成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Daniel Amor C芒n i Gymru
Mawrth 2006
Gwelwyd wyneb lleol ar S4C yng nghystadleuaeth C芒n i Gymru ar Fawrth laf eleni gan mai'r canwr o Benmachno, Daniel Amor, oedd yn perfformio un o'r caneuon, Digon yw Digon.

Cafwyd dehongliad deallus a sensitif gan Dan - roedd yn g芒n addas iawn ar gyfer ei steil ef o ganu - ac mae'n sicr fod doniau Dan wedi helpu i ddenu'r pleidleisiau gan i'r g芒n ddod yn ail yn y gystadleuaeth.

Mae Dan yn brysurach nac erioed fel canwr ac mae 2006 yn argoeli i fod yn flwyddyn lwyddiannus iawn iddo.

Mae'n cyfansoddi'r rhan fwyaf o'i ganeuon ei hun ond cydweithiodd yn ddiweddar efo John Lawrence, cyn-aelod o'r gr诺p Gorky's Zygotic Mynci, i recordio sengl newydd o'r enw Hwyr a fydd ar gael i'w lawr-Iwytho ar iTunes yn fuan.

O ganlyniad i'r recordiad daeth cais gan y rhaglen deledu Bandit i ffilmio fideo o'r sengl newydd a chafodd Dan y cyfle i ymweld a'r Alpau Ffrengig am y tro cyntaf.

"Roedd ymweld 芒'r Alpau yn brofiad gret" meddai, "ond bu bron imi ladd un o'r criw teledu wrth gyfnewid lle efo fo mewn ciw traffig ar y draffordd.

"Roedd y cynhyrchydd yn awyddus i fy ffilmio i'n gyrru'r car ond wrth inni gyfnewid lle dechreuodd y ceir symud a dyma finnau'n panicio a dechrau gyrru i ffwrdd yn wyllt gydag aelod o'r criw yn dal i sefyll yng nghanol y draffordd. Mi wyIltiodd ar y pryd ond daeth y digwyddiad yn destun chwerthin erbyn diwedd y dydd!"

Darlledir y fideo yn ystod cyfres nesaf Bandit ar S4C.

Mae Dan wedi ryddhau CDs unigol ac fel aelod o'r gr^wp Gabriel 25 ac mae ei albwm unigol cyntaf, a ryddhawyd ar label Crai, sef Dychwelyd ar werth ac ar gael o siop Bys a Bawd yn Llanrwst.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy