成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Robert Martin Richards Robert Martin Richards
Mehefin 2009
Magwyd Martin ym Mhenmachnos, mab i Rich Richards a brawd hoffus i Sarah Jane ac Elin Haf.

Ar 么l i'w dad ail-briodi a symud i Fethesda, dewisodd Martin a Sarah aros ym Mhenmachnos.

Magwyd hwy gan eu Nain a'u Taid, Alice a Ron Richards, yn Bron y Waen.

Roedd Martin yn ddisgybl yn Ysgol Penmachno ac Ysgol Dyffryn Conwy.

Ei hoff ddiddordebau fel plentyn yn y pentref oedd chware peldroed a chwarae soldiwrs.

Dyma pryd y cafodd ei ffug enw 'Rambo', ac fel Rambo oedd y rhan fwyaf o'i ffrindiau yn ei adnabod.

Roedd yn blentyn hoffus iawn ac yn llawn hiwmor bob amser.

Roedd i'w weld yn gwylio gemau peldroed Machno Unedig trwy ei blentyndod gyda Sarah Jane a Delyth Griffiths yn edrych ar ei 么l tra roedd ei dad yn chwarae.

Ymhen amser bu'n chwarae i d卯m Ieuenctid Llanrwst ac i Machno.

Cafodd deialon peldroed gyda Crewe pan yn ifanc ac er iddo fod yn addawol iawn fel chwaraewr peldroed, ei unig uchelgais oedd bod yn un o'r Commandos yn y Royal Marines.

Cafodd wireddu ei freuddwyd pan yn 17 a dwy flynedd yn ddiweddarach llwyddodd yn ei uchelgais pan basiodd allan fel Commando yn y Royal Marines.

Roedd ei weld yn y seremoni yma yn achos balchder mawr iddo'i hun ac i'w deulu i gyd.

Er iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i amser i ffwrdd, edrychai ymlaen bob amser i gael dod adref i weld ei ffrindiau unwaith eto.

Arferai chwarae peldroed i Machno bob tro y byddai adref ac ambell waith rhoddodd gynnig ar hyfforddi'r hogia fel roedd o yn cael ei hyfforddi yn y Marines - roedd cwynion mawr gan y t卯m am ei fod yn rhy galed hefo nhw!

Er mai i Bron y Waen at Nain a Taid oedd yr alwad gyntaf bob amser, yr alwad nesaf oedd i Llys Ifor i weld Delyth a Stephen i holid sut oedd Machno yn mynd ymlaen a chael hanes ei ffrindiau i gyd.

Roedd ganddo lu o ffrindiau ac ambell i gariad ar hyd a lled y wlad! Pan fyddai'n dod adref ar 么l bod yn rhyfela yn Afghanistan, ni siaradai ddim am ei brofiadau yno - cadwai ei waith bob amser ar wahan i'w amser hamdden bob amser.

Roedd yn fachgen cyfeillgar a hael iawn gyda'i deulu a'i ffrindiau i gyd, ac yn for filwr proffesiynol iawn yn 么l ei gyd-weithwyr a'i bennaethiaid yn y Marines.

Bu allan yn Afghanistan am dair blynedd i gyd a'c fe'i anafwyd ddau ddiwrnod cyn diwedd ei daith olaf yno.

Roedd y nifer o bobl ddaeth i dalu'r deyrnged olaf iddo ar ddydd ei angladd yn dystiolaeth i'w boblogrwydd fel person.

Roedd Eglwys Sant Tudclud yn llawn ac roedd cannoedd yn sefyll allan yn y glaw yn gwylio'r Gwasanaeth ar sgrin fawr y tu allan i'r eglwys.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy