Mae'n chwilio am noddwyr i godi arian ar gyfer y Fenter Iaith ar ochr arall y byd, felly os ydych eisiau cyfrannu cysylltwch a 01492 642357, iwan@mentrauiaith.cymru247.net neu gyrrwch sieciau yn daladwy i Menter Patagonia i Menter Patagonia, d/o Y Sgwar, Llanrwst, Ll26 0LG.
Bydd y daith yn dechrau ym Mae Caerdydd am 4.30yb ac yn teithio drwy Merthyr Tydfil, Aberhonddu, Llanfair ym Muallt, Llandrindod, Y Drenewydd, Y Trallwng, Y Bala, Llanrwst ac yn gorffen ym Mae Colwyn am tua 9.30yh. Dywedodd Dafydd, cyfieithydd ar liwt ei hun sydd yn byw yn Llangernyw ger Llanrwst: "Rwyf wedi bod yn beicio ers tua chwe mlynedd erbyn hyn ac yn mwynhau pob munud.
"Gobeithiaf drwy'r daith hon godi ymwybyddiaeth o waith y Mentrau Iaith ar draws Cymru yn ogystal a'r gwaith pwysig sydd wedi datblygu ym Mhatagonia yn ddiweddar. "Mae'n mynd i fod yn sialens enfawr i mi wneud y daith.
"Dwi ar y beic bob dydd bron, ond dwi erioed wedi gwneud taith more faith a hon o'r blaen, ond dwi'n ffyddiog y bydda i'n medru ei chwblhau hi."
Cafodd Menter Patagonia ei sefydlu yn 2007 ac ers Ebrill 2008 mae dau swyddog wedi bod yn gweithio yno i ddatblygu gweithgareddau a hybu'r Gymraeg yn y gymuned. Mae cyfleoedd i bobl ifanc o Gymru fynd draw i wirfoddoli, fel mae criw o ugain wedi gwneud yn barod gyda'r Urdd. Ychwanegodd Dafydd: "Gobeithiaf hefyd i dynnu sylw pellach at feicio fel camp cenedlaethol.
"Mae llwyddiant beicwyr Cymru yn y gemau Olympaidd yn si诺r o ysgogi bobl o bob oed i neidio ar gefn eu beic a mynd amdani, er rhaid i mi ychwanegu, oeddwn i wedi bwriadu gwneud y daith maith hon cyn i Nicole a Geraint ennill aur yn Beijing."
Ychwanegodd; "Os gall boi cyffredin canol oed fel fi gael y fath wefr o feicio a mentro gwneud taith o'r math yma, mae'n rhaid bod gan y gamp rywbeth i'w gynnig i bawb."
|