成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Andrew Davies yn agor y ffordd Agor y ffordd newydd
Mawrth 2005
Anghofiwch y problemau o deithio hyd ffordd gul a throellog, anghofiwch y tagfeydd pan fo cerbydau mawrion yn cael trafferthion i fynd heibio'u gilydd. Bellach mae'r ffordd AR AGOR!
Ar y 13eg o Ionawr 2005, fel Clerc y Cyngor Cymdeithas lleol, cefais y fraint, ynghyd a Chynghorydd Sir yr ardal, Liz Roberts, ac Is Gadeirydd y Cyngor Cymdeithas, Edwin Noble, o fod yn bresennol yn agoriad swyddogol y cynllun gwelliant o Ddolwyddelan i Bont yr Afanc.

Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth yn y Cynulliad ddadorchuddiodd y plac i gyhoeddi, ar fore hynod o braf, fod y ffordd ar agor. Roedd tyrfa luosog yno yn cynrychioli sawl cwmni ac asiantaeth fu'n gyfrifol am wahanol agweddau o'r gwaith.

Braf oedd cad sgwrs gyda hen gyfaill i'r Cyngor lleol, sef Wyn Thomas o Gwmni Wyn Thomas Gordon Lewis, Mr Thomas wedi gweithio ar ddylunio pob gwelliant yn yr ardal ers 1986. Cafwyd cwmni Yr Arglwydd Dafydd Elis- Thomas AC ac Elfyn Llwyd AS, y naill a'r llall wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau gwelliannau i'r ffordd.

Mae'r cynllun, y rhan olaf yn y jigso, yn gwireddu breuddwyd i'r ardalwyr a theithwyr cyson hyd y rhan yma o'r A470. Y gwelliant hwn hyd 4.5 milltir o'r ffordd, a'r gost - oddeutu 拢18miliwn. Braf oedd deall iddo gael ei gwblhau 5 mis yn gynnar!

Yr holl ymgyrchu lleol dros gyfnod o 21 mlynedd yn dwyn ffrwyth, ac ar ran y Cyngor Cymdeithas, carwn ddiolch o galon i'r holl ardalwyr a chefnogwyr pybyr am eu cefnogaeth brwd ac ymarferol hyd cyfnod hir o amser. Ar adegau cafwyd sawl cyfnod anodd, ansicrwydd, Ymchwiliad Cyhoeddus ARALL, pryder yngl欧n 芒 rhyddhau cyllid ar gyfer y gwaith, ond drwy'r cwbl bu'r Cyngor Cymdeithas yn gweithredu'n gyson, gyda'r un neges.

RHAID cael y gwelliannau er gwella diogelwch ac uwchraddio'r ffordd i safon gydnaws a safonau cefnffyrdd cyfoes. Hyn i gyd er lles economaidd a chymdeithasol yr ardal.

Rhaid edmygu a chanmol y ffordd yr aethpwyd ati i gynllunio'r gwaith mewn ardal hynod o sensitif yn amgylcheddol. Yn amlwg, bu cynllunio, dylunio a rhaglennu manwl a gofalus dros ben. Buont yn ystyriol o'r tirwedd, amgylchedd a byd natur. Un enghraifft oedd y sylw anhygoel roeddent yn gymryd pan yn clirio tir, symud pridd i safle dros dro, ei farcio'n amlwg, yna dychwelyd y pridd i'w safle gwreiddiol.

Mae sawl un wedi cyfeirio at y gwaith ar y waliau sy'n ffinio'r ffordd, nid pawb sy'n eu hoffi, ond tybed oeddech chi'n ymwybodol fod pob ymdrech wedi'i wneud i arbed cerrig o'r waliau gwreiddiol a hefyd eu bod wedi defnyddio cerrig o chwareli lleol ym Mlaenau Ffestiniog? Mae'r waliau, ynghyd a'r holl waith tirlunio o'u cwmpas, bellach wedi cymryd eu lle ac yn cydweddu 芒'r tirwedd naturiol, tipyn o gamp.

Felly, mwynhewch y gyrru, yn sicr bydd eich taith yn rhwyddach, ac yn bwysicach fyth, yn fwy diogel.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy