Roedd rhes o dai a thafarn, a hefyd efail y gof.
Mae'r trigolion oedd yn byw yn Tan Rhiw ers talwm wedi eu claddu ym mynwent yr eglwys, yn dyddio'n 么l i 1879.
Mae'r fynedfa i'r chwarel i'w gweld yn y llun. Nid oedd y top yn ddiogel iawn, galwyd top y fynedfa yn Bwa Mawr.
Roedd y chwarelwyr yn tynnu cerrig dros y Bwa Mawr ond ar ddiwrnod stormus roedd y bwa yn symud ac felly nid oeddent yn medru dod a cherrig i'r felin i'w gwneud yn llechi.
Nes i lawr cyn cyrraedd Tro Tan Rhiw oedd Cwt Bach y Crydd.
Dyma'r lle roedd pawb yn mynd pan oedd angen atgyweirio eu hesgidiau.
Yn is i lawr roedd gan fy nhad (Huw Evans) siop. Roedd yn torri gwallt ac yn gwerthu nwyddau.
Ar un adeg roedd hen dramp yn arfer dod yma yn aml i'r Cwm ac yn aros dros nos yn Nhwll y Cwm, cyn mynd ymlaen ar ei daith.
Un noson torrodd i mewn i siop fy nhad; ni welwyd mohono wedyn!
Robert Davies oedd enw'r crydd oedd yn gweithio yn y cwt bach James Hughes gymerodd y busnes drosodd wedyn, ac agor siop y crydd yn y Ddol.
Dilwyn Evans
|