成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Corwynt yn corddi HK
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong.
Mae'r bythefnos ddiwethaf 'ma wedi bod fel corwynt. Tydi fy nhraed i heb gyffwrdd â'r ddaear - a hyn oll gyda typhoon gwaethaf Hong Kong mewn pedair blynedd yn ein bwrw ni!!


Dwi erioed wedi cael bywyd bôring yng Nghymru ac mae'n annhebygol y bydd pethau'n newid i mi yn Asia!

SARS....typhoons....ein "Park N Shop" (Tebyg i Tesco) yn cau lawr yr wythnos hon oherwydd iddyn nhw ddarganfod colera mewn tanc lle chi'n prynu pysgod i fwyta!

HK -drama- Beks.....oes mae tri ohonon ni yn y briodas 'ma!

Rhynddo chi a fi, dwi di cael digon ar fod yn "Tai Tai" (yr hyn mae'r Tsineaid yn galw menywod gwyn, sydd ddim yn gweithio.) Ydy, mae'n braf am gyfnod ...gorwedd ar y traeth bob dydd, meddwl am beth i gael i swper y noson honno a bwyta ac yfed ar y to dan y sêr am oriau, ciniawa gyda'r merched, siopa, mynd i'r gampfa, partïa di-ddiwedd ... ond ar ôl ychydig mae'r cwbwl yn troi i fod yn sur iawn ac mae'r ysfa i weithio yn eich cymryd drosodd yn llwyr.

A sôn am waith - dwi di mynd o un pegwn i'r llall - dwi nawr wrthi tua 12 awr y dydd yn gweithio ar gyfres deledu sy'n ymwneud ag un o fy hoff bethau yn y byd......bwyd!

Beks yn bwyta

Mae "Cookin Up a Dragon" yn lyfr hynod o boblogaidd yn HK - (quintisential coffee table reading darling...mwa mwa!) Mae'r llyfr yn dathlu y dewis helaeth o lefydd sydd i gael i fwyta yn 'Asia's Word City, yn canolbwyntio ar yr holl flasau gwahanol sydd 'ma. Mae'r llyfr yn dangos reseitiau gan rhai o gogyddion enwocaf gwestai mwya posh y byd, yn ogystal â dangos y dai pai dongs sy'n cuddio lawr y strydoedd tywyll! A fy swydd i?! Datblygu'r llyfr i fod yn rhaglen beilot, gyda'r posibilrwydd o'i werthu fel cyfres deledu.

O ganlyniad i'r holl waith ymchwil a pre production (gan mai fi yw'r cyflwynydd) dwi wedi bod yn stwffio fy hun nes mod i'n dost!!! Un diwrnod wythnos diwethaf cefais frecwast o draed cyw iâr mewn marchnad yn y dre, dim sum yn neuadd y ddinas i ginio, ffrwythau ffres megis dragon fruit yng nghanol bwrlwm marchnad Mongkok yng nghanol pnawn a high tea yn un o westai mwyaf crand y byd "The Peninsula!"

Dwi'n amau y byddai unrhyw un yn medru bwyta cymaint heb deimlo yn wirioneddol sâl. Ond dyna ni - mae'n rhaid dioddef ar gyfer rhai achosion a dwi wrth fy modd yn darganfod ardaloedd o Hong Kong oedd yn estron i mi yn y gorffennol. Y broblem mawr yw nawr fod fy ffrindiau yn meddwl mai fi ydi 'Nigella' newydd HK ac mae pawb yn disgwyl gwahoddiadau draw am fwyd!




Ta beth - daeth ddiwedd sydyn i fy niwrnod ffilmio ddydd Mawrth oherwydd rhywbeth sy'n digwydd yn eithaf aml yn yr haf yn HK - typhoon. Ry'n ni di profi cwpwl ohonyn nhw eleni ond dim byd tebyg i'r un a fwrodd nos Fawrth yma. Mae fel petai rhyfel niwcliar yn digwydd pan fo rhybudd typhoon difrifol yn mynd lan.

Mae dwy awr 'da chi adael eich gwaith a thrafeili adref, neu llai i ardal arall ar yr ynys neu i rhai o'r ynysoedd allanol (outlying islands.) Mae'r stock exchange yn cau lawr, y siopau a thai bwyta, trafnidiaeth yn dod i derfyn a phawb yn paratoi ac yn diogelu eu cartrefi ar gyfer difrod y gwynt a'r glaw.

Buais i yn ffodus iawn a chyrraedd ein cartref ni, Stanley eiliadau cyn i'r siop hardware lleol gau. Cefais afael yn y tamed olaf o raff oedd ar ôl yn y siop. Yna, fe dreuliodd RJ a finne tua tair awr yn clymu ein holl ddodrefn lawr ar y to - pethau megis y barbie, tegannau fel ffrâm ddringo, fordydd a chadeiriau ac yn y blaen.

Buodd rhaid i ni glymu'r ffenestri, rhoi tâp drostyn nhw ....roedd hi fel bod mewn war zone, ac yna llonyddwch. Mae'r teimlad yna o lonyddwch yn disgwyl i'r gwynt bigo lan yn deimlad afreal dros ben - aros, gwylio'r teledu, gwrando ar y radio - ac yna yfed lot o chwisgi cyn ceisio cysgu drwy'r swn. Gallaf ond gymharu'r swn gyda bwystfil mas tu fas, a do fe gyrhaeddodd y bwystfil - yn ei anterth am tua 11 o'r gloch y nos.

Diolch i'r drefn rydyn ni'n byw mewn low rise a theimlais i ddim yr holl adeilad yn siglo, yn annhebyg i nifer o fy ffrindiau! Oedd, roedd yna ddifrod yn y ddinas a bu farw pedwar pysgotwr, ond mi ddaethon ni drwyddi. A'r bore canlynol roedd pawb yn ôl ar yr MTR neu ar y bws yn mynd o gwmpas eu pethau yn y gwynt a'r glaw. A beth wnes i? Mynd i dy bwyta arall a chriw camera yn fy nilyn...





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy