Cynhaliodd Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy ddiwrnod cyfeiriannu beicio yng Nghoed Gwydir gan lansio wythnos Llanast Llanrwst 2006.
Gyda phrin 5% o bobl cyflogedig y maes awyr agored yng ngogledd orllewin Cymru yn siaradwyr Cymraeg - a chyda prin mwy na hynny yn Gymry o gwbl - dydy o ddim yn syndod fod maes y gweithgareddau can诺io, dringo, cerdded ac yn y blaen yn ardaloedd Eryri a'r cyffiniau yn y gogledd yma yn cael ei fonopoleiddio gan y di-Gymraeg.
Nid fod hyn yn broblem yn ei hun, wrth gwrs: roedd mynyddoedd Eryri yma ymhell cyn unrhyw beth tebyg i'r iaith Gymraeg ddod i fodolaeth, a beth bynnag, mae'n braf medru rhannu ein rhyfeddodau naturiol gyda gweddill y byd ond mae absenoldeb y siaradwyr Cymraeg yn y maes amlwg yma yn cael effaith yn y tymor hir ar y farchnad waith ac ar y cyfleoedd sy'n agored i bobl ifanc yn ardaloedd cefn gwlad Cymru. Mae hyn, wrth gwrs, ar wah芒n i'r diffyg amlwg, sef y ffaith nad ydy gweithgareddau awyr agored yn cael eu cysidro'n faes hamdden gan ran helaeth bobl leol Cymru; yn hytrach, rhywbeth ar gyfer bobl eraill yw can诺io, neu feicio mynydd.
Y rhesymau uchod sydd y tu 么l brosiect gan gr诺p lleol i sefydlu'r clwb beicio mynydd. Mae'r clwb yn syniad i drefnu sesiynau hyfforddi a blasu beicio mynydd mewn tair ysgol gynradd, sef Bro Gwydir, Llanrwst, Ysgol Trefriw ac Ysgol Llanddoged. Digwyddodd hyn trwy gydweithio rhwng Bartneriaeth Awyr Agored (dan ofal Arwel Elias), Swyddog Datblygu Ardal Llanrwst Bwrdd yr laith Gymraeg a beiciwr lleol, Marcus Politis.
Yn dilyn o hyn, penderfynwyd mynd ati i drefnu cyfres o deithiau beicio mynydd yng Nghoed Gwydir, gan ddefnyddio'r ffyrdd coedwigaeth yn ogystal 芒 llwybrau'r 'Marin'. Canlyniad hyn oedd criw o ferched a dynion, oedd wedi arfer mynd i feicio ar eu liwt eu hunain, yn dod ynghyd ac yn cytuno ar yr angen i greu strwythur mwy ffurfiol yn lleol ar gyfer y gweithgaredd, ac felly sefydlu clwb swyddogol fuasai'n gofalu am bethau fel yswiriant a hyfforddiant.
Derbyniwyd grant sylweddol gan gyngor Chwaraeon Cymru a chefnogaeth ariannol gan Fwrdd yr laith Gymraeg, ac mae'r arian hwn yn cael ei gyfeirio at hyfforddiant, offer (beiciau, helmedau, offer cynnal a chadw), offer cludo beiciau a mwy.
Erbyn hyn, mae pwyllgor wedi'i sefydlu i reoli'r Clwb (gyda'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithydd ar gael i'r aelodau di-Gymraeg). Mae rhaglen o deithiau yn cael ei diweddaru'n gyson, mae hyfforddiant wedi'i drefnu ar gyfer aelodau fel eu bod nhw yn eu tro yn medru hyfforddi plant ac ieuenctid lleol (trwy gyfrwng y Gymraeg) wedi sefydlu adran ieuenctid oddi fewn i'r Clwb.
Am wybodaeth bellach yngl欧n 芒 Chlwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy yn gyffredinol, cysylltwch 芒'r ysgrifennydd, Dafydd Chilton, ar 01492642796.