Annwyl ddarllenwyr yr Odyn Yn ddiweddar fe'm penodwyd yn Gyfieithydd Cymunedol gyda Menter laith Conwy. Golyga'r swydd y byddaf mewn cysylltiad agos gyda'r gymuned a gwasanaethau gwirfoddol. Oherwydd hyn teimlaf ei bod hi'n bwysig eich bod chwi fel cyhoedd yn ymwybodol o'r gwasanaeth newydd hwn a manteisio ar y cyfle o'i ddefnyddio. Cyn i mi fynd ymhellach hoffwn esbonio i chwi beth yw gwaith y Fenter Iaith, a'i swyddogaeth o fewn y gymuned. Mae'r Fenter yn gyfran o rwydwaith cenedlaethol sef M.L.C (Mentrau laith Cymru). Pwrpas y mentrau hyn yw hyrwyddo'r Gymraeg ymhob agwedd o'r gymdeithas, gan sicrhau ei bod hi'n iaith weledol a chlywedol amlwg o fewn ein cymdeithas. Y Fenter ei hun felly yw'r gwreiddyn, ond bod y gwasanaeth cyfieithu hwn fel cangen yn egino o'r gwreiddyn hwnnw. Gyda cymorth y gwasanaeth newydd hwn y dyhead yw y bydd y mudiadau gwirfoddol yn gallu cynnig gwasanaethau dwyieithog i'r cyhoedd, a'r canlyniad gobeithiol yw y bydd yna gynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y sector gwirfoddol. Mae 29.4% o drigolion Sir Conwy yn gallu siarad Cymraeg, dros un ym mhob 4, felly mae'n hanfodol fod mudiadau gwirfoddol yn cynnig gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd. Rydym hefyd yn gobeithio bydd cyfieithu cymunedol yn codi awydd ar y Cymry di-Gymraeg i fynd ati i'w dysgu, neu i'r rhai hynny sydd wedi colli gafael arni i fynd ati i'w gloywi a magu'r hyder i'w siarad unwaith eto. Mae 27.4% o drigolion Sir Conwy yn gallu darllen Cymraeg, ac wrth ei gweld hi ar waith yn gyhoeddus byddant yn sylweddoli ei bod hi'n iaith fyw, weinyddol a defnyddiol sydd yn agor drysau tuag at fanteision a chyfleon. Mae Menter Iaith Conwy yn barod i gynnig gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig hyd at 100 o eiriau yn rhad ac am ddim. Ar gyfer sector gwirfoddol bydd y Fenter yn codi t芒l o 拢10 am gyfieithu mil o eiriau. Ac ar gyfer y sector gyhoeddus bydd y gost yn 拢50 am gyfieithu mil o eiriau. Yn ogystal mae modd i chi logi offer cyfieithu ar y pryd. Am ragor o fanylion cysyllter 芒 mi yn swyddfa Menter Iaith Conwy ar 01492 642796. Yn gywir Alwen Vaughan.
|