成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Paratoi yn harbwr Lyttleton Anturiaethau'r M么r Tawel
18 Medi 2003
Ddwy flynedd yn 么l cychwynnodd Jeremy a minnau am Seland Newydd.
Diwrnod braf ym mis Mehefin oedd hi, a chymerodd dipyn o amser ar 么l cyrraedd i gynefino efo'r ffaith ei bod yn ganol gaeaf yno.

Roedd Jeremy yn dychwelyd at waith a arferai ei wneud cyn iddo ymgartrefu yma yng Nghymru, sef hwylio. Darllen Dychwelyd Syr T.H. Parry Williams ar gyfer traethawd i'w gyflwyno i'r Brifysgol ym Mangor oeddwn i.

Daeth y gwahoddiad oddi wrth Hinrich a Katrina, brawd-yng-nghyfraith a chwaer Jeremy, i hwylio cwch o Ynys y De, Seland Newydd i brif borthladd ynysoedd Tonga.

Roeddent yn gyfrifol am redeg campws hyfforddi yno gyda mudiad Cristnogol o'r enw Youth with a Mission . Yno y byddai t卯m o genhadon yn ymuno 芒 ni ac oddi yno yn hwylio i ynysoedd eraill Tonga ac i Samoa a Fiji.

Cwch hwylio modur 60 troedfedd o hyd oedd y Sh'khinnah, wedi'i angori yn harbwr Lyttleton ger Christchurch. Roedd ei pherchnogion, Lyell a Val McMillan, yn ffermio a rhedeg busnes drilio am ddwr. Fe'i rhoddwyd ar fenthyg am chwe mis i fudiad Youth with a Mission i ymweld 芒'r gwahanol ynysoedd i annog pobl ieuainc a hyrwyddo cyfleoedd dysgu a chenhadu drwy'r mudiad.

Ar 么l chwe wythnos o baratoi roedd y Sn'hkinah yn barod am ei mordaith. Daeth Lyell efo ni ynghyd 芒 thri gwr arall lleol a phrofiadol ar y fordaith ddeg diwrnod a phymtheg cant o filltiroedd.

Mi fyddai'n cynhesu wrth inni hwylio i'r gogledd am tonga. Dyma'r fordaith anoddaf meddent wrthyf, mi fyddai pethau'n well o gwmpas yr ynysoedd. Cawsom hoe fach wrth ynys Raoul, y mwyaf gogleddol a oedd yn perthyn i Seland Newydd.

Roedd criw bychan o wyddonwyr a gwirfoddolwyr yno yn chwynnu planhigion a oedd yn ddiarth i'r ynys. Roeddent yn falch o'n gweld ac yn falch o'n dangos o gwmpas yr ynys.

Roeddent hefyd yn awyddus inni feirio ein hen bapurau newydd ac ambell i botel o win am sachaid o orennau a grawnffrwythau ffres Raoul, a oedd yn dderbyniol iawn gennym.

Roedd croeso brwd yn aros amdanom yng nglanfa'r Frenhines Salote yn Tonga, gyda wynebau cyfarwydd Hinrich a Katrina yn gwneud yr achlysur yn fwy arbennig.

Cawsom ein tywys o'r cwch i gampws Lalalafa (yngenir yn Laffalaffa) i gael ein croesawu'n ffurfiol ac i brofi defod y Carva.

Dyma ddefod sy'n ganolog i ddiwylliant pobl ynysoedd de'r M么r tawel. Mae'r ddiod yn cael ei pharatoi drwy wasgu gwreiddiau y planhigyn Carva. Mae'n ddiod fedwol ond yn narcotig yn hytrach nac alcoholig gan eich gwneud yn gysglyd.

Arllwysir yr hylif wedi ei gymysgu 芒 dwr i gawg pren a'i gynnig i'r gwesteion mewn plisgyn cnau coco. Roedd arweinydd y ddefod wedi ei wisgo mewn mantell o frethyn tapa wedi ei wneud o risgl coeden arbennig a oedd weddi ei guro i'w wneud yn hyblyg.

Llefarai yn iaith Tonga gan gyhoeddi'n henwau fesul un, a rhywun arall yn cynnig y plisgyn cnau coco yn llawn o'r ddiod ddiarth i ni bob un. Ymddangosai'r ddefod yn ffurfiol a difrifol iawn a'r hylif yn edrych yn debyg i ddwr golchi llestri. Pan ddaeth fy nhro i i'w flasu, ei yfed a wnes. Roedd y Carva yn destun trafod gan ei fod yn achosi problemau cymdeithasol wrth i rai fynd yn gaeth iddo.

Ar y campws roedd lle i'r myfyrwyr a'r staff fyw, gydag ystafelloedd dysgu a neuadd, yn ogystal 芒 fferm gnydau, pysgod a moch.

Byddai'r myfyrwyr yn cael cyfuniad o ddarlithoedd am bethau ysbrydol ac yn gweithio ar y tir, gan gael y cyfle i werthu'r cynnyrch ar stondin ar fin y ffordd.

Roedd coed palmwydd i'w gweld ym mhobman, a llaeth cnau coco yn torri syched. Roedd yn rhyfeddod gweld rhywun heini yn dringo i ben y coed i n么l cnau coco gan adael iddynt ddisgyn, a dod lawr i'w hagor yn ofalus gyda thwca (masheti) anferth, er mwyn yfed yn hylif eithaf melys.

Estynnir croeso yno efo cnau coco fel y caiff paned o de ei chynnig i rhywun yng Nghymru. Roedd digonedd o ffrwythau megis bananas a papaya ar gael hefyd, a gwelais gnau mwnci yn tyrfu mewn clwstwr o dan wyneb y pridd.

Rhwng cwsg ag effro un bore meddyliais fy mod i ym Mhant Glas, ar y fferm lle'm magwyd, pan glywais swn tractor yn mynd heibio ffenest ein llofft. Tractor Massey Fergy oedd o hefyd, yn union fel un fy nhad, ond nid oeddwn yn adnabod y dreifar na'r rhai oedd ar y bocs y tu 么l i'r tractor.

Wedi ychydig ddyddiau o ddadflino a'r fordaith i Tonga yn llwyddiannus, daeth yr amser i ffarwelio efo'r morwyr Kiwi a gadael iddynt hedfan adref, ac i ddechrau cydweithio efo criw arall o bobl. Rhaid oedd ail-lenwi'r Sh'khinah efo bwyd, nwyddau a thannwyd cyn mentro i'r dyfroedd unwaith eto.

Ceinwen McWilliam


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy