Bydd Theatr Gogledd Cymru, Llandudno yn atsain i sain y delyn a diwylliant unigryw Cymru. Yn 1982 pan ymwelodd G诺yl Cerdd Dant Cymru 芒'r ardal ddiwethaf, cafwyd g诺yl arbennig o lwyddiannus gyda Theatr yr Arcadia, Llandudno yn orlawn, a chystadlu arbennig o dda trwy'r dydd. Mae llawer yn parhau i s么n am Iwyddiant g诺yl '82, a chaiff ei chyfrif ymysg y goreuon o wyliau cerdd dant y gorffennol. Unwaith yn rhagor mae pob arwydd y cawn ailadrodd llwyddiant 1982, ac y cawn 诺yl i'w chofio ar Dachwedd 20fed. Mae oddeutu 1800 o gystadleuwyr yn brysur yn hogi arfau, ac i dynnu d诺r o'r dannedd megis, mae pedwar C么r Cerdd Dant, 11 Parti Cerdd Dant, 14 C么r Gwerin ac, ar ddawnsio gwerin, 11 parti ac 8 gr诺p stepio - y cyfan yn rhoi inni ragolygon gwych, yn wledd i'r glust a'r llygad. Heb os bydd bwrlwm yn y theatr, gyda digon o le i bawb yn y theatr osgeiddig. Bydd darpariaeth dda ar Radio Cymru ac S4C trwy'r dydd, ond nid oes dim fel bod yn bresennol. Dewch i fod yn rhan o'r awyrgylch ac i gefnogi y cystadleuwyr o bedwar ban Cymru. Cofiwch, Tachwedd 20fed - 12.00 a 5.30 o'r gloch. Yn ddiweddar tynnwyd raffl yr 诺yl, a dyma restr o'r enillwyr: Penwythnos i ddau ym Mharis trwy gefnogaeth Grosvenor Travel, Deganwy - Berwyn Williams, Llanfairfechan. Gwyliau dwy noson yn y Princess Arms, Trefriw - Delyth Davies, Abergele. Cinio canol dydd i bedwar yng Ngwesty St Tudno, Llandudno - Peter Evans, Rhydaman. Pryd i ddau yng ngwesty'r Groes, Ty'n-y-groes - W E Evans, Gwytherin Pryd i ddau yn yr Hen Reithordy, Glan Conwy - Eurwen Roberts, Nant-y-rhiw. Pryd i ddau yn yr Osborne House, Llandudno - Megan Davies, Pontypridd. Rownd o golff i bedwar yng Nghlwb Betws-y-coed - Haf Morris, Llandegfan. Cafwyd elw sylweddol trwy'r ymdrech yma, ac y mae ein diolch yn fawr i'r cwmn茂au a'r sefydliadau a roddodd y gwobrau yn rhad ac am ddim tuag at y raffl.
|