O'm blaenau roedd taith o 400 milltir dros y paith. Taith eithaf cysurus mewn bws ond beth am y daith yma i'r arloeswyr dros gant ar ugain o flynyddoedd yn 么l. Roedd ein taith ni yn chwithig i'r hen wladfawyr gan ein bod ni'n teithio o'r mynyddoedd i lawr i'r arfordir a hwythau fel arall wrth gwrs.
Fel hyn y mae R Bryn Williams yn disgrifio'r daith yn niwedd y flwyddyn 1885: 'Yn niwedd y flwyddyn 1885 aeth naw ar hugain o'r gwladfawyr ar daith hir, buont oddi cartref am dri mis a hanner. Yn ystod y daith honno gwelsant ddyffryn mawr yng nghanol y mynyddoedd, a'i alw yn Cwm Hyfryd. O'i amgylch y mae'r mynyddoedd dan eira oesol, tair afon fawr yn ymddolennu trwyddo, a'i wyneb dan wair uchel a maethlon gyda digonedd o ffrwythau a blodau. O'r holl leoedd newydd a welsant ar y daith, hwn a apeliodd fwyaf atynt, a phenderfynwyd codi sefydliad Cymreig arall yno. 'Aeth
nifer o fechgyn sengl yno i ddechrau, gan adeiladu cabannau a pharatoi lle i deuluoedd. Yna mentrodd y teuluoedd, ac mae hanes y teithiau hynny yn epig. Croesi pedwar can milltir o gyfandir a bu olwyn erioed drosto cyn hynny. Croesi'r afonydd trwy ddadlwytho a datgymalu'r wagen, a defnyddio ei gwaelod yn gwch i gario popeth drosodd. Yna rhoi'r wagen wrth ei gilydd a'i llwytho drachefn cyn mentro ymlaen. Pan ddeuent at ddibyn neu geunant, rhaid oedd gollwng y cwbwl drosodd bob yn ddarn 芒 rhaff. Rhaid oedd mynd a'r ieir, y gwyddau, y gath a'r c诺n, y defaid a'r gwartheg i'w canlyn, gyda digon o flawd a gwenith am flwyddyn, ac ychydig gelfi. Teithient yn gyson a dygn am chwech wythnos, gan gysgu dan y wagen a dibynnu yn bennaf ar helwriaeth am fwyd.'
Erbyn hyn y mae poblogaeth fawr gymysg rhwng y mynyddoedd hyn, ond y mae Cwm Hyfryd yn dal yn Gymreig, a disgynyddion yr hen sefydlwyr dewr yn berchen amryw o ffermydd.
Fe gawn s么n am ein taith ni dros y paith y tro nesaf.
Yn y llun, uchod: Criw ardal Yr Odyn yn cyflwyno'r papur bro i ddysgwyr Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Yr Andes yn Esquel cyn ymadael ar daith y paith am drelew, Gaiman a Phorth Madryn.
 |