成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Rhai o drigolion Bryn yr Eglwys Cartref Bryn yr Eglwys
Rhagfyr 2005
Cafwyd 'Te Parti y 40au' llwyddiannus dros ben ar Brynhawn Sul y 13ain o Dachwedd. Gwisgodd nifer o'r staff hen ddillad o'r cyfnod.
Roedd Margaret Politis yn ddel iawn yn ei ffrog flodeuog a'i gwallt mewn 'snwd' - sef math o net. Roedd Carys Evans yn smart yn ei sgert dyn a'i gwallt wedi cyrlio, ond y gorau oedd Shian Evans wedi ei gwisgo mewn hen iwnifform ffatri amiwnision! Daeth Non Williams a'i chyfeillion o Arddangosfa Llu Arfog Maes Artro (Y Bermo) atom i'n diddanu. Mwynhaodd pawb y prynhawn, yn enwedig' gan fod y gwahoddedigion mewn gwahanol wisgoedd o'r Fyddin a'r Lluoedd Awyr. Trafodwyd caledrwydd bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Rhannwyd atgofion melys ynghyd ac atgofion anodd gan y preswylwyr. Roedd yn emosiynol iawn pan ddisgrifiodd Mrs Myfanwy Ashurst ei phrofiadau hi o briodi a cholli ei g诺r yn Burma. Bu i Mrs Gwen Foster drafod caledrwydd o weithio mewn ffatri amiwnision yn Wrecsam. Rhannodd Mrs Doris Thomas ei phrofiadau o gyfarfod a'i g诺r tra roedd yn byw ac wedi ei magu yn Llundain. Roedd yntau yn enedigol o'r Bala. Priodwyd y ddau ac ymgartrefu yn 么l yn Bala i fagu eu teulu bach hapus. I gloi y pnawn, cynigwyd y diolchiadau gan Mrs Doris Thomas gan ofyn iddynt ddychwelyd eto yn 么l i'r Cartref yn fuan iawn.

Yn dilyn pnawn llwyddiannus y Te Parti, cafwyd nifer o ymwelwyr i ymweld 芒'r arddangosfa ddiweddar - Byddin Tir y Merched. Mae pawb wedi mwynhau edrych dros y lluniau a'r hen eitemau a dychrynwyd ambell i blentyn gyda'r masgiau nwy!

Cafwyd nifer o gyfarfodydd yn ystod y mis. Trefnodd Nalisha (nyrs) 'Gyfarfod Safonau Gofal'. Penderfynwyd a'r nifer o newidiadau i dr茂o gwella safonau byw y preswylwyr. Trefnodd Anne Marie Burkhill gyfarfod 'Cy1ch y Nadolig'. Penderfynwyd prynu nifer o eitemau newydd i addurno'r Cartref dros yr 糯yl ac hefyd adloniant dros y tymor.

Bu Carys Evans (nyrs) yn brysur gyda 'Cyfarfod Cronfa'r Preswylwyr'. Penderfynwyd prynu nifer o eitemau newydd gyda'r arian. Gobeithiwn gael DVD newydd ymysg pethau eraill i hybu gweithgareddau hamddenol a'r brynhawniau gwlyb yn y ddwy lolfa.

Cafwyd hyfforddiant mewnol yn ystod y mis ar ddiogelwch symud cleifion. Croesawyd hefyd, penderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol Conwy, o ail ystyried penodi Doctoriaid newydd i Feddygfa Cerrigydrudion am gyfnod o chwe mis.

Croesawyd Nyrs newydd i'r Cartref sef Astrid Harry ac ar yr un pryd ffarweliwn ac Heather Farthing o'r Bala. Mae Heather wedi bod gyda ni am nifer o flynyddoedd ac wedi penderfynu ymddeol r诺an i dreulio mwy o amser gyda ei theulu. Bydd colled mawr ar ei h'ol.

I gloi hoffem ddymuno Nadolig a gwyliau hapus iawn i Nalisha (nyrs) a'r g诺r Suben. Mae'r ddau wedi dychwelyd i Durban (De Affrica) am gyfnod o bum wythnos. Gobeithio iddynt fwynhau eu Dolig ymysg eu teuluoedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy