"Cofiwch y dyddiad! Dydd Mercher, Chwefror 23ain, 200S. Dyma'r dydd hir-ddisgwyliedig y bu paratoi amdano er bron i hanner can mlynedd. Cofiaf Mr Gwilym Humphreys, Cyfarwyddwr Addysg Gwynedd ar y pryd, yn dweud wrthyf adeg fy mhenodi i'r swydd yn 1992 y buaswn mewn ysgol newydd ar un safle o fewn dwy flynedd. Aeth y ddwy flynedd yn dair ar ddeg ond do, fe gyrhaeddodd y dydd.Teimladau cymysg oedd gennym ar ddydd Mercher Chwefror 9fed yn yr Adran H欧n. Y weithred addysgol olaf yn adeiladau'r hen Ysgol Ramadeg oedd gair o weddi i ddiolch i Dduw am yr holl drysor o addysgu a gafwyd i genedlaethau o blant ar y safle dros y canrifoedd ac i ofyn am nawdd i bob un ohonom i edrych ymlaen yn hyderus i'r dyfodol mewn adeiladau newydd ar safle'r Adran Iau.Tristwch oedd gorfod gadael cymaint o hanes addysgol yr ardal tu fewn i'r muriau. Yn amlwg, mae'r byrddau anrhydeddau yn y Llyfrgell/Hen Neuadd yn parhau i fod yn destun diddordeb i nifer o gyn ddisgyblion ac eraill sy'n awyddus i'w gweld. Does ond gobeithio bydd datrysiad buan i'r amheuaeth pwy yw perchnogion yr adeilad ac y byddant hwy, wedyn, yn symud ymlaen yn ddiymdroi i ddefnyddio'r safle.
Gosodwyd her bensaern茂ol i'r cwmni fu'n adnewyddu'r Adran Iau - oherwydd yr afon fechan sy'n rhedeg drwy'r safle, yn bennaf. Ond mae'r gwaith ar ben, a phawb yn dechrau ymgyfarwyddo gyda bod o dan yr unto ers Chwefror 23ain. Er gwybodaeth - bydd y Ganolfan Hamdden yn cael ei rhedeg gan yr ysgol yn ystod oriau ysgol a chan Adran Hamdden y Cyngor Sir ar adegau eraill. Bydd yr adeiladau danarolygaeth camer芒u cylch cyfyng ddydd a nos a bydd yr holl safle wedi'i gloi rhwng 10.00 yr hwyr a 7.00 y bore.
Edrychir ymlaen at weithio o dan yr unto, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod wrthi'n ddyfal dros y blynyddoedd diwethaf yn paratoi a chynllunio'r ffordd ymlaen.
Yn y cyfarfod ar Chwefror 5ed, cafwyd atgofion gan gyn athrawon a chyn ddisgyblion. Yn eu plith roedd Miss Sarah Owen, fu'n athrawes yn Adran Economeg y Cartref am flynyddoedd, a Glyn Roberts, Ysbyty Ifan, Elfrys Roberts a Pat Rowley, Llanrwst (cyn ddisgyblion).
Roedd Pat Rowley yn ddisgybl yn y 50au. Roedd ganddi atgofion lu am ddyddiau ysgol pur wahanol i rai'n dyddiau ni.
Cofiai'r newyddeb o gael ei dyrchafu i'r Ysgol Ramadeg yn dilyn ei llwyddiant yn y 'Scholarship' a gorfod gwisgo 'blazer' gyda bathodyn yr ysgol a 'beret' - rheiny wedi eu prynu yn 'London House'. Roedd rheolau caeth yngl欧n 芒 gwisgo'r 'beret' gyda'ch gwisg ysgol bob amser. Daeth geirfa newydd sbon i'w bywyd - 'algebra', 'geometry', 'science', 'chemistry', 'biology', 'physics', 'Latin' a 'French' (y Saesneg a ddefnyddid yn y cyfnod hwn, wrth gwrs).
Disgrifiodd fel y tyfodd yr ysgol yn ystod y 50au, gydag adeiladau 'pre-fab' newydd yn cael eu codi i ymateb i'r cynnydd yn nifer y disgyblion.
Cofiai lawer o'r athrawon - roedd y Prifathro, R J Parry, yn byw ar y safle yn nh欧r Prifathro a'r rhan fwyaf o'r athrawon yn byw yn Llanrwst neu yn Nhrefriw. Enwodd lawer ohonynt, gan gynnwys G O Jones oedd yn athro Cymraeg ond hefyd yn cynrychioli Cymru fel pysgotwr rhyngwladol, Jack Williams, Athro Ffiseg a fyddai'n adrodd barddoniaeth yn ei wersi, Dewi Rees, athro Hanes a chricedwr o fri a fu'n gapten ar d卯m Sir Gaernarfon droeon a llawer mwy. Y cwbl ohonynt yn gwisgo eu gynnau duon gydol y dydd.
Roedd rheol na chai neb adael yr ysgol yn ystod y dydd os nad aent adref i Lanrwst i ginio - a chai neb fynd ddim pellach na Siop Bach ar Heol Ddinbych.
Cymdeithas fechan glos oedd yn y 50egau - 341 o ddisgyblion yn 1951/2 a 361 yn 1955. Bob bore cynhelid gwasanaeth yn y Neuadd, a ddefnyddiwyd yn ddiweddar fel llyfrgell, a phawb yn gallu ei fynychu. Dyma'r rhan sy'n dyddio o gyfnod Syr John Wynn, ac y gobeithia Pat, fel llawer yn Llanrwst, y gellir ei gadw a'i ddefnyddio mewn rhyw fodd gan ei fod yn rhan hanfodol bwysig o hanes Llanrwst.