成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Priodas yn Awstralia
Cyntedd y gwesty ym Melbourne yn llawn Cymraeg . . .

Kung hei fat choi hwyr i bawb!
Blwyddyn newydd dda a ffarwel i flwyddyn y ceiliog a chroeso i flwyddyn y ci!

Mae'r dathliadau bellach bron a dod i ben fan hyn yn Hong Kong er bod ambell i barêd Lion Dance yn parhau er mwyn gyrru allan ysbrydion drwg blwyddyn y ceiliog.

Fel arfer, fe wnaethon ni fanteisio ar y ffaith bod cymaint o wyliau cyhoeddus yn HK yr adeg hon o'r flwyddyn a bwrw mas o'r dre am dros bythefnos a threulio'r cyfnod yn Oz.

Mewn gwirionedd, roedd y trip wedi ei drefnu ers ache gan fod Rod yn was mewn priodas yn Melbourne ... esgus grêt i ymweld â dinas nad ydym wedi bod ynddi o'r blaen a rhoi meltdown go iawn i'r cerdyn credyd yn un o ddinasoedd siopa gorau Awstralia.

Fel Abertawe!
Roedd cerdded i westy yr RAC yng nghanol Melbourne ychydig fel cerdded i'r Marriott neu westy tebyg yn Abertawe - gyda'r Gymraeg i'w chlywed ym mhob twll a chornel!

Gan fod Dai y priodfab, sydd bellach yn byw yn Beijing, yn dod o Borth Tywyn roedd criw go dda wedi hedfan ar draws y byd i'w weld yn priodi â merch o Melbourne .

Chware teg iddyn nhw - fyddai hi ddim wedi bod yn siwrne hawdd gyda phlant bach a babanod a'r jetlag gwaethaf yn y byd.

Ond wedi clywed y byddai cangarŵs go iawn ac emiws ar yr homestead lle byddai'r brecwast priodas fe anghofiodd y rhai bach fod shwt beth a jetlag yn bod o gwbl!

Dan ei sang
Roedd Melbourne dan ei sang gan fod yr Australian Open ymlaen.

Sôn am ddinas lle mae chwaraeon yn rheoli ac fe fydd Gemau'r Gymanwlad yno eleni hefyd.

Serch hynny, roedd gwisgo pâr o trainers y peth olaf oeddem ni eisiau'i wneud yn y gwres llethol ac, yn wir, bu'n rhaid i ambell i gystadleuydd dynnu mas o'r tenis gan fod y gwres yn ormod iddyn nhw.

Yn destun mwy o bryder, bu sawl tân ym mynyddoedd ardal Victoria oherwydd y gwres.

Diolch i'r drefn, roedd hi ychydig yn fwy claear ddydd y briodas a fu dim rhaid wrth ormod o slip, slap, slop gyda'r eli haul!

Atgoffa o Gymru
Wedi'r briodas mewn eglwys ym mhentref Sunnbury ychydig tu allan i Melbourne teithiodd pawb i homestead hynaf Victoria, Emu Bottom, ar gyfer y brecwast. Ar ein ffordd i briodas Roedd yr hen dŷ a'r gerddi yn fy atgoffa o Gymru gyda chaeau gwyrddion a cheffylau.

Un gwahaniaeth mawr, fodd bynnag, oedd y cangarŵs yn y caeau hynny ond gyda'r glesni daeth ton o hiraeth gan fod glaswellt yn beth prin iawn yn HK!

Roedd y wledd briodas yn wych gyda gwinoedd lleol Yarra Valley, Victoria ac rwy'n sicr fod y criw o Gymru wedi mwynhau'r dydd mas draw - wel, roedd hi'n edrych felly gyda phawb yn dawnsio'n wyllt i sŵn Tom Jones y gyda'r nos!

Dinas gwbl wahanol
Bant a ni i Sydney yn dilyn ein cyfnod yn Melbourne - dinas gwbwl wahanol ac un yr ydw i wrth fy modd â hi.

Roeddem yn awyddus iawn i aros mewn gwesty gydag ychydig o hanes iddo a'r Stampford Plaza yn ardal Double Bay oedd hwnnw.

Hwn oedd hoff westy y dywysoges Diana a fan hyn y darganfuwyd corff marw Michael Hutchence, prif ganwr y band roc o Awstralia, NXS.
Yr oedd cofio fod y ddau yma wedi ymadael â ni yn codi arswyd arnaf a'm dychymyg yn rasio.
Beth pe byddwn i'n gweld ysbrydion Michael Hutchence a Paula Yates ganol nos?!!!!

Efallai y byddaf yn meddwl ddwywaith cyn aros yn un o westai gorau Sydney eto. Gwnaiff B&B ar draeth Bondi yn iawn y tro nesaf!

Hyfrydwch y traeth
Tra yn Sydney bu'n rhaid ymweld â'e atyniadau twristaidd arferol fel y Ty Opera, Circular Quay, traeth Bondi ac ati.

Rwyf wrth fy modd â Bondi a chan ei bod hi ganol haf roedd y traeth yn orlawn o "bobol brydferth" yn perffeithio'u lliw.
Sôn am gyrff hyfryd! Y cyfan ddigon a gwneud ichi fynd i'r ysbyty agosaf am driniaeth blastig corff cyflawn!

Perffeithio sgiliau hwylio Cawsom ambell ddiwrnod hyfryd ar y traeth yno a cafodd Joni gyfle da i berffeithio ei sgiliau "hwylio!"

Oes, mae modd "hwylio" pan yn wyth mis cofiwch ... mewn peth bach plastic!!!

Fel y gwelwch, rwyf wrth fy modd gydag Awstralia a'i fywyd "mas tu fas".

Tywydd tebyg i HK, gwinoedd anghredadwy a phobol glên, hamddenol eu ffordd.

Oedd, roedd hi'n anodd dod adref i sŵn dawnswyr y llew!
Blwyddyn Newydd Dda bawb.






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy