成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Darlun enwog
yn gant oed

Chwefror 2008
Ydi Si芒n yn byw yn eich t欧 chi? S么n 'rydan ni, wrth gwrs, am y llun enwog Salem sy'n dangos Si芒n Owen yn ei dillad parch.

Dyma yn sicr y darlun enwocaf yng Nghymru, yn dangos aelodau capel bychan, syml yng Nghefncymerau ger Llanbedr, yn addoli ar y Sul.

Pwy oedd y Si芒n yma medda chi? Mae hi i'w gweld yn y llun yn cerdded at sedd y teulu yn ei si么l lliwgar. Mae'r cloc ar y wal yn dangos ychydig o funudau cyn 10 o'r gloch, felly mae Si芒n yn hwyr i'r oedfa.

Fe'i ganed yn 1837, ym Maes y Garnedd, ffermdy mynyddig, a symud yn hwyrach i Lanbedr lle bu farw yn 1927.

O dan y cloc gwelwn Robert Williams o Gae'r Meddyg, diacon Salem, ac wrth ei ymyl mae Laura Williams o T欧'n y Buarth. Gwelir hefyd Owen Si么n o'r Garleg Coch a'i gefn at y wal.

Y bachgen bach ydi Evan Edward Lloyd a Meri Rowlands wrth ei ochr. A'i ben ar osgo ar y dde mae William Si么n, brawd Owen Si么n.

Y si么l sy'n tynnu sylw yn y llun ond a yw'n gweddu i'r llun? Rhywsut mae'n rhy grand - disgwylid i bawb ddangos mwy o wyleidd-dra yn eu gwisg mewn lle o addoliad. Fel y gwelir yn y gerdd gan T Rowland Hughes, si么l fenthyg yw hi. Doedd si么l Si芒n ei hun ddim yn ddigon crand, felly benthyciwyd un gan wraig Ficer Harlech.

Dywed rhai fod Si芒n Owen wedi dod i'r oedfa yn fwriadol hwyr er mwyn tynnu sylw at ei hun ac mae'r 'pechod' yn amlygu ei hun yn wyneb y diafol yn cuddio ym mhlygion ei si么l.

"Nid dweud yr wyf mai urddas ff么l
Oedd urddas benthyg, crand y si么l."

Mae'r patrwm paisley ar ffurf corn anifail, y plygiadau yn ffurfio llygad a thrwyn, ac ymyl y siol yn farf iddo. Yn ddiweddar awgrymwyd hefyd fod y rhif 6 (arwydd y diafol) i'w weld yn y si么l.

Paentiwyd y llun gan Sidney Curnow Vosper yn 1908, mab ieuengaf bragwr o Ddyfnaint. Ni wyddom hyd heddiw yn union y rheswm am baentio'r llun. Yn sicr, fe geisiodd greu awyrgylch dduwiol, Fictorianaidd yn yr olygfa hamddenol o'r Capel.

Yn 1902 priododd Constance James o Ferthyr Tydfil - hwyrach mai dyma'r cysylltiad Cymreig. Daeth i'r Capel hynod yma i baentio'r llun gan dalu 6c yr awr iddynt am eistedd.

Prynwyd Salem gan yr Arglwydd Leverhulme yn 1909 am 100 gini. Gellir ei weld heddiw yn Amgueddfa Lever yn Port Sunlight.

Defnyddiwyd y llun i farchnata sebon Sunlight y Brodyr Lever. Roedd cwsmeriaid yn casglu tocynnau o'r pacedi ac yn eu hanfon at y cwmni i sicrhau copi o'r darlun. Felly dyna pam y daeth y llun yma mor boblogaidd yng Nghymru.

Pam cymryd diddordeb yn y llun medda chi? Wel fe'i gorffennwyd yn 1908 ac felly y mae yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed eleni. Oherwydd hynny cychwynnodd y ddau ohonom am Gapel Salem. O bentref bach Llanbedr, tua hanner milltir ymlaen, mae'r ffordd yn rhannu ble mae dwy afon yn creu dau gwm, Cwm Bychan a Cwm Nantcol.

Adnabyddir y llecyn hwn fel Cefncymerau (lle cyfarfod). Yn ystod y ganrif ddiwethaf roedd y gynulleidfa yn cyfarfod i addoli ar lan yr afon gan fedyddio yn ei dyfroedd. Yn 1850 penderfynwyd adeiladu y capel a welwn heddiw.

Mae gwasanaethau yn dal i gymryd lle yno unwaith y mis. Mae'n amlwg fod rhywun yn edrych ar ei 么l yn ofalus. Gellir gweld y cloc sydd yn y llun wedi oedi ar dri munud i ddeg a'r gloch.

Diddorol gweld pegiau dal dillad ar hyd y waliau y tu 么l i'r seddi i ddal cotiau yr aelodau gan nad oes cyntedd i'r capel. Cawsom gyfle i chwarae'r organ, arwyddo y llyfr ymwelwyr a chyfrannu yn y bocs arian.

Braf oedd gweld fod dosbarth o blant o ysgol gynradd gyfagos wedi ymweld 芒'r capel ar ddiwrnod cyntaf y tymor - hwythau yn cofia am y dathlu.

Cofiwn eleni felly am y darlun yma a ddaeth yn eicon o Gymreictod ac a swynodd pawb drwy ddangos y ffordd syml o fyw mewn cyfnod cynnar.

Salem - T Rowland Hughes
Si芒n Owen T欧'n Fawnog yw'r hen wraig
A wisgai'r si么l a'i hurddas benthyg, mwy,
Hen wreigan seml a chadarn fel y graig
Uwch Cefncymerau, lle'r addolant hwy,
Y cwmni gwledig ar ddiarffordd hynt -
Si芒n Owen, Wiliam Si么n ac Owen Si么n,
A Robat Wilias o Gae'r Meddyg gynt,
A Laura T欧'n y Buarth fwyn ei th么n.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy