa? Dim peryg! Gellwch fo dyn sicr y bydd gen i well pethau i'w gwneud pan fyddaf yno!
Mwy am Gyfrifiaduron a Byd y We y mis nesaf.