Daeth disgyblion o Ysgol Nant y Coed, Ysgol Maelgwn, Ysgol Aberconwy ac Ysgol y Creuddyn i Ganolfan Ymwelwyr Llywodraeth y Cynulliad gerllaw'r safle i weld y capsiwl ac i feddwl am bethau i'w rhoi ynddo.
Bydd y plant nawr yn mynd yn 么l i'w hysgolion i benderfynu ar yr union bethau y maen nhw am eu cynnwys.
Ymhlith syniadau'r disgyblion yn ystod eu hymweliad oedd cyfweliad a chyn-weithwyr Hotpoint, bwydlen cinio ysgol, llyfr lloffion a gwisg ysgol.
.
Bydd y capsiwl amser yn cael ei gladdu yn nerbynfa'r adeilad newydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac ni fydd yn cael ei agor eto am 50 mlynedd.
Meddai Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan: "Bydd swyddfeydd newydd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno yn ased gwirioneddol i bobl y Gogledd. Dyna pam mai plant yr ysgolion lleol sy'n cael penderfynu beth ddylai gael ei roi yn y capsiwl amser, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu syniadau.
"Mae'n 10 mlynedd ers datganoli ac felly bydd 60 mlynedd o ddatganoli wedi mynd heibio cyn y bydd y capsiwl hwn yn cael ei agor.
Ni allwn ni ond dychmygu pa newidiadau fydd wedi digwydd erbyn hynny, ond yn y cyfamser, mae adeiladu swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno yn arwydd heddiw o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i Ogledd Cymru."
Meddai Jonathan Pochin, rheolwr gyfarwyddwr Pochin Construction: "Yn ystod y gwaith o godi'r adeilad hwn rydyn ni wedi trefnu ymweliadau a'r safle ac wedi siarad mewn ysgolion i ennyn diddordeb disgyblion yr ardal yn y datblygiad. Dyma gam arall ymlaen i gael y plant i ymddiddori yn y datblygiad - rwy'n gobeithio'n fawr y bydda i'n dal yma ymhen 50 mlynedd i weld y capsiwl yn cael ei godi unwaith eto!"
Mae'r capsiwl amser i'w weld ar hyn o bryd yn y Ganolfan Ymwelwyr, 2 Narrow Lane, Cyffordd Llandudno.
Hefyd yn y Ganolfan, mae model ac animeiddiad o'r adeilad newydd, yn ogystal ag arddangosfeydd sy'n rhoi gwybodaeth am y prosiect.
Mae'r Ganolfan ar agor rhwng 10 am a 4pm ar ddiwrnodau gwaith.
|