Dyna lle roeddwn i yn troedio coridorau oedd yn hen gyfarwydd i fi - roeddwn yn cerdded o gwmpas un o adeiladau mwya cyfarwydd fy myd bach i o'r gorffennol, sef canolfan y 成人快手 yn Nghaerdydd. Roeddwn wedi cael fy ngwahodd yn westai ar rhaglen Radio Cymru, Beti a'i Phobol.Dychmygwch fy ymateb pan ofynnwyd i mi a fyddai gennyf ddiddordeb bod yn rhan o'r rhaglen? Roedd hyn fel cael fy ngwahodd i ymddangos ar y rhaglen 'This is your Life'! Sôn am deimlo yn freintiedig ac yn anrhydeddus!!! Wrth gwrs nid oeddwn yn mynd i ddweud "na", wedi'r cyfan y cwbwl oedd angen gwneud oedd un o'r pethau rydw i orau am wneud, siarad amdanaf i fy hun! Ta beth, pan gytunais fod yn rhan o'r rhaglen, nid oeddwn wedi dychmygu byddai hyn yn brofiad hynod deimladwy, a fel pob person teimladwy, dramatig, roedden wedi profi rhywbeth cathartig dros ben yn ystod y recordiad.
Mae'n wir i ddweud fy mod i wedi profi dipyn yn fy 31 mlynedd ar y ddaear yma - cymysgedd rhyfedda o'r da a'r drwg, fel pawb sbo. Dw i ddim yn dymuno pe na bawn i wedi profi'r drwg yn fwy na'r da a dwi wastad o'r farn bod y fath brofiadau yn eich gwneud yn berson cymaint cryfach a chyfoethocach eich byd. Serch hynny, roedd sôn am y rhan fwyaf ohono dros gyfnod o hanner awr yn eithaf sioc.Beti yn gatharsis Fy hanes fel nofwraig broffesiynol pan o'n i'n blentyn, fy anturiaethau gyda fy Nghorn Ffrengig, tripiau i Lundain pan o'n i yn fy arddegau i weld dramâu /actorion adnabyddus, mynd i'r brifysgol yn Llundain, ysgariad fy rhieni, fy ysgariad i, profiad beichiogrwydd a genedigaeth IVF, lladrad a ddiwedodd lan gyda fi yn yr ysbyty, fy hanes fel cyflwynydd, darganfod cariad newydd a hel fy mhac (a pac Ela) drwy symud i fyw yn Hong Kong at R. J. Mae sôn am gymaint o brofiadau yn sicr yn gwneud i chi gymryd cam yn ôl ac edrych yn wrthrychol ar eich bywyd. Er i mi wir fwynhau y profiad, roeddwn yn teimlo yn hynod o emosiynol ar ôl y recoriad - fel petai pwysau mawr wedi codi o'm ysgwyddau. Mae lot o wirionedd mewn dywediad mae ffrind Americanaidd i mi yn Hong Kong yn ei ddefnyddio - falle roedd angen closure ar ran o fy mywyd ac yn ddiymwybod i mi, fe ddaeth hyn drwy Beti.
Cwrdd â hen ffrindiau Un peth roedden wir eisiau wedi'r recordiad oedd diod - a dipyn ohono fe!!!! Roedden i wedi trefnu ers misoedd fy mod yn cwrdd i ddala lan gyda ffrindiau o Gymru mewn bar yng nghanol dre y noson honno. Bois, roedd hin' braf cael clebran..clebran f'flat owt' am bawb a phopeth a teimlo fel petawn dal yn byw yn eu plith a rhannu bywyd Caerdydd gyda nhw yn ddyddiol. Roedden i'n berson hapus yn trafeili nôl ar y trên i aros yn nhy fy chwaer yn Llundain y noson honno. Treuliais y rhan fwyaf o fy ngwyliau ym Mhrydain yn Llundain. Roedd fy chwaer a'i phlant wedi hedfan lawr o Glasgow i dreulio rhai dyddiau yn nghwmni Ela Mai ac wrth gwrs roedd yn rhaid gwneud y pethau sy'n hanfodol i blant wneud yn Llundain - ymweld â Hamleys, Regent's Park, London Eye, a Zoo Llundain. Roedd Ela wrth ei bodd yn gweld defaid a gwartheg go iawn! Petai hi dal yn byw yng Nghymru, byddai rhain yn bethau y byddai'n cymryd yn ganiataol wrth gwrs. Dychmygwch eu hwyneb pan y gwelodd "Me Me" go iawn yn y cnawd. Yn ogystal, fe wnaeth hi gymryd dipyn o ffansi i'r mochyn mawr budur oedd yn rolio'n braf yn ei dwlc drewllyd!!! Plant! Mae'n gwneud 'chenj' o weld gekos yn rhedeg ar draws nenfwd y ty sbo neu ddianc o'r cockroaches sy'n mynnu gwneud eu ffordd i fewn i'r gegin yn achlysurol! Dw i wrth fy modd gyda Llundain. Wedi byw yna am gyfnod, mae gen i nifer o atgofion melys o'r ddinas ond rhaid cyfaddef roedden wir yn edrych ymlaen at ddiwedd fy ngwyliau gan fod RJ yn hedfan i fewn o Honkers ac roedd y ddau ohonom wedi trefnu mynd i aros gyda'n teuluoedd yn Sir Aberteifi - nefoedd. Llonyddwch y wlad, lle ddi-draffig, oglau porfa go iawn, bwyd o'r ardd, acenion Cymreig gwledig, swn yr afon a chael gorwedd ar ein hoff draeth yn y byd - Mwnt, ger Abertiefi. Y cwestiwn mawr Yn ddiarwybod i mi, roedd ein cyfnod yn y gorllewin yn mynd i fod yn un fwy arbennig na allwn erioed fod wedi dychmygu neu ddyfalu. Fe benderfynodd RJ ofyn cwestiwn pwysig iawn i mi wrth lan yr afon Teifi dros botel o champers un pnawn.. roedd hyn yn coroni gwyliau oedd wedi ysgogi i feddwl dipyn am fy mywyd a'r hyn roedden i eisiau. Dw i nawr yn holllol glir o'r dyfodol ac yn hapusach nag erioed. Does dim angen i chi ofyn beth oedd fy ateb i!
|