成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hiraeth, hwyl a dagrau
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong
Mae'n syndod pa mor hiraethus y gall rhywun deimlo ar rai adegau.

Dyna sut rydw i'n teimlo yn ystod cyfnodau pan fo dathliadau diri yng Nghymru - penblwyddi, priodasau ac, wrth gwrs, Dydd Gwyl Dewi.

Eleni, roeddwn i fod yn 'MC' dathliad blynyddol Cymdeithas Dewi Sant Hong Kong ond, yn anffodus, cafodd yr hen 'asthma' y gorau arnaf!

Dyna lle'r oeddwn i yn dioddef adre tra bo'r rhan fwyaf o fy ffrindiau Cymreig yn gwrando ar Cliff Morgan yn arwain noson o fwyta, yfed a gwrando ar gôr meibion HK yng ngwesty crand y Shangri-La, Kowloon.

Y flwyddyn nesaf mi fyddaf yn well!!!

Yn yr ysgol
Ta beth, diolch i'r drefn roedd hwyliau tipyn gwell arnai erbyn Mawrth 3 pan gytunais i fod yn fam gydwybodol yn gwneud cyflwyniad Gwyl Dewi yn ysgol fach Ela Mai.

Sôn am brofiad afreal!!! Mae Ela'n mynd i ysgol fach Montessori leol yn ein pentref ni, Stanley.

Saesneg ydy'r brif iaith a'r plant yn dysgu ychydig o Cantonese a Mandarin hefyd.
Ydyn, maen nhw'n mynd i fod yn blant bach glyfar tu hwnt!!!

Yn ogystal â'r ieithoedd yma, mae nifer o'r plant yn siarad iaith arall adref; Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac ati gan fod plant o bedwar ban byd yn byw yn ein hardal ni.

Mae'r brifathrawes - sy'n dod o Sri Lanka yn wreiddiol ac yn brifathrawes ar ysgol Montessori arall yn Singapore - yn awyddus tu hwnt i'r plant ddysgu am ddiwylliannau eraill.

Wedi gwirioni
O'r herwydd, roedd hi wedi gwirioni pan gynigais i sôn am Ddydd Gwyl Dewi wrth y plant.

Mewn gwisg GymreigEr i Chiara, y brifathrawes, fod yn gyfrifol am ysgolion Stanley a Singapore am 20 mlynedd doedd hi erioed wedi dathlu Mawrth 1. Roedd y disgwyl yn fawr!

Dechreuodd y dathliadau yn fore gyda 'Mmami' yn chwilio am daffs mewn tua 20 o siopau blodau ond er yr holl chwilota, siom a gefais.

Er na wyddwn i, rhaid archebu'r blodau melyn sydd mor gyfarwydd i ni yng Nghymru o'r Iseldiroedd neu Seland Newydd ddeng niwrnod ynghynt ac rwyf innau wedi gwneud nodyn o hynny yn fy nyddiadur 2005!

Felly, bu'n rhaid I Ela Mai a Mami fodloni ar flodau ffelt.

Wrth ei bodd
Yn ffodus i mi, mae Els wrth ei bodd yn gwisgo lan; Snow White, tylwyth teg, Tinkerbell, Spiderman, mae cymeriad gwahanol yn eistedd wrth y bwrdd brecwast bob bore!

Felly, ni chefais unrhyw drafferth dwyn perswâd arni i wisgo ei gwisg Gymreig a chael photoshoot cyn cychwyn!!!

Roedd gennym lond sach Cymreig gan gynnwys tair torth frith wedi eu pobi gennym y diwrnod cynt.

Byddai Dudley wedi bod yn browd iawn ohonaf!

Cawsom groeso cynnes yn yr ysgol lle'r oedd 50 o'r rhai bychain wedi bod yn fishi yn gwneud cennin Pedr allan o focsus wyau ac wedi bod yn lliwio lluniau o Ddewi Sant a'r faner Gymreig.

Eglurais innau iddynt pwy oedd Dewi Sant a phwysigrwydd y diwrnod i ni yng Nghymru - y gwisgo lan, eisteddfodau, cawl, bara brith, cennin, y cwbwl lot!

Roedden nhw wrth eu boddau'n gweld Ela, eu ffrind ysgol, mewn dillad gwahanol iawn i'r arfer ac yr oeddynt i gyd yn fwrlwm o gwestiynau!

Nid yn unig eglurais iddyn nhw sut i wneud bara brith ond dysgais eiriau Cymraeg fel bore da, diolch ac ati iddyn nhw.

Wedyn, darllenais o lyfrau Sali Mali gan gyfieithu wrth fynd ymlaen.
Roedd ambell i un bach yn meddwl ei bod yn debyg i Olive Oil!!!

Yr unig un
Wedi awr o siarad daeth yn amser gadael Ela Mai yn yr ysgol ond haws dweud na gwneud gan i'r un fach dybio fy mod i yno am weddill y diwrnod!

Do, mi ddaeth y dagrau ond rhaid oedd gadael.

Erbyn imi ei chasglu o'r ysgol, roedd y dagrau wedi diflannu a chawsom sawl edrychiad o edmygedd tra'n cerdded adref.

Wedi cyrraedd adref roedd yn gas gen i dynnu'r wisg oddi arni a hithau yr unig ferch fach imi i'w gweld yn gwisgo gwisg Gymrieg ar Fawrth y cyntaf yn Hong Kong.

Dwi'n cyfaddef imi deimlo gwir hiraeth y noson honno.





cysylltiadau


asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy