成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks Diemwntau a roc a rôl
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong




Diolch ir drefn doedd o ddim yn waith anodd - tywys Kate, y gyflwynwraig, o gwmpas rhai o siopau a marchnadoedd HK i ddangos iddi beth sy'n fargeinion a beth ddylai hi osgoi ei brynu fel ymwelydd.

Yn ffodus i mi, roedd ein hymweliad cyntaf â marchnad Stanley sydd ond tafliad carreg i ffwrdd ac roedd Kate ar criw yn hapus i daflu llwyth o arian bant ar bethau traddodiadol Chineaidd.

Un o fy hoff siopau
Ymlaen â ni wedyn i un o fy hoff siopau, Shanghai Tang - siop y selebs gyda lluniau o Kate Moss, Angelina Jolie, Jerry Hall a nifer o sêr eraill ar wal y fynedfa.

Fel byddech chin disgwyl, mae angen tipyn o ddoleri i siopa fan hyn!

Gwisgo diemwntau
Treuliwyd gweddill y diwrnod ar ochor Kowloon mewn siopau diemwntiau gan fod HK yn un or llefydd gorau yn y byd am brynu diemwntiau am brisiau da.

Pam tybed, mae diemwntau yn cael effaith mor ryfeddol ar bron bob menyw? Yr effaith yna syn gwneud ichi deimlo fel jeli!!!!

Am y tro cyntaf a'r tro olaf, siwr o fod - cefais gyfle i wisgo modrwy ddrud ar bob bys gyda'r bobol leol yn edrych yn syfrdanol arnom o'r ochor arall i ffenest y siop!!!!

Marchnad nos
Oddi yno, bant a ni i farchnad nos Temple Street sy'n enwog am ei chopïau o bethau. Bagiau ffug LouisV a Prada am tua £30 yn y steil ddiweddara ac yn edrych bron gystal â rhai diweddara Posh Spice.

Bu'n ddiwrnod da o siopa a minnau, am unwaith, yn ymwrthod â themtasiwn a gadael i eraill wario!!

Tridiau o roc a rôl
Nid criw GMTV yn unig oedd ar ymweliad â HK gan fod yna griw roc a rôl go iawn yn dre - y Rolling Stones.

Bu HK yn ceisio denu'r band ers hydoedd ac fe wnaethon nhw ganslo ddwywaith oherwydd y SARS.

Y StonesOnd, am y tro cyntaf a, siwr o fod, y tro olaf - fe gyrhaeddodd y bois a chawsom ninnau dridiau o roc ac o rôl go iawn yng nghanol rhai o adeiladau uchaf y byd.

Anodd credu, o'u gweld, fod Mick ar criw dros eu trigain oed - yn enwedig o'u clywed yn beltio clasuron fel Honkey Tonk Woman a Satisfaction fel pe bydde nhw'n dal i berfformio bob dydd!

Ni allaf ond gobeithio y bydd gen i hanner eu hegni pan fyddaf yn hen nain!

Ac y bydd fy drainpipes yn dal i'm ffitio innau!!!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy