成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Cigydd Gwobrau Aur i Gigyddion
Ebrill 2006
Cafodd pum cigydd o Gonwy lwyddiant mawr mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru, gan ennill 33 o Wobrau Aur rhyngddynt am eu cynhyrchion o ansawdd uchel.

Enillodd 0 E Metcalfe o Lanrwst 9 Gwobr Aur yn ogystal 芒 chwpan am ennill y brif wobr yng nghategori'r Pastai Oer Arbennig. Enillodd Wobr Aur am bastai heliwr a phastai porc, a enillodd brif wobr y categori.

Yn ogystal enillodd Wobr Aur am selsig porc traddodiadol; selsig porc a nionod caramel; selsig cig oen, cennin a rhosmari a selsig pore, pupur du a pherlysiau. Enillwyd Gwobrau Aur hefyd am roliau selsig, byrgyrs cig eidion a bacwn cartref.

Y nesaf i'r llwyfan oedd Arwel L Jones o Lanrwst a enillodd 6 Gwobr Aur am selsig porc traddodiadol; selsig mel a mwstard; selsig cig oen, garlleg a rhosmari; byrgyrs cig oen; byrgyrs porc a bacwn cartref.

Enillodd John Williams o Lanfairfechan 4 Gwobr Aur am selsig porc traddodiadol; pastai porc; pastai twrci a ham a phastai st锚c a nionod.

Cipiwyd 4 Gwobr Aur gan Alun Jones o Gerrigydrudion am bryd parod o ffagots, erfin, tatws a phys; byrgyrs cig eidion; byrgyrs cig oen a Ffyn Grilio Cig Eidion Barbeciw.

Yr olaf i'r llwyfan oedd Edwards Conwy a enillodd 10 Gwobr Aur. Roedd chwech o'r rheini am wahanol selsig: selsig porc traddodiadol; selsig heb lwten; selsig porc a chili; selsig Cig Oen Cymru a chennin; selsig Cig Oen Cymru a chili a selsig Cig Oen Cymru, rhosmari a garlleg.

Yn ogystal enillodd Wobr Aur am bastai heliwr, byrgyrs cig eidion, byrgyrs porc a bacwn cartref.

Cafodd 279 o gynhyrchion - mwy nag erioed o'r blaen - eu cyflwyno gan y cigyddion annibynnol mewn cystadleuaeth gref ar gyfer gwobrau mewn deuddeg categori.

Cynhaliwyd cystadleuaeth HCC am Arloesiad a Rhagoriaeth mewn Cynhyrchion Cig i Siroedd y Gogledd yng Nghanolfan Gynadledda Gogledd Cymru, Llandudno, yn ddiweddar.

Dywedodd Graham Titchener, Swyddog Marchnata HCC: "Roedd ansawdd y cynigion o ogledd Cymru'n uchel dros ben ac roeddem wrth ein bodd ein bod wedi cael y nifer fwyaf erioed o gynigion.

"Mae gan gigyddion feddwl uchel o'r digwyddiad ac roedd eu cynigion yn dangos y dewis anhygoel o gynhyrchion creadigol newydd sy'n cael eu cynhyrchu gan gigyddion annibynnol Cymru, pob un wedi ei greu a'r defnyddiwr mewn golwg."

Gwahoddwyd beirniaid o'r radd flaenaf o bob cwr o'r DG i flasu'r selsig, pasteiod, byrgyrs, prydau parod a bacwn a gamwn cartref a gafodd eu cynhyrchu gan 31 o gigyddion annibynnol ledled y gogledd.

Roedd y categor茂au'n cynnwys amrediad da o gynhyrchion llawn dychymyg megis selsig cig eidion, chili a phupurau coch yn ogystal 芒 hen ffefrynnau megis Hotpot Cig Oen.

Cyflwynwyd 1540 Wobrau Aur ar y noson, ac aeth nifer o gigyddion o bob rhan o'r gogledd adref a gwobrau Aur, Arian ac Efydd.

Gwahoddir enillwyr y gwahanol gategor茂au o'r deg a'r gogledd i gyflwyno'u cynhyrchion i'w hystyried ar gyfer teitl Pencampwr Cymru mewn digwyddiad a drefnir gan HCC yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy