Efallai y cofiwch am ychydig o hen hanes ardal Melin y Coed yn rhifyn Mehefin o'r Odyn, a dyma fentro ar ychydig eto.
Un o hen gymeriadau'r ardal oedd Owen Ifan, "Sychbant", ar droad y ganrif ddiwethaf a chyda'i drol a mul 'roedd o'n cario glo o amgylch y pentref ynghyd 芒 chario blawd o'r felin.
'Roedd o'n gymeriad syml, diniwed yn 么l yr hanes ac yr oedd lIanciau direidus yr ardal yn bur hoff o chwarae castiau ag o.
Un dydd a'r hen Owen Ifan wedi mynd am seibiant gan adael y drol a'r mul y tu allan i'w drigfan, aeth rhai o'r llanciau 芒'r drol a mul tuag at giat-mochyn gyfagos ac yna dadfachu'r drol a gwthio ei "siafftia" trwy ffyn y giat ac yna ail fachu yr hen ful yr ochor arall a mynd i guddio.
Gwelwyd y perchennog yn dod a throi o amgylch y sefyllfa mewn syndod. Bu iddo ganmol ar hyd a lled y pentref ar 么l hyn am orchest a champau'r hen ful.
Un o arferion trigolion y pentref oedd mynd yn wythnosol i un o'r ffermydd i gael eu mesur
arferol o laeth-enwyn a phwys o fenyn ac, er mwyn i'r menyn gadw'n ffres, ei roi yn y piser i nofio yn y lIaeth enwyn i'w gario adref.
Mae ychydig o drigolion y fro yn dal i gofio hanes arwerthiant eiddo Owen Ifan ar 么l iddo ffarwelio
芒'r byd yma. Bu i gwmni "Rogers Jones" o Lanrwst ar ryw bnawn Sadwrn werthu ei glocsiau, y faedda a'r moddion trin menyn ac, wrth gwrs, y drol a'r mul ynghyd 芒'r "g锚r" a'r manion o'I gwmpas.
T J D
 |