成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Tom, Celt ac Elen, Rhys, Morgan ac Alfie Cylch Meithrin Llanddoged
Gorffennaf 2009
Cawsom fis Mehefin prysur tu hwnt, yn trefnu gweithgareddau codi arian ar gyfer y Cylch.

Cynhaliwyd y daith gerdded ar y 13eg Mehefin gyda'r plant a'u rhieni yn cerdded dros bont Gower i Drefriw ac yn 么l.

Biti nad yw'r cae chwarae mewn bodolaeth bellach ond cafwyd llawer o hwyl yn bwyta hufen i芒 ac yn chwarae ger (ac yn) yr afon, gyda rhai o'r plant mawr wedi gwlychu at eu crwyn!

Diolch i bawb am gymryd rhan, ac i'r rhai fu mor garedig c noddi'r plant - llwyddwyd i godi dros 拢250.

Yna, ar y 18fed Mehefin, cynhaliwyd disgo yn neuadd yr ysgol gyda Leigh yn cyfrannu ei wasanaeth fel DJ am ddim unwaith eto - diolch yn fawr iawn iddo ef, i Mr Gwyn Grittiths y Pritathro am ganiat谩u i ni gael defnyddio'r neuadd (hyn ynddo'i hun yn dangos ymddiriedaeth oherwydd mai hon oedd yr achlysur cyhoeddus cyntaf yn y neuadd newydd - diolch i \ Gwyn am gymryd y risg!), i Julie am siopa am y bwyd, ac i bawb fu'n helpu ar y noson, yn enwedig Gwenan a Viv fu wrthi'n gwerthu c诺n poeth fel tasa nhw'n mynd allan o ffasiwn!

Llwyddwyd i godi dros 拢200 wedi costau.

Yn olaf, cynhaliwyd stondin mefus a hufen ym mabolgampau'r pentre, trwy garedigrwydd y Pwyllgor Adloniant.

Llwyddodd Manon a Mary i werthu gwerth 拢78 ar y noson a oedd wrth lwc yn braf a chynnes, felly'n dywydd delfrydol ar gyfer gwerthu'r fath ddanteithion.

Diolch i'r ddwy am eu gwaith caled, i bawb gyfrannodd fefus yn enwedig Mary a Nelson, ac i Wyn a Paula (O'r Pridd i'r Pl芒t) am werthu mefus ychwanegol a hufen i ni unwaith eto eleni, heb wneud unrhyw fath o elw eu hunain.

Byddwn yn defnyddio'r arian a godwyd ar gyfer prynu offer a deunyddiau ar gyfer y plant, ac ar gyfer costau cynnal a chadw cyffredinol y Cylch - diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth.

Ymunodd tri phlentyn newydd a'r Cylch yn ystod y mis, sef Iwan Bassett, Iwan Meirion a Rhys Hywel - croeso mawr i'r tri ohonynt.

Byddant yn ail-ymuno gyda ni yn ystod mis Medi, tra bo Osian, Morgan ac Alfie yn cychwyn yn y Dosbarth Meithrin, gyda Tom, Celt ac Elen yn gadael Meithrin Mwy ac yn symud i'r Dosbarth Derbyn - pob lwc iddynt i gyd.

Diolch yn fawr i'r rheini a staff yr ysgol am eu cefnogaeth yn ystod y tymor.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy