成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Cyflwyno beibl yn iaith y Basg yn Nh欧 Mawr Wybrnant Cysylltiadau Ewropeaidd
Mehefin 2006
Fel y g诺yr darllenwyr yr Odyn mae nifer o ysgolion lleol wedi sefydlu cyswllt Ewropeaidd Comenius.

Bellach mae esiamplau o blant ac athrawon o'r ysgolion yn teithio ar hyd a lled Ewrop.

Sefydlodd Ysgol Dolwyddelan brosiect gydag ysgolion o Wlad y Basg, Iwerddon, Lithuania a Gwlad Pwyl.

Erbyn hyn rydym yn ail flwyddyn y prosiect a llawer o ddatblygiadau a phrofiadau positif yn dod yn ei sgil.

Dysgodd y plant lawer am y gwledydd trwy gyswllt uniongyrchol i phlant yr ysgolion.

Bu e-bostio rheolaidd, llythyru, thrafod chwedlau a dysgu geirfa newydd.

Yn ystod yr ail wythnos o Fai bu nifer o blant ac athrawon o'r ysgolion ar ymweliad 芒 Dolwyddelan.

Bu cryn brysurdeb a thorchi llewys gan nifer fawr o fobl a rhoddwyd croeso i'w gofio a phob un o'r ymwelwyr wrth eu boddau.

Roedd hi'n wythnos lawn iawn a gychwynnodd gyda chyfarfod croeso yn neuadd yr ysgol. Bu dawnsio, canu a llefaru a hynny mewn chwe iaith - cychwyn ardderchog i'r wythnos.

Ymlaen wedyn i Gastell Dolwyddelan, Wil Jones a Dafydd oedd yn ein tywys a hynny mewn ffordd hynod ddiddorol.

Yn 么l wedyn i'r pentref a chyfarfod Y Ficer Kathy Jones a arweiniodd y gr诺p o amgylch yr eglwys.

Teithio i Llechwedd ar fore yr ail ddiwrnod ac yna ymlaen i Bortmeirion a Beddgelert.

Taith ar y tr锚n i Gyffordd Llandudno a Chastell Conwy ac yna ymlaen i Landudno ar y dydd Gwener. Diolch i Larry Davies, Arriva am ei gydweithrediad wrth drefnu.

Ar y nos Wener Dawnswyr Sir Conwy oedd yn difyrru'r ymwelwyr a hynny gyda chryn steil. Cafwyd twmpath ddawns a phawb yn llawn hwyl.

Yn ystod y noson cyflwynodd Edwin Noble, Cadeirydd y Cyngor Cymuned a Chadeirydd Corff Llywodraethol yr ysgol ddarlun wedi ei fframio yn rhodd gan y cyngor i bob un o'r ysgolion.

Taith gerdded oedd wedi ei threfnu ar gyfer y Sadwrn a hynny o Ddolwyddelan i D欧 Mawr Wybmant.

Rhoddodd Wil sgwrs hynod ddiddorol am fywyd a gwaith William Morgan ac yna cyflwynodd ein cyfeillion o Euskal Herria (Gwl芒d y Basg) Feibl yn ei hiaith eu hunain i ychwanegu at y casgliad gwych o feiblau sydd yn Nh欧 Mawr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy