成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Glanypwll, Penmachno
Chwefror 2006
Lleolir y rhesdai hynafol hyn ar fin yr hen ffordd o'r Llan, (ac yn wir, y ffordd drol o gyfeiriad Pen Ll欧n, trwy 'Stiniog) i Lanrwst a phellach.
Hyd at greu Penfforddnewydd tua chanol y 19eg ganrif, hon oedd y 'briffordd' a elai'n wreiddiol o gyfeiriad y bont a thafarn Y Bedol (Machno), heibio'r saith t欧 a elwid yn 'Scotland', lle mae'r Sunny Ridge heddiw, a thir y Benglog. Yna i stryd fechan Glanypwll ac ymlaen dros yr Henrhos a heibio Fuches Goch tua'r dre'.

Hawdd dychmygu'r prysurdeb a'r cyffro fyddai yma ar ddiwrnod ffair Llanrwst, a'r holl drafnidiaeth o bell ac agos yn teithio heibio drysau'r cartrefi cyntefig. Er nad oes modd dyddio Glan y Pwll yn union, mae'n eithaf sicr i'r tai cyntaf gael eu codi tua chanol y 18fed ganrif, gan ychwanegu atynt yn ddiweddarach. Yn y cyfnod hwnnw, cyfeirid at fwyafrif o anheddau'r pentref fel 'Y Llan', neu Village yn 么l trefn Seisnigaidd y cyfnod.

Hen lun o'r rhesdai Ynddynt byddai tlodion y Llan yn trigo a'r mwyafrif ohonynt yn ddibynnol ar nawdd Treth y Tlodion ac elusennau'r plwyf am gynhaliaeth o ryw fath. (Newgate, Mary Street - Ffordd Glasgwm a thai o amgylch yr eglwys rhan fwyaf).

Er i dros ddeg ar hugain o dai'r pentref gael eu cofnodi yn y dosbarth hwnnw yn 1841, a thua 150 yn byw yn y Village, fe enwir Glanypwll fel stryd. Felly, mae'n debyg ei bod o safon uwch na'r rhelyw o gartrefi'r werin y cyfnod yn y Llan. Mae'n bosib fod yma annedd cyn y tai presennol, ac i Glanypwll gael ei godi ar seiliau t欧^ neu dai hirion, lle trigai'r preswylwyr yn un rhan, a'u hanifeiliaid mewn dan yr un to mewn rhan arall.

Rhaid cofio hefyd fod nifer o dai newydd yn codi ym Mhenmachno yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, wrth i'r llechen doi gael ei marchnata yn yr ardal, gan ddisodli'r toeau o wellt, neu gerrig amrwd gynt. Y n 1841, cofnodir pedwar t欧 yn Nglan y Pwll, gydag un ohonynt yn wag. Yn y tri arall, trigai 18, gyda g诺r a gwraig a saith o blant wedi eu gwasgu i mewn i'r cyntaf. Yng nghyfrifiad 1851 cofnodir fod dau d欧 ychwanegol wedi'u codi at y pedwar uchod a 23 yn preswylio yn y chwe th欧. Yn 1891, roedd dau o'r chwe th欧 yn wag, ac anodd yw ceisio dirnad sut yr oedd teulu rhif 2 yn dygymod 芒'u sefyllfa byw enbyd. Heb fath o gyfleusterau y cymerwn yn ganiataol heddiw, yr oedd Robert ac Anne Thomas yn ceisio magu saith o blant, a rhoi lloches i fam oedrannus y penteulu hefyd, cyfanswm o ddeg mewn cartref dwy ystafell, na, nid dwy lofft hyd yn oed, ond dwy ystafell, wan yp a wan down!

Cofnodir saith t欧 Glan y Pwll yn 1901 gyda rhif 6 a 7 yn wag. Dim ond dwy ystafell yn gyfan gwbl oedd mewn dau ohonynt, a thair ystafell yn y gweddill. Yn llyfr Trethi Penmachno am 1929-30 gwelir mai AJ.Hughes, Bodgwynedd oedd perchennog y pum t欧 yn y stryd yr adeg honno. Trethi pedwar o dai Glan y Pwll oedd yr isaf ym Mhenmachno, gyda gwerth ardrethol o 拢1, a'r dreth gyffredinol yn 10 swllt a naw ceiniog (55c.). (Dyna faint a dalwyd o drethi ar garej ym Modowain. Bod Gethin a Llys Meddyg, ac ar y cwt hers hefyd!)

Mae llawer mwy o hanes i'r lle, wrth gwrs, ond rhaid ystyried gofod Yr Odyn. Da yw gweld hen stryd Glanypwll, a fu'n gartrefi i sawl teulu annwyl dros y blynyddoedd, wedi eu hadfer mor ardderchog gan Eifion Davies. Byddai Ann Williams, nain Lily May yn falch iawn o weld y stryd ar ei newydd wedd. Llongyfarchiadau mawr iddo am ennill y gydnabyddiaeth haeddiannol am y gwaith adfer.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy