成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Abba pan oeddan nhw'n perfformio Mama mia - am berfformiadau
Beks Walters yn mwynhau a hanner mwynhau dau berfformiad yn Hong Kong

Wedi i'r merched ddychwelyd i Brydain a Singapore roeddwn yn teimlo'n reit isel gan imi fwynhau eu cwmni nhw cymaint.

Yn sydyn iawn roedd hi fel petai rhywun wedi rhwygo fy mraich i bant ond rhaid oedd clatsio 'mlaen da bywyd.

Yn ffodus - neu falle'n anffodus - cefais lwyth o waith radio gyda 3/RTHK felly doedd dim amser i hel meddyliau'n ormodol.

Ac yn ogystal, roedd ambell beth arall i'w drefnu fel un priodas fach yn y Mwnt mewn llai na chwech wythnos!!!

A minnau heb hala'r gwahoddiadau mas roedd pwysau arnaf i hel cyfeiriadau pobol o bedwar ban byd - China, Singapore, De Korea, Seland Newydd, Llundain, Florida, Warsaw, De Affrica, Iwerddon gan beri imi sylweddoli na fydd angen imi aros mewn gwesty byth eto os yn ymweld ag un o'r lleoedd yna!

Ta beth, diolch i'r drefn mae'r gwahoddiadau wedi mynd a minnau'n gallu anadlu eto.

Tipyn o sioe
Rhaid oedd cael brêc llwyr o bethau priodasol dros y penwythnos a chan fod un o fy ffrindiau gorau yn dathlu ei phen-blwydd bant a chriw ohonom i weld y sioe gerdd Mama Mia gan fod cast o Awstralia yn dre am fis ac er bod y tocynnau yn hynod o gostus maen nhw wedi bod yn fflio allan o'r theatr.

Roeddwn yn fy seithfed nef pan ddarganfyddais inni fachu rhai ac wrth fy modd gwybod ein bod yn mynd i far mewn ty bwyta swanc newydd yr ochor arall i'r dwr yn Kowloon - Aqua.

Roedden wedi clywed sôn am Aqua gyda rhai'n dweud mai dyma Y LLE ar y foment i fwynhau golygfeydd arallfydol o'r ynys a harbwr Victoria.
Mae'n berffaith wir.

Yn anffodus mae mor wir yr ydych yn colli pob rheolaeth ar amser yng nghwmni ffrindiau da a diod dda a bu'n rhaid rhedeg i'r perfformiad - sôn am fod mas o wynt yn cyrraedd y theatr!

Mae Mama Mia yn wych - yn enwedig os ydych chi'n ffan o gerddoriaeth Abba.

Ond nid yw yn seiliedig ar y grwp Abba o gwbwl ond yn hytrach yn defnyddio eu caneuon mwyaf poblogaidd mewn stori sydd wedi ei gosod ar ynys Roegaidd. Clyfar.

Gan fy mod i eisoes wedi gweld Buddy, Return to the Forbidden Planet a'r Rocky Horror Picture Show a roeddwn yn disgwyl rhywbeth tebyg gyda phawb ar eu traed yn dawnsio o'r cychwyn cyntaf.

Ond na - roedd digon o bobol yn canu yn dawel, hymian a chodi bys mawr eu traed lan a lawr ond dyna'r cwbwl.

Efallai bod cynulleidfaeodd Chineaidd yn fwy swil a sidêt na ni'r Gweilos.

Ond doedd dim ots gen i; erbyn y finale ac ni allwn barhau i eistedd ar fy mhen ôl mwyach a bu'n rhaid imi godi a dawnsio ... a sicrhau bod gweddill fy ffrindiau yn ymuno a mi wrth gwrs!
Noson arbenig.

Perfformiad arall
Ac o un perfformiad i un arall gan fod Ela yn 'perfformio' yn ei chyngerdd diwedd tymor.

Y tro cynt yng nghyngerdd y Pasg gwrthododd adael col mam i fynd ar y llwyfan gyda'i ffrindiau - dim ond eistedd yno yn crynu fel deilen yn gwylio.

Ond y tro hwn roedd pethau ychydig yn wahanol! Roeddwn eisoes wedi ei chlywed yn canu cân Mandarin yn y ty ac yn canu Brown girl in the ring a ddysgodd yn yr ysgol!

Pan welodd ei ffrindiau yn camu ar y llwyfan roedd hithau, wedi ychydig o berswâd, am ymuno a nhw.

Dechreuad grêt, medde fi, ond druan ohoni, unwaith y dechreuodd y gerddoriaeth y cyfan allai hi wneud oedd syllu ar y llawr gan sefyll yno fel statue wedi fferru tra bo pawb arall o'i chwmpas yn canu a dawnsio.

Yn amlwg ychydig yn wahanol i'w Mami!!! Efallai y cawn well hwyl yn y cyngerdd Nadolig.
Gobeithio!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy