成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Plant heddiw yng ngwisgoedd ddoe Ysgol Penmachno
Ionawr 2009
Braf oedd gweld yr ysgol yn orlawn ar brynhawn Sadwrn, 13 Rhagfyr ar gyfer dathlu canmlwyddiant sefydlu'r ysgol.

Er mai yn Ionawr 1909 y derbyniodd plant eu haddysg am y tro cyntaf yn yr ysgol newydd, cynhaliwyd yr Agoriad Swyddogol ar ddydd Sadwrn, 12 Rhagfyr 1908 felly roedd y dathlu yn digwydd mwy neu lai ganrif union yn ddiweddarach - i'r diwrnod!

Nol yn 1908, wedi i'r Dr Michael Williams, Cadeirydd y Cyngor Plwy', agor yr adeilad yn ffurfiol, gorymdeithiwyd i Neuadd Ty'n-y-porth ar gyfer cyfarfod cyhoeddus a the parti.

Ganrif yn ddiweddarach, roedd arddangosfa wedi ei pharatoi yn yr ysgol o hen luniau a dogfennau eraill.

Manteisiwyd ar dechnoleg fodern i sganio'r rheiny a chofnodi cymaint o enwau a phosib i sefydlu archif yn yr ysgol fel bod y cyfan ar gof a chadw i'r dyfodol.

Un o uchafbwyntiau'r dathlu oedd y disgyblion presennol yn cyflwyno braslun o hanes yr ysgol, gyda'r caneuon wedi eu hysgrifennu gan y pennaeth Mrs Jane Hughes a'i g诺r, Dafydd, y pennaeth blaenorol, wrth gwrs.

Cafwyd gair ganddo ef a chan gyn卢 bennaeth arall, Mr Ellis Hughes a oedd yn brifathro rhwng 1955 a 1962.

Roedd yn braf iawn cael ei groesawu ef yn 么l ac, er yn ei nawdegau, cafwyd anerchiad byrlymus ganddo ac roedd yn rhyfeddol fel y gallai gofio hynt a helynt cymaint o'i hen ddisgyblion.

Yn anffodus, nid oedd ei olynydd, Mr John Hughes, yn gallu bod yn bresennol oherwydd gwaeledd.

Roedd hynny'n siom fawr iddo ef ac i lawer oedd wedi edrych ymlaen at ei weld.

Danfonwyd cofion gorau'r cyfarfod ato.

Cafwyd anerchiadau pwrpasol iawn gan Dilwyn Price, a oedd yn cynrychioli'r Awdurdod Addysg a Gareth Jones, AC ac roedd Dafydd Gwyndaf, Cadeirydd y Pwyllgor Dathlu'n cadw trefn ar bawb.

Ac, os cafwyd te parti yn 1908, roedd paned a lluniaeth ar gael yn 2008 hefyd diolch i waith caled cogyddes yr ysgol, Dilys Roberts, a'i chriw o gynorthwywr prysur.

Ymysg y dyrfa roedd y parchedigion Gerwyn Roberts a Clive Hillman. Ganrif yn 么l, ni fyddai gweinidog anghydffurfiol a rheithor y plwy' wedi bod mor gytun.

Bu sefydlu'r ysgol newydd yn destun dadl hir a chwerw gan fod ysgol ym Mhenmachno eisoes, ysgol eglwysig dan awdurdod y Gymdeithas Genedlaethol.

Erbyn 1907 roedd cynifer a 196 ar lyfrau'r ysgol honno a'r adeilad yn amlwg yn llawer rhy fach. Ar ben hynny, roedd y mwyafrif llethol yn blant capelwyr selog Penmachno nad oedd eu rhieni eisiau eu gweld dan ddylanwad yr eglwys.

Cafwyd ymgyrch hir i berswadio'r Cyngor Sir i fuddsoddi mewn ysgol newydd, ymgyrch a fu'n llwyddiannus pan brynwyd tir a oedd yn perthyn i'r Dr Michael Williams, Mostyn Villa (Tryfan heddiw) am 拢453 a chodi ysgol newydd am 拢2,300.

Ar y llaw arall, arweiniodd y rheithor, y Parchedig Ben Jones, wrthwynebiad chwerw. Haerai ef mai dim ond 'llond dwrn o eithafwyr' a oedd eisiau ysgol newydd a bod addysg o safon uchel ar gael eisoes yn yr hen ysgol ac y byddai'r cyfan yn rhoi baich afresymol ar ysgwyddau Penmachno.

Ond cafwyd Ysgol Gyngor, a chroesodd 155 o ddisgyblion y bont i'r ysgol newydd gan adael rhyw ddeugain yn yr hen ysgol Genedlaethol.

A phan gynhaliwyd de parti i ddathlu'r Agoriad swyddogol, trefnodd y Parchedig Ben Jones ei de parti ei hun i blant yr hen ysgol!

Heb gefnogaeth ariannol y Cyngor Sir, edwino'n raddol fu hanes honno a chaeodd yn 1921 gyda dim ond 11yn weddill.

Nid dyna'r unig ysgolion yn y plwy' bryd hynny. Mae'n rhyfedd meddwl bod cymaint 芒 chwe ysgol rhwng 1908 a 1914.

Yn ychwanegol at y ddwy ym mhentref Penmachno, roedd Ysgolion Cyfyng, yn gwasanaethu ardal yr Wybmant, a Rhiw-bach, ar gyfer plant y chwarelwyr, ac Ysgol Genedlaethol yng Nghwm Penmachno gyda changen yng nghapel Carmel ar gyfer plant ieuengaf y pen ucha'. Rhwng y cyfan roedd dros 350 o blant yn derbyn addysg ynddynt!

Caewyd Ysgol Rhiw-bach ar ddechrau'r Rhyfel Mawr ond parhaodd drysau Ysgol Cyfyng ar agor tan 1958 ac Ysgol Cwm (Ysgol y Cyngor ers 1922) tan 1964.

Arhosodd y niferoedd yn Ysgol Penmachno dros gant tan wedi'r Ail Rhyfel Byd (106 ar y gofrestr ym Medi 1945) ond roedd plant hyd at 15 mlwydd oed yn aros yno, os oeddent yn methu'r 11+, tan sefydlu Ysgol Dyfftyn Conwy yn 1962.

Arhosodd y niferoedd yn gyson dros yr hanner cant am weddill y ganrif fel y dengys y ffigyrau canlynol: 1971 - 82 o blant; 1983 - 52; 1989 - 73 a 1994 - 58.

Erbyn 2008 mae llai na 30 o ddisgyblion ond, mae'n argoeli'n well gyda nifer dda o fabanod a theuluoedd ifanc felly gobeithio y bydd yn bosib i do arall fedru dathlu daucanmlwyddiant yn 2108!

Efallai y byddai rhestr o benaethiaid yr ysgol o ddiddordeb:

1908 - 1912 F.O. Jones
1912 - 1929 T.W. Jones
1929-1941 J.E. Thomas
1942 - 1954 Alun Ogwen Williams
1955 - 1962 Ellis Hughes
1963 - 1978 John Hugh Hughes
1979 - 2005 Dafydd Alwyn Hughes
2005 - Jane Lloyd Hughes


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy