Mae'n sicr na welir caiw tebyg yn Nhryweryn yn aml, a diolch byth am hynny ddywedai Mario, y dyn druan oedd yn gyfrifol am ein diogelwch (ac am ddiogelwch eraill ar yr afon, gan i ni fod bron a tharo criw
arall wrth fynd!!). Doeth fyddai dweud cyn leied a phosib heblaw fod Mario wedi canmol sgiliau rhwyfo Diana (gyrfa newydd o bosib os byddi yn meddwl newid o
fod yn Arweinydd Cylch Meithrin!). Dylem hefyd bwysleisio ein bod wedi cwblhau'r daith
nid unwaith ond
dwywaith a bod Mario wedi gorfod cael triniaeth ar ei glustiau wedi i ni orffen, oherwydd maint ac uchder y sgrechian. Yn 么l pob s么n, roedd modd ein clywed am rai munudau cyn i ni ddod i'r golwg. Diolch i'n teuluoedd am ddod i gefnogi (er fod ambell un wedi ein holi am fanylion yswiriant bywyd cyn cychwyn) a diolch yn anad dim i'r rhai hynny fu'n ddigon caredig i gynnig ein noddi.
 |