成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Odyn
Bethan efo Ceri o Lanrwst a Mathew o Ysgol y Creuddyn gyda bechgyn o'r ysgol. Teithio'r Byd
Medi 2005
Daeth teithio ac ymweld 芒 gwledydd tramor yn boblogaidd iawn ymysg pobl ifanc y blynyddoedd diwethaf hyn ond mae dwy ferch ifanc o Benmachno wedi bod ar deithiau pur anghyffredin dros yr haf yma.
BERNIE YN CHINA. ...
Mae Bernadette Sian Rippon, Rhenrhos yn treulio bron i fis yn ne China. Ar 么l graddio mewn Celf yn y Brifysgol yn Leeds roedd Bernadette yn un o bedwar a ddewisiwyd i ymweld 芒 Pharc Cerfluniaeth Yuzi yn Guilin a chael cyfle i ymchwilio i'r gwaith creadigol arbennig sydd yn datblygu yno.

Digon pryderus oedd y teulu wrth ffarwelio a hi ym Manceinion, yn enwedig a hithau yn teithio ar ei phen ei hun, ond ar 么l wythnos o dderbyn e-bost dyddiol mae'n amlwg ei bod yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi'r profiad bythgofiadwy yma.

Dywed Bernadette ei bod yn ardal wych i unrhyw gerflunydd. Mae saith ar hugain o fynyddoedd yn codi fel pyramidau o'r dyffryn hardd a hudol, yn siapiau anhygoel i'w hysbrydoli bob dydd. Mae'n mwynhau'r ymweliad yn fawr a llongyfarchiadau iddi ar gael ei dewis.

... A BETHAN YN AFFRICA
Dros yr haf bu Bethan Haf Jones, Arosfa yn Zambia yn neheudir Affrica fel rhan o brosiect a drefnir gan Camre Cymru i gynnig antur a her i bobl ifanc gan roi cyfle iddynt hefyd gyfrannu tuag at ddatblygiad y llefydd y byddant yn ymweld a hwy.

Roedd Bethan yn un o bump o Ysgol Dyffryn Conwy a oedd yn cynnwys Ceri Lewis ac Osian Deiniol o Lanrwst, Amy Backshall o Dal-y-bont a Matthew Coleman o Wytherin, ynghyd 芒 Mrs Maggie Smith, a gr诺p o wyth o Ysgol y Creuddyn gyda Pete Kirkpatrick yn arweinydd arnynt. Dyma Bethan yn adrodd am y daith:

Ar 么l deunaw mis o waith caled yn codi arian (a diolch am y cyfraniadau caredig a dderbyniais gan drigolion Penmachno) daeth yr amser o'r diwedd i fynd i Affrica.

Ar 么l 15 awr o deithio cyrhaeddais wlad tipyn gwahanol i Gymru! Ein prif nod yn ystod y mis oedd i helpu yn ysgol gymunedol Itala yn Mkushi. I gyrraedd yr ysgol roedd yn rhaid pasio drwy farchnad Mkushi a oedd yn hynod o amryliw ac yn llawn bwrlwm a bywyd. Roedd ysbryd cymunedol y trigolion yn amlwg o'r cychwyn cyntaf wrth iddynt ein croesawu trwy weiddi nerth eu pennau! Pan gyrhaeddom yr ysgol, gwelsom ei bod heb ei gorffen. Roedd yr ysgol yn cynnwys tair ystafell fach ar gyfer 500 o blant bywiog. Mae'r gwaith o adeiladu'r ysgol wedi bod yn mynd ymlaen ers y flwyddyn 2000 a'n tasg ni oedd ceisio gorffen yr adeilad.

Ein gwaith cyntaf oedd plastro dwy o'r ystafelloedd a thyllu twll toilet newydd - nid tasg hawdd o bell ffordd! Roedd gennym gwmni wrth weithio - cwmni'r plant bach eiddgar a oedd yn fwy na pharod i helpu!

Cawsom y fraint o gael dysgu amryw o ddosbarthiadau - o'r rhai ieuengaf i blant a oedd yr un oed 芒 ni. Roedd ambell i blentyn peniog iawn ac roedd brwdfrydedd y rhai ieuengaf yn ddigon i doddi calon unrhyw un. Roedd yn waith caled ond roedd ymateb y plant yn ei wneud yn werth chweil.

Tra buom yn yr ysgol cawsom y cyfle i chwarae p锚l foli, p锚l rwyd a ph锚l-droed gyda'r plant ac rwy'n falch o ddweud ein bod yn fuddugoliaethus ar rai adegau!

Ar ein noson olaf cawsom wledd o fwyd traddodiadol Zambia a oedd yn flasus tu hwnt. Cawsom N'shima, reis a chig eidion Zambia, a gorfod ei fwyta gyda'n dwylo! Roedd hyd yn oed Ysgrifennydd Addysg y gymuned leol wedi ei wahodd i'r wledd.

Roedd dysgu'r plant yn brofiad bythgofiadwy ac roedd yn amlwg fod plant Zambia yn gwerthfawrogi eu haddysg yn llawer mwy na ni. Mae'r un peth yn wir am eu hagwedd at fywyd yn gyffredinol. Er bod 98% ohonynt yn dod o deuluoedd yn dioddef o AIDS, a bron iawn pob plentyn yn amddifad, roedd ganddynt w锚n ar eu hwynebau drwy'r amser.

Yn ystod wythnos olaf ein taith cawsom y cyfle i ymweld ag un o saith rhyfeddod naturiol y byd - Rhaeadr Victoria. Cawsom hefyd weld pob math o anifeiliaid megis y rhino gwyn, eliffantod, crocodeils, sebra, jiraff a hipos.

Buan iawn yr aeth y mis heibio ond rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael y cyfle i gyfarfod a phobl arbennig a chael blas ar fyw bywyd yn Affrica - profiad bythgofiadwy!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy