成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks - teithio'n bell O briodas i briodas
Beks yn crwydro o'i chartref yn Hong Kong i ddwy briodas go arbennig

Mae rheswm da pam fy mod bron i bythefnos yn hwyr yn sgrifennu hwn.
Rydw i wedi bod ymhlith criw y jetset gydol fis Medi yn hedfan o un cyfandir i'r llall!

Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ddod i arfer ag ef yn hawdd iawn!!!

Fu hi ddim yn fater o ddeffro un bore a phenderfynu fy mod am fynd ar wyliau - na, roedd gennym ddwy briodas gyda fy ffrind gorau o'r coleg yn priodi yn Florence yn yr Eidal a Rod yn MC mewn priodas ffrind agos oedd yn priodi ar ynys brydferth Koh Samui, Thailand.

Taith bell
Mae'n dipyn o daith o HK i Florence gan na allwch hedfan yn syth yno ond gorfod newid o Heathrow i Gatwick yn Llundain.

Dim rhyfedd fy mod yn teimlo imi fod yn teithio am wythnos erbyn cyrraedd yno!

Ta beth, fe anghofiais am y siwrne unwaith y dechreuais flasu'r Chianti lleol!

Roeddem yn aros mewn gwinllan hyfryd gyda phwll nofio preifat a chriw o bobol oedd wedi hedfan i'r Eidal ar gyfer y briodas.

Mae fy ffrind Sophie, y briodferch, yn gynhyrchydd rhaglen deledu foreol Loraine Kelly ar GMTV a chan fod ei gŵr, Gary, yn yr un maes yr oedd un gornel bach o Tuscanny yn llawn cyfryngis!

Druan o'r bobl leol,.. doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd wedi eu taro nhw!

Mewn Eidaleg
Mewn neuadd bentref mewn lle bach or enw Castelino y bu'r briodas gyda'r gwasanaeth i gyd mewn Eidaleg ond gyda chyfieithydd yn egluro beth oedd yn digwydd.
Doniol iawn ar adegau!

Roeddwn i'n darllen yn y briodas - rhywbeth dwi wastad yn ei ystyried yn fraint.

Ond mae'n beth hynod o emosiynol hefyd ac fe ddaeth deigryn i'm llygaid wrth imi fwrw mewn i'r Keats.

Ta beth, wedi i'r dagrau gilio, bant a ni i'r winllan gyda'r Mr a Mrs. Simpson newydd - a dyna beth oedd gwledd!

Bwyd gorau erioed
Mae bwyd Eidalaidd wastad wedi bod yn un o fy ffefrynnau ond gallaf ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon na chefais i erioed ddim i'w gymharu â hwn.

Mae rhywbeth arbennig iawn am fwyd Twscan a chawsom ein sbwylio gyda phrydau lleol o basta trwchus a chaws lleol, cyw iâr lleol wedi'i goginio mewn lemwn a pherlysiau gyda llysiau ffres lleol, bara garlleg oedd dal yn dwym o'r ffwrn, cacen briodas fel tŵr Pisa wedi ei gwneud yn llwyr o tiramisù.

Nefoedd! Ond rwy'n credu imi adael yr Eidal sawl pwys yn drymach. Fe fyddwn faint Pavarotti pe byddwn i'n byw yno!

Roedd gweld Sophie yn eistedd ar y brif ford yn yfed champers gyda'i theulu o'i chwmpas a gwyrdd y gwinllannoedd tu cefn iddi yn un o'r pethau mwyaf rhamantus imi weld erioed ac er imi deithio yno ar fy mhen fy hun a gweld ishe fy nheulu bach yr oedd hi'n sicr yn daith gofiadwy.

Paradwys
Dim ond deuddydd wedi dychwelyd i HK roedd Koh Samui yn galw ond diolch i'r drefn gellid teithio yno yn syth.

Roedd hyn yn gwneud bywyd dipyn haws gan fod Joni Teifi James yn teithio gyda ni, yn defnyddio ei basport am y tro cyntaf!

Ym maes awyr Koh Samui dim ond ambell sied do gwelllt sydd yno gydag arywdd International arrivals!

Mae yno goed palmwydd ym mhobman ac mae'r bobol bob amser yn falch o'ch gweld ac yn gwenu'n braf.

Sdim syndod mai fel gwlad y gwenau yr adnabyddir y wlad.

Y tro hwn, ein teulu ni oedd gafodd y daith feraf i'r briodas gan fod Rachel y briodferch yn dod o Seland Newydd a'i gŵr, Rob, yn dod o Iwerddon.

Rod a BeksRoedd y 60 o bobol a ddaeth yno wedi teithio hanner ffordd ar draws y byd a chan ein bod ni yno am ddeng niwrnod trefnwyd llwyth o bethau ar gyfer y dyddiau a'r gyda'r nosau gan gynnyws hen/bucks night, barbi ar y traeth, taith bysgota ac ati.

Ar gefn eliffant
Uchafbwynt y gwyliau i Ela oedd mynd ar gefn eliffant a mynd ar daith eliffantod!

Ar y llaw arall roeddwn i wrth fy modd yn mynd am fy massage dyddiol ar y traeth gan ei fod mor rhad yno - dim ond un rhan o dair o'r hyn fyddwn i'n ei dalu yn HK.

Anffurfiol iawn oedd y briodas ei hun a'r gwasanaeth mewn gardd breifat yn y gwesty gyda gwledd anferthol uwchben y traeth gyda thân gwyllt a cherddoriaeth I gadw pawb yn hapus tan oriau mân y bore.

Gyda chyfuniad o westeion Kiwi a Gwyddelig roedd y craic yn un da iawn a phawb yn dychwelyd adref wedi gwneud ffrindiau newydd.

Yn bersonol, mae'r bywyd jetset yn grêt am gyfnod ond rwyf wrth fy modd hefyd cael clirio customs wrth ddychwelyd i HK gan wybod y gallaf ymlacio a gofalu am fy mhlanhigion ar do fy nghartref bach fy hun!!!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy