成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks a'r gŵr gwadd, Frank Hennessy Gŵyl Dewi 2006
Beks yn sgrifennu am ddathliadau Cymry Hong Kong

Dydd Gŵyl Dewi Hapus Bawb!
Rydym ni wedi bod yn dathlu ers bron i wythnos bellach gan fod Cymdeithas Dewi Sant Hong Kong yn cynnal ei gwledd flynyddol y Sadwrn cyn Mawrth y 1.

Mae'n noson go glam ar y cyfan gydag adloniant diri o gychwyn y noson tan oriau mân y bore.

Yn ogystal â Chôr Meibion HK, seremoni eisteddfodol, band byw a phryd o fwyd rhagorol, mae yna wastad siaradwr gwadd o Gymru yn ymuno â ni.

Ymunodd croes doriad o bobol â ni yn y gorffennol, Phil Bennett, Roy Noble, Philip Madoc a'r llynedd, Shân Cothi yn llorio pawb gyda'i llais angrhedadwy a'i phersonoliaeth gynes.

Eleni, y canwr gwerin a'r darlledwr Frank Hennessy oedd y siaradwr gwadd ac, wrth gwrs, roedd pawb wedi gwirioni ag ef.

Hen gyfaill
Cyrhaeddodd Frank, a'i wraig Eleri, gwpwl o ddyddiau cyn y wledd felly roedd hi'n gyfle hyfryd i ddala lan 'da hen gyfaill o'r 成人快手 a chael y clecs a hanes pawb!!

Trefnodd y gymdeithas bryd o fwyd i groesawu Frank yn fy hoff dŷ bwyta yn HK - The China Club sydd a naws colonial iawn iddo gyda'r lluniau Chineaidd mwyaf anghredadwy a welais erioed.

Mae blodau ffres ym mhobman, cyllyll a ffyrc arian a bron iawn eich bod yn teimlo fel rhan o ffilm am HK sy di cael ei ffilmio gan mlynedd yn ôl!

Mae dewis eang iawn o fwyd gyda phob math o fwydydd Chineaidd - Cantoneaidd, Pekineaidd, Shanghaiaidd , Sechuaneaidd ac yn y blaen.

Mami ac Ela yn barod am y noson fawrMae'r dewis ar y fwydlen mor eang nes ei bod yn waith called iawn dewis ond roedd Frank ac Eleri yn reit hapus i fwrw mewn i'r cyfran gyda chopsticks arian.

Ffrog newydd
Cytunais i fod yn MC eleni ac, wrth gwrs, bu'n rhaid cael ffrog newydd!!!

Rydym y ffodus iawn yn HK i fedru mynd at deiliwr a gofyn am bron iawn unrhyw beth gan wybod y bydd yn barod o fewn dyddiau.

Gall fod yn fusnes costus ond mae'r gwneuthuriad yn wych.

Eleni, dewisais fynd at deiliwr Rod gan ofyn am rywbeth tebyg i'r hyn welais mewn cylchgrawn.

Roedd y ffrog yn berffaith ag Ela yn meddwl bod mam yn edrych fel tywysoges!!!
Mmmmm ... yn fy mreuddwydion!

Roedd i Ela Mai ran flaenllaw yn y wledd hefyd yng ngwesty swanc y Conrad. Gofynnwyd iddi wisgo ei gwisg Gymreig a dosbarthu bathodynnau gyda baneri Cymru - China arnynt rhwng pawb fel yr oeddent yn cyrraedd.

Roedd hi mor frwdfrydig yn ei 'swydd' fel ei bod bron iawn yn ymosod ar y gwestai wrth iddyn nhw gerdded lawr y grisiau i'r neuadd!

Yn ogystal â hyn, bu'n rhaid iddi hi a merch fach arall, Ffion, sydd yn 10, arwain y prif westeion i'r neuadd cyn canu Hen Wlad Fy Nhadau.

Roedd rhain yn cynnwys Conswl Cyffredinol Prydain a Gogledd Iwerddon a llywydd y gymdeithas. Tipyn o joban i ferch fach bedair oed o flaen cannoedd y bobl!!

Ta beth, does dim owns o nerfau yn perthyn i Ela Mai ac yr oedd y ffaith ei bod yn gorfod mynd adref ar ôl yr anthem yn newyddion drwg iawn i'n Cindarella fach ni oedd ishe aros tan hanner nos!!!

Eisteddfodol
Mae seremoni Eisteddfodol yn rhan allweddol o ddechrau'r wledd bob blwyddyn a phob amser yn dipyn o agoriad llygaid i'r anghyfarwydd.

Fel gallwch ddychmygu, mae yno bob amser groes doriad o bobol o bedwar ban byd ac felly'n gyfle arbennig i ddysgu rhywbeth iddynt am ein celfyddyd ni.

Yn ogystal â hyn mae blas Cymreig ar y bwyd - eleni, cawl barlys gydag eog a chennin oedd i ddechrau, cig oen wedi goginio'n araf mewn gwin coch a llysiau, tatws gyda chennin a stwnsh rwden ac wedyn tarten riwbob, pwdin bara gyda chwisgi a hufen iâ Baileys.

Yn naturiol mae i ganu ran allweddol ac ni fyddai'r wledd yr un fath heb Gôr Meibion HK.

Dwi wastad yn hiraethu am adref yr eiliad dwi'n clywed nodau cyntaf Myfanwy ac mae'n amhosib cuddio ambell ddeigryn!!!

Roedd yr hiraeth yn waeth eleni gan fod Frank, sydd hefyd yn dod o Gaerdydd, yno a phan ganodd o Ar Lan y Môr bu bron imi orfod gadael y stafell.
Mae hiraeth yn beth rhyfedd.

Fel becws
Yn ogystal â'r wledd, mae ein cegin ni wedi bod fel "becws" wrth i Ela Mai a Mami goginio dros 100 o bice bach i'w rhannu yn ysgol Ela.



Ela Mai yn ei gwisg Gwyl DewiDaeth yn draddodiad bellach i mi fynd i'r ysgol i siarad gyda'r plant am Ddewi.

Byddaf yn archebu'r 'daffs' fis ynghynt a byddaf yn dangos fideos a llyfrau Sali Mali ayb ac yn mynd â baner y ddraig goch gyda ni.

Uchafbwynt yr holl beth i Ela ydy'r gwisgo lan yn ei dillad traddodiadol ac y oedd yn ein hystafell ni am 6.30 bore ishe gwisgo!!!!

Sdim byd fel brwdfrydedd sbo!
Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb.




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy