成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Rhai o'r miloedd a oedd yn Auschwitz i gofio. Ymweld ag Auschwitz
Tachwedd 2007
Ymweliad dirdynnol chwech o fro'r Odyn 芒 gwersyll Auschwitz yng Ngwlad Pwyl.
Roedd hi'n fore Hydrefol braf, a ninnau'n chwech newydd fwynhau llond bol o frecwast yn Kracow yng ngwlad Pwyl.

Cyrhaeddodd y tacsi mewn chydig a dyma gychwyn ar daith oedd i adael argraff arnom am weddill ein hoes.

Roedd y daith yn cymryd tua awr a hanner mae'n debyg ar hyd ffyrdd oedd yn ddigon anwastad. Er ein bod ni allan yn y wlad dim ond un anifail fferm a welson ni. Roedd Ken Wil wedi sylwi ar fuwch yng nghefn t欧 rhywun a choeliwch neu beidio, fe welodd Ann P glamp o gamel!

Roedd Anwen a Jane yn ddwfn mewn trafodaeth, a Dafydd Gwyndaf yn trio dal pen rheswm efo'r gyrrwr ond heb fawr o lwc gan nad oedd hwnnw'n deall na Chymraeg na Saesneg.

Ta waeth, roedden ni ar ein ffordd i Oswiecim a'r chwech ohonom yn ddigon ansicr - hynny ydi, doedden ni ddim yn siwr iawn os oedden ni'n wirioneddol am ymweld 芒'r lle ai peidio.

Dyma gyrraedd o'r diwedd a phenderfynu nad oeddem am gael tywysydd i fynd a ni o gwmpas. I mewn a ni trwy'r fynedfa ac yno wrth ein pen roedd y geiriau 'Arbeit macht frei' - Daw gwaith a rhydaid. Ble roedden ni medda chi? Wedi camu trwy'r fynedfa roedden ni yng ngwersyll erchyll Auschwitz ac roedd na ias annifyr yn rhedeg i lawr yr asgwrn cefn.

Yma y cludwyd carcharorion o bob rhan o Ewrop - Iddewon yn bennaf ynghyd 芒 Sipsiwn a charcharorion rhyfel o Rwsia. Yn y sgwar cyntaf, arferai cerddorfa chwarae gorymdeithiau er mwyn i'r SS gael cyfri'r carcharorion.

Os nad oedd y cyfri'n gywir, yna gorfodwyd y carcharorion i sefyll y tu allan, waeth beth oedd y tywydd, a hynny heb ddillad addas amdanynt.

Roedd yno luniau o'r trueiniaid, ac roedd un ystafell yn llawn o fagiau dillad gan i'w perchnogion gredu eu bod yn cael eu hadleoli. Chydig a wyddai'r creaduriaid beth oedd o'u blaen. Tu 么l i'r ffenest nesa roedd gweddillion parau sbectol, brwsys dannedd, brwsys siafio a brwsys gwallt. Eiddo personol y carcharorion wedi eu llwytho yn bendramwnwgl ac edrych arnynt yn dod a deigryn i'r llygaid.

Sefyll am ennyd wedyn wrth y wal ble saethwyd miloedd o Bwyliaid cyn symud ymlaen at grocbren ac yma roedd deuddeg o Bwyliaid wedi eu crogi ar yr un pryd am gynorthwyo eraill i ddianc.

Ychydig lathenni y tu allan i'r gwersyll roedd y siambr nwy a'r amlosgfa . Mi fuon ni yn y gwersyll arall wrthlaw hefyd sef Birkenau gyda'i rheilffordd yn rhedeg drwy'r gwersyll ac yn stopio'n stond gyferbyn a dwy siambr nwy enfawr.

Roedd nifer fawr o'r carcharorion yn dod oddi ar y tren ac yn syth i'r siambrau nwy.

Does wybod i sicrwydd faint o bobl a phlant a lofruddiwyd yn Auschwitz ond yr amcangyfrif agosaf yw 1.5 miliwn

Doedd yr haul ddim yn tywynnu yn Auschwitz, doedd dim adar yn canu'n llon yn y coed, a'r cwbwl a deimlem ni ein chwech oedd anghrediniaeth llwyr, tristwch, a chywilydd dros ein cyd-ddyn. Roedd yn brofiad dirdynnol na ellir ei gyfleu mewn geiriau. Ni fydd ail ymweliad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy