成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Tynnwyd y llun yng ngahpel Rhydymeirch ym Mawrth 2002. Diwedd cyfnod a dechrau cyfnod newydd
Mawrth 2004
Cynhaliwyd cyfarfod hanesyddol yng nghapel Salem, Penmachno, pryd yr unwyd dwy o eglwysir Methodistiaid Calfinaidd yn y cylch, Rhydymeirch, Cwm Penmachno a Salem yn y Llan.

Daeth nifer dda o aelodau a chyn aelodau'r ddau gapel i ddathlu'r achlysur unigryw hwn ar nos Sul cyntaf y flwyddyn, y 5ed o Ionawr 2004. Ysgogwyd yr uniad oherwydd i ostyngiad ym mhoblogaeth y plwyf, yn enwedig ym Mhenucha'r Plwy' olygu gostyngiad yn niferoedd mynychwyr Rhydymeirch a Salem fel ei gilydd. Cymaint y dirywiad yn rhifau'r boblogaeth nes gorfod wynebu realiti'r sefyllfa drist, a chaewyd Rhydymeirch ar ddiwedd blwyddyn 2003, gan benderfynu uno'r ddau gapel.

Efallai y dylid rhoi cipolwg sydyn dros hanes diddorol yr achos yng Nghwm Penmachno, gan ymfalch茂o, yng nghyfraniad Rhydymeirch yn 1864, ar gost o 拢600, a chynyddodd yr aelodaeth yn sylweddol. Yn 1898, codwyd y trydydd capel ar y safle, y capel hardd a welir yn bresennol, yngh欧d 芒 th欧 capel, ysgoldy a festri gan gwmni adeiladu Thomas Parry o Fae Colwyn.

Roedd y draul am y gwaith yn 拢2,658, ac ymhen tair blynedd roedd y ddyled wedi gostwng yn is na 拢1,000, ac erbyn 1917 roedd pob dimau wedi ei dalu. Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, cynhaliwyd cantawdau uchelgeisiol yn y capel, gyda phobl o bellteroedd yn dod i Rydymeirch i fwynhau'r wledd o gerddoriaeth yn rheolaidd.

Yn 1934, canmlwyddiant Rhydymeirch, roedd 129 o aelodau cyflawn ar lyfrau'r capel, ond wrth i ddirwasgiadau amharu ar gynnyrch y chwareli, gostwng yn raddol wnaeth yr aelodaeth, a bu i gaur chwarel olaf yn y Cwm yn 1962 effeithio'n arw ar boblogaeth y plwyf, ac ar aelodaeth yr enwadau crefyddol yr ardal yn gyffredinol.

Wedi gair byr gan lywydd Henaduriaeth Dyffryn Conwy, Mr Emlyn E. Jones, Llangernyw, a Mrs Iola Jones cafwyd anerchiad bwrpasol gan y gweinidog, y Parch. Iorwerth P. Jones. Dywedodd nad adeilad yn unig oedd Salem, ond eglwys unedig Penmachno. Er nad oedd symud i fyw i Salem yn broses hawdd i aelodau Rhydymeirch, nid diflaniad yr achos yno oedd meddai, ond uniad, a'r ddau gapel yn un corff.

Rheswm i ddathlu oedd hwn, i ddatgan diolch am gael dechrau pennod newydd ar ddechrau blwyddyn newydd yn hanes addoliad ym Mhenmachno. Pwysleisiodd na ddylid byw gormod yn y gorffennol, a cheisio gweld hyn yn gyfle newydd ac yn uchelgais i'r dyfodol, ac i hynny sbarduno'r presennol.

Atgoffodd bawb o eiriau'r Iesu pan ddywedodd na ddylid poeni'n ormodol am yfory. Siarter Cristion yw byw heddiw meddal, a dylai'r presennol fod yn bwysicach i ni na'r gorffennol, ac na ddylid caniatau'r cof reoli bywydau.

Cyflwynwyd y gweinidog, 芒 Beibl pulpud Rhydymeirch gan yr aelodau yn ystod y gwasanaeth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy