成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Y Meuryn, Myrddin ap Dafydd gyda Dewi Jones, Llangwm, a th卯m Dyffryn Conwy. Ymryson yr 糯yl
Rhagfyr 2004
Cynhaliwyd Ymryson yr 糯yl yng Ngwesty'r Eryrod, Llanrwst, ar y nos Fercher cyn G诺yl Cerdd Dant Dyffryn Conwy.
Daeth tri th卯m i'r ornest - Gwynedd, Dyffryn Conwy a Chlwyd gyda Myrddin ap Dafydd yn meuryna. Wedi ymryson caled a difyr, T卯m Clwyd dan gapteiniaeth John Glyn fu'n fuddugol. Am y tro cyntaf, teledwyd yr ymryson yn ei gyfanrwydd gan gwmni Tonfedd Eryri.

Englyn milwr gydag enw lle yn y llinell gyntaf

Cymer yr hen dai teras,
cytiau brain truain eu tras -
yno mae codi dinas.
Iwan Llwyd, Dyffryn Conwy

脗 mur trwy lwch Samaria
Caer ar chw芒l yw Ramala,
Dwy hil heb ewyllys da.
Nia Powell, Gwynedd

Ceinder nef yw Llangernyw,
Man gwladol, hudol ydyw'n
Llawn o feirdd, lle iawn i fyw.
Dafydd Emrys, Clwyd

Gorffen Limerig - 'Un Tachwedd wrth diwnio fy nhelyn'

Un Tachwedd wrth diwnio fy nhelyn
Fe dwistiais a thwistiais un pegyn
Ond wrth i mi dwisto
Fe ffaeles i stopo
Ni f没m i'r un person byth wedyn.
John Gwilym Jones, Gwynedd

Un Tachwedd wrth diwnio fy nhelyn
Daeth Elinor heibio'n noethlymun
Gwirionais yn l芒n
Anghofiais y g芒n
Ond trewais i ambell i nodyn.
Moi Parri, Clwyd

Un Tachwedd wrth diwnio fy nhelyn
Y beirniad ddaeth heibio yn sydyn,
Ti'n cael fawr o hwyl
Cei gynta'n yr 糯yl
Rwy'n gwybod i bwy rwyt ti'n perthyn.
Huw Roberts, Dyffryn Conwy

Pennill Telyn yn cynnwys llinell - 'Troi yr awr a throi i'r gaeaf'

Troi yr awr a throi i'r gaeaf
Brath y rhew dy eiriau olaf
Pan ddaw'r haf a fydd meirioli
Wrth i'th galon eto doddi?
Andrea Parry, Dyffryn Conwy

Troi yr awr a throi i'r gaeaf
Gweld y nos yn dynn amdanaf
Chwilio'r wawr am gil agoriad
Daw y gwanwyn fesul eiliad.
Cynan Jones, Gwynedd

Troi yr awr a throi i'r gaeaf
Daw yr hirlwm ar ein gwarthaf,
Troi mae'r rhod ac yn ei gylchdro
Daw y gwanwyn unwaith eto.
Huw Dylan, Clwyd

Cywydd yn cynnwys llinell - 'Heno dwi'n mynd amdani'

Heno dwi'n mynd amdani
Heno yw'n Nirfana i
Heno'n benllanw einioes
Heno rwyf yn gawr yr oes
Heno'n dwym o fewn y das
Heno, caf Bethan Gwanas.
Cynan Jones, Gwynedd

Heno dwi'n mynd amdani,
yr wyf am ei morio hi
a rhoi 'hel' i unrhyw un
a welodd erioed delyn.
Bydd mam yno'n ddi-amau
a'i cheg yn agor a chau.
John Glyn, Clwyd

Er bod fy merch i, Rhian,
yn brolio rhin gwin y gwan,
yn s么n am swyn y Moselle
bob nos, pan mae'n benisel,
sobor wyf, heb rannu'r sbri ...
heno dwi'n mynd amdani!
Ifor ap Glyn, Dyffryn Conwy

Englyn cywaith - 'Afal'

Hwn oedd ddoe'n grwn ei addewid - a rhos
lach ei rudd fel i'enctid
Yn landeg am aflendid
Calon sy'n gynrhon i gyd.
Gwynedd

Wele Eden o fwledi - yn hyrddio
drwy'r ardd ddidosturi
a thir anial ei thrueni,
a th芒n yw ei blaenffrwyth hi.
Dyffryn Conwy

I ddyn rhoddwyd tiroedd anial, - yna
Chwys wyneb i'w gynnal;
Rhygnu byw am i Dduw ddal
Efa'n dwyn blydi afal.
Clwyd

C芒n - cywaith rhydd y timau - 'Yr Arwydd'

Mae arwydd bach yn gwylltio pawb
A does i neb ymgeledd,
Yr hyn sy'n ofid yma i ni
Yw camras heddlu'r gogledd

Waeth heb na gyrru mini bach
Na jag yn llawn gorfoledd,
Caiff pawb eu fflachio dyna'r gwir
Gan gamras heddlu'r gogledd.

Does obaith i'r 'four by fours'
Na gorffwyll yrru'r gwragedd,
Ac ofna'r ffarmwrs weld y fan
A chamras heddlu'r gogledd.

Maent fel bwncathod hyd y fro
Ar drywydd eu dialedd,
A glanio'n hy o le i le
Wna camras heddlu'r gogledd.

Mae'n wynt a glaw a diolch fyth
Yn twyllu nghynt yn Nhachwedd
Am ennyd cawn ni deithio'n rhwydd
Heb gamras heddlu'r gogledd.
Dyffryn Conwy

Rhyw ffarmwr mawr o'r Ba-a-la
Un diwrnod aeth i sio-o-pa
Mewn 4 x 4 mawr du
Mewn 4 x 4 mawr du
Ha-ha-ha-ha ayyb.
Mewn 4 x 4 mawr du

Ger Kwiks fe welodd a-ar-wydd
Be goblyn oedd yr a-af-Iwydd
Un ieithog ar y sein
Un ieithog ar y sein
Bw-hw-w bw-hw ayyb.
Yn Saesneg oedd y sein.

Daeth holl fytheid y Ba-a-la
I weiddi nerth eu pe-en-a' .
'Di hyn ddim digon da
'Di hyn ddim digon da
O na na na na ayyb.
Rhaid newid petha - Wa.

Un noson ger Llyn Ba-a-la
Taflwyd yr arwydd ti-i-la
I'r dyfroedd dros ei ben
I'r dyfroedd dros ei ben.
Ha-ha-ha-ha-ha ayyb.
Er clod i Walia Wen - Wa.

Gwynedd

Ni wn pa ff诺l a ddywedodd
Mai pwrpas arwydd o hyd
Yw rhoi gwybodaeth yn syml
I'r rhai sy'n byw yn y byd.
Wel tydwi ddim yn athrylith,
Ond weithiau dwi ar fy ngwir
Yn methu a deall rhyw arwydd
Er syllu am amser hir.
B没m wrthi'n ddyfal rhyw ddiwrnod
A lwyddais ddim eto chwaith,
I godi drws a 'lifft' arno
Er trio am amser maith.
Yn steddfod Casnewydd roedd arwydd
Un melyn a sgrifen du,
Ac arno'n glir y gorchymyn
'Heddlu arafwch yn hy.
Wel gan nad oeddwn yn heddwas
Gellwch ddychmygu fy siom
Pan stopiwyd fi am or-yrru
A'm hitio a dirwy drom.
Fe f没m am wythnos yn Llundain
Yn siopa ond ar fy llw
Fues i ddim fyny grisiau
Yn run ohonyn nhw.
Ar bob escalator roedd arwydd
'Dogs must be carried' a llun,
Felly fedrwn i ddim mynd amo,
Doedd gen i ddim ci fy hun.
Un pnawn fe olchais fy nillad,
Mewn Londret orlawn a phoeth
A chefais f'arestio gan blismon
Am sefyll yno'n noeth.
'Wel dyna orchymyn yr arwydd'
Protestiais wrth fynd lawr y stryd'
'Pan aiff y golau coch allan,
Tynnwch eich dillad i gyd.'
Felly dwi am gychwyn ymgyrch
I gael i bobl fel fi
Arwydd tu 么l i bob arwydd.
I'w hegluro'n glir i ni.

Clwyd


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy