成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Y criw buddugol - cwmni Penmachno. G诺yl ddrama
Betws y Coed

Mawrth 2008
Wel, am chwerthin a chwerthin. Dyna hanes Neuadd Betws y Coed ar nos Lun a nos Fawrth olaf Chwefror 2008.

Gyda'r Bonwr Derek Williams, Dirprwy Bennaeth Ysgol y Berwyn ag o enwogrwydd Theatr Maldwyn yn beirniadu, cafwyd pum perfformiad o safon tros y ddwy noson.

'Arall Gyfeirio' gan Eirlys Wyn Thomas oedd cyflwyniad Cwmni Nebo i agor yr 糯yl. Dei Jac fel Huw Preis yn r锚l ffarmwr oedd yn pryderu fod 'y trydan yn ddrud' ac yn mynnu diffodd y golau bob cyfle a gai. Ceri Hughes fel yr athrawes gydwybodol ifanc a hardd yn lletya yn y ffermdy. Gwen Preis (Nan Davies), y ffarmwraig yn gofalu'n dyner am Miss Smith y lletywraig a Dei Jac yn ei holi'n ddidrugaredd.

Daw plant y ffermdy (Ieuan Lloyd a Meinir Jones) a'u cariadon cudd gartref wedi'r 'hen bobol' fynd i glwydo. Ond syrpreis, syrpreis, mae Miss Smith yn dangos ei hawydd hi am gariad hefyd drwy drefnu oed gyda'r Ficer Gregory (y Parchedig Eryl Lloyd Davies wedi troi at yr Eglwys Anglicaidd ar gyfer y ddrama yma!). Emyr Williams a Heledd Jones wedi ymuno fel cariadon plant y fferm a dyna chi ffars go iawn o dri set o gariadon yn cuddio yn y tywyllwch ganol nos.

Cynhyrchiad llawn hiwmor a hwyl y bu i'r gynulleidfa ei mwynhau. Ymlaen at gwmni Capel Garmon wedyn. Perfformiwyd drama newydd sbon danlli o dan y teitl 'Tu 么l i'r Llenni' gan awdures ifanc o'r ardal. Llongyfarchiadau a diolch i Elliw Baines Roberts am ei champ am gyfansoddi.

Yn wir, arall gyfeirio mewn fferm oedd y brif thema yma hefyd. Anwen Naylor yn wraig fferm a oedd yn twt twtian am awydd ei gwr (Huw Roberts) i yfed ei lymaid bob hyn a hyn ac yn wraig a fynychai'r oedfa'n gyson a rheolaidd.

Y cynrychiolydd Undeb Amaethwyr barfog yn perswadio'r ffermwr i gael syniad o ddawnsio'n gyhoeddus. Dychmygwch y sefyllfa - y wraig a'i ffrind (Mary Williams) am fynychu Cymanfa Ganu mewn neuadd gyhoeddus ar yr union yr un adeg ac yr oedd pump o ferched glandeg a rhywiol yn dawnsio.

Neu, o leiaf, 'rwy'n credo mai dawnswyr polyn ag ati oedd Dewi Garmon, Huw Roberts, Ioan Davies, Emyr Davies a Marc Jones. Er, cofiwch, chi, fyswn ni ddim yn hoffi cyfarfod yr un o'r 'merched' yma ar strydoedd cefn Llanrwst ar nos Sadwrn dywyll yn y gaeaf!

I gloi'r noson, cafwyd y perfformiad a enillodd y wobr am brif actor i Geraint Thomas, y wobr am brif Gynhyrchydd i Olwen Griffiths, a'r brif wobr am berfformiad yr 糯yl i Gwmni Penmachno.

Wel, wel, ni welais erioed hypocondriac fel Tom Edwards yn llyncu cymaint o feddyginiaethau tuag at annwyd arferol a hynny drwy gydol y ddrama. Dilys Roberts, ei ferch, yn cadw llygad manwl ar Geraint Thomas, y claf druan!

Y doctor (Olwen Griffiths) yn rhoi fawr o obaith iddo weld y g锚m rygbi yng Nghaerdydd ddiwedd yr wythnos ond Heddwyn Morgan yn chwarae dau ran yn ddeheuig iawn fel Dafydd James (ffrind y claf) ac Aled Morgan (gelyn y claf). Gerallt Lloyd (Gareth Griffiths) yn dynodi mai ticed ffug oedd yr anrheg i'r claf ar 么l i'r gymdoges Megan Puw (Gwenda Rippon) geisio gwella andwywn gyda hud a lledrith.

Canlyniad y cyfan oedd i'r ferch lwyddo i werthu'r tocyn i'r gelyn am 拢500 heb sylweddoli ar y pryd mai un ffug oedd! Ni welwyd erioed glaf yn gwella mor sydyn! A 'Gwellhad Buan' (David Jones) oedd teitl y ddrama yma. Ie, noson o hwyl a chwerthin diniwed gan wir edrych ymlaen at y nos Fawrth.

Wedi glaw trwm nos Lun roedd yn dipyn haws cario'r set ar gyfer dram芒u Padog a ffermwyr Ifanc 'Sbyty nos Fawrth. Wir i chi, anghofiaf i byth y foment pan neidiodd Carwyn Hafod Ifan (Jo) yn glir oddi ar y llwyfan i ganol y bin mawr ar olwynion oedd ar y llawr. Nid wyf yn si诺r a yw fy nghalon wedi sefydlogi byth!

'Le bo camp bydd rhemp' (Gwion a Meinir Lynch) a berfformiwyd gan ffermwyr 'Sbyty o dan gynhyrchiad Alun, Bryniau Defaid. Eilir Thomas gyda'i lediaith yn mynd a'i gariad llawn silicon a phlastig (Siwan Hywel) i wersylla. Yn gymdogion iddynt daw'r Trystan ap Hywel ddiog oedd gyda gwir ofn ei fam (Sioned Roberts) a'i gariad swnllyd, bronnog, boliog a thinog (Buddug Eidda). Llwyddodd perfformiad Buddug i ennill iddi dlws yr actores ifanc fwyaf addawol.

Wyddwn i rioed chwaith fod digon o le mewn toiled pabell gul mewn gwersyll i gymaint o gampau o bob math fynd ymlaen. Ydi wir, mae rhywun yn dysgu rhywbeth bob dydd!

Ffars o or-actio a ddaeth a'r cwmni'n agos iawn at y brig drwy'r holl 糯yl ac, yn sicr, i lawn haeddu'r wobr yn yr Adran ieuenctid.

'Wil Angladde' gan T James Jones a berfformiwyd gan gwmni Padog i gloi'r 糯yl. Hafwen Tai Duon druan wedi colli'i ymgymerwr o 诺r a Guto Carreg y Fran yn hynod awyddus i ofalu am y gwasanaeth angladdol.

Dafo, cynrychiolydd 'Enwad y Beddau Gweigion' (Eryl P) yn troi allan yn dipyn o 'gangstar' gyda'r Sarjant (John T欧 Ucha) ar ei 么l. Hywel Tai Duon druan fel agorwr bedd yn gorfod cael ei gladdu'n fyw, coeliwch neu beidio.

Ond yr hyn fydd yn aros yng nghof y gynulleidfa a'r cast hefyd rwy'n si诺r yw'r hyn sy'n ddigrif ddigwydd mewn perfformiad byw. Pwy all anghofio'r arch yn sbinio a'i phen i lawr gyda'r caead yn syrthio i ffwrdd HEB gorff o gwbl i mewn ynddi! Dirgelwch go iawn a barodd i bawb chwerthin am dri munud a mwy!

DIOLCH o waelod calon i BAWB a gynorthwyodd mewn unrhyw fodd i wneud yr 糯yl gymaint llwyddiant eto eleni. Fel y nodaf yn flynyddol bellach, mae diwylliant cefn gwlad i'w weld a'i deimlo ar ei orau mewn g诺yl megis hon ac mor falch yw rhywun o weld cymaint o ieuenctid sy'n mwynhau'r achlysur gan deimlo na allant golli'r digwyddiad am bris yn y byd.

Gobeithio'n wir y gwelir goleuni yn y cyfarfod cyhoeddus ddechrau Mawrth - cyfarfod i geisio cael cymorth ariannol i gadw'r Neuadd gan fod perygl mawr y bydd raid ei chau os nad y defnyddir hi'n amlach. Peidied 芒 gadael i hynny ddigwydd!
Ifor Glyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy