成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dawnsio Bale Mentro i fyd bale!
Beks yn cael ei phrofiad cyntaf o wersi bale i blant gydag Ela yn Hong Kong


Bywyd arferol!
Roeddwn i wedi anghofio sut beth ydi bywyd arferol wedi'r holl rhedeg o gwmpas cyn y briodas!

Ond rydym ni bellach wedi bod nôl yn Honkers ers pythefnos a'n mis mêl yn Ischia i'w weld fel rhywbeth o'r gorffennol pell!

Beth ddigwyddodd i'r tŷ bychan yn nghanol y winllan ym mynyddoedd yr ynys hyfryd yn ne'r Eidal?
I ble yr aeth y dyddiau hir o orwedd wrth bwll nofio yn gwneud dim ond symud o un ochor i'r llall yn 'topio'r tan'?
!! Mmm .

Rwy'n dal i freuddwydio am y gwin cartref a'r pitsas cartref dyddiol - yn enwedig gan fy mod nôl yng ngwlad y stir fry a reis!!!!

Gweithio'n galed
Ond, a dweud y gwir mae'n reit braf bod nôl yn Asia ac ail gydio mewn bywyd.

Mae Rod yn ôl yn gweithio yn galed gyda'i ddydd arferol tua 12/13awr!

Beks yn darlleduRydw innau'n ôl yn darlledu ar Radio 3 - RTHK (Radio Television Hong Kong) ac yn mwynhau'n arw.

Yn ogystal, rydw i'n edrych ar bosibiliadau busnes newydd yn ymwneud â darnau o gelf/tecstilau Chineaidd - a hynny'n rhywbeth yr ydw i wedi bod yn ysu i wneud ers ache gan fod ein fflat ni yn llawn o betahu o'r fath.
(Gwyliwch y gofod 'ma!)

Dawnsio bale
A thra bo Mam a Rod wedi bod yn gweithio mae Ela Mai wedi dychwelyd i ysgol Montessori fan hyn yn Stanley.

Ond nid yr ysgol yn unig sy'n cael blaenoriath eleni - o na! Mae hi hefyd wedi dechrau ambell ddosbarth newydd - nofio, cerddoriaeth a'r ffefryn, sef dawnsio bale!

BaleBu hwn yn beth mawr yn ein tŷ ni ers sbel ac Ela wedi bod yn gwisgo lan yn ei "dillad bale" bron iawn bob dydd ers iddi troi ei dwyflwydd oed.

Mae rhai plant yn hoffi peintio, chwarae 'da Barbie, beicio, chwarae cowbois, ond Ela yn hoffi "chwarae bale!"

Yn wir, mae'n caru popeth sy'n ymwneud â bale; y sgidiau, y dillad, y gerddoriaeth ac os ydw i wedi gweld Barbie Swan Lake unwaith dwi wedi'i weld fil o weithiau!

Bellach, gall wneud bron i bob symudiad o'r ffilm.

Mae Angelina Ballerina, hefyd, yn gymeriad hynod boblogaidd yn fflat 3B!

O ganlyniad, roedd Ela yn adnabod pethau fel first position a pirouette er na chafodd wersi ffurfiol erioed.

Bu rhai o'i ffrindiau yn mynd am wersi ers misoedd ond roeddwn yn awyddus iddi hi aros nes ei bod yn dair a rhai misoedd.

Y wers gyntaf
Ta beth ... daeth yn amser y wers gyntaf yr wythnos hon a'r un fach wedi ecseitio'n bost!

Rhaid dewis a dethol yn ofalus bob gweithgaredd i blant yn HK gan fod popeth yn hynod o gostus a'r Chineaid yn gystadleuol tu hwnt.

Wedi ychydig o waith ymchwil penderfynais mai'r Southern School of Dance fyddai orau i Ela gan fod hon yn ysgol ddawnsio sydd wedi bod yn HK ers 30 mlynedd a rhai o'r plant bach a fu yno wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfa gyda'r English National Ballet!

Siaradais gyda sefydlwraig y cwmni - Alabanes, groesawgar tu hwnt.

Hon, heb os, oedd yr ysgol amdani.

Felly bant a ni i'r HK Cricket Club am y wers gyntaf.

Roedd y rhai bach i gyd yn gwisgo dillad swyddogol o leotard, tutu, sanau pinc a sgidiau bale pinc ac yn browd iawn yn eu turn owt.

Fel arfer, mae'n anodd cael Ela i adael fy ochor dan amgylchiadau fel hyn ond roedd y tro hwn yn eithriad a bant a hi heb hyd yn oed sws ffarwel i Mam!

Bum yn gyfrwys iawn am yr awr nesa - yn pipo tu ôl i'r drws ac yn syllu ar fy merch fach oedd yn wên o glust i glust ac yn amlwg yn cael hwyl arni.

Dydw i erioed wedi ei gweld yn mwynhau ei hun gymaint.

Naturiol iawn
Ar ddiwedd y wers, rhedodd allan yn clebran fel pwll y môr am Miss. Lisa, yr athrawes, a'r hyn fu hi'n wneud.

BaleA phan ddaeth Miss. Lisa ataf ar ddiwedd y wers gofynnodd os oedd Ela wedi cael gwersi o'r blaen gan ddweud fod ei thechneg yn naturiol iawn a bod poise da hi!!!

Wedi neidio ar y bws i fynd adref gyda fy malerina fach siaradus roedd gwên fawr ar fy wyneb. Tybed, a oedd Darcey Bussell fach yn eistedd wrth fy ochr?






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy