成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Ffermio Cornel Amaeth
Chwefror 2003
O'r diwedd daeth newid i'r rheol ugain diwrnod ynglyn 芒'r symud anifeiliaid a'i ostwng i chwech diwrnod. Bu hon yn frwydr galed yng ngwyneb gwrthwynebiad chwyrn gan y llywodraeth.

Er bod pob mudiad amaethyddol yn dymuno peidio cael unrhyw gyfyngiadau ar y diwydiant ni wnai y Llywodraeth drafod hynny, felly roedd y diwydiant yn wynebu ugain neu chwe diwrnod o gyfyngiadau. Roedd y mudiadau canlynol, Cymdeithas yr Arwerthwyr, Undebau Amaethyddol, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Cymdeithas y Ffermwyr Bychain, Cymdeithas Defaid (NSA) a Chymdeithas Cynhyrchwyr y Gwartheg (NBA) o'r farn fod chwe diwrnod yn llawer gwell nag ugain diwrnod.

Roedd unoliaith yn eu gwrthwynebiad i'r ugain diwrnod a chael rhyddhau y rhwystrau sydd ar y diwydiant, ond mae brwydr eto o'n blaen i ofalu na chaiff y Llywodraeth roi rheolau gwirion a diangen ar ein marchnadoedd da byw. Brwydr arall i'r holl fudiadau uchod sefyll gyda'i gilydd i ofalu y gall ein Marchnadoedd lwyddo heb reolau diangen.

Un o'r newidiadau mwyaf ers blynyddoedd sydd yn wynebu'r diwydiant yw cynigion o Ewrop i newid y modd mae amaethwyr yn cael eu talu. Mae'r cynigion yn symud y taliadau oddi wrth yr anifeiliaid i daliadau ar y tir, mae hyn yn newid sylfaenol i beth mae'r diwydiant wedi arfer ac fe fydd llawer o drafod a phendroni cyn y cawn weld y cynllun llawn. Bu i NFU Cymru drefnu cyfarfodydd i drin a thrafod y cynllun yma a da oedd gweld Cymro Cymraeg sef Damien Phillips, Cyfarwyddwr Swyddfa NFU Cymru ym Mrwsel yn amlinellu y cynigion ac fe ddylem fel ffermwyr yng Nghymru fod yn falch fod gennym Swyddfa a chynrychiolaeth gref fel hyn yn Ewrop ac fe fydd ei wybodaeth a'i gynrychiolaeth o fudd i holl ffermwyr Cymru yn y trafodaethau sydd i fod.

Mae'n edrych yn debyg fod yna ail feddwl ynglyn 芒 rhoi tagiau unigol mewn defaid, roedd y cynllun yn un gwallgo i ddweud y lleiaf, yn enwedig pan fod wyn yn cael eu lladd mae'r pen yn cael ei dorri i ffwrdd ac felly nid yw y lladd-dai yn gwybod o lle mae'r wyn yn dod na wyn pwy oeddynt.

Fe fu i Gymdeithas Porwyr y Mignaint gael y maen i'r wal gyda'r Cyngor Cefn Gwlad ynglyn 芒'r Mignaint, buddugoliaeth am eu dyfal barhad a dygnwch.

Elfed Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy