成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!
Beks yn sgrifennu o Hong Kong, Tachwedd 2006

Rwy'n hen gyfarwydd â thymor typhoon a minnau'n awr wedi bod yn Honkers ers pedair blynedd - ond eleni rwy'n teimlo i deiffŵn daro ein tŷ ni yn benodol dros y tri mis diwethaf!!!

Yn wahanol i'r tywydd - nid oedd yn fwriad gan y teiffŵn hwn i adael a bwrw de China. Na, mae e yma i aros - ond bois mae e werth e!

Mop o wallt coch
Cafodd Harri Tweli James ei eni yn Ysbyty Matilda Hong Kong, Awst 8, gyda mop o wallt coch ac yn Geltaidd iawn ei wedd!

Mae e'n greadur sy'n denu tipyn o sylw ymhlith y bobl leol - yn bennaf oherwydd ei wallt - ac yn ôl traddodiad "cochyn" mae'n gymeriad cryf er nad yw ond yn dri mis oed!!!

Harri - y  baban newyddMae Ela Mai a Joni Teifi yn ei addoli a'n fflat ni bellach yn lle swnllyd, bishi, y rhan fwyaf o'r amser gyda thri "bych" o dan bump oed!!!!

Yn ogystal â rhoi genedigaeth i un babi, collais un arall i'r byd mawr pan ddechreuodd Ela Mai "ysgol fawr" bythefnos wedi geni Harri.

Do, fe lefais y glaw ddwywaith - bron gymaint â'r tro y rhoddais Ela ar y bws am y tro cyntaf i fynd i ysgol Bradbury a phan gydiais yn Harri yn fy mreichiau am y tro cyntaf!

Dwi'n beio'r cwbwl ar yr hormonau ac fel Haf yr Hormonau a Teiffwnau y bydd 2006 yn cael ei gofio - rhai naturiol a rhai yn y cartref!!!!

Yn naturiol, roedd y teulu yng Nghymru yn awyddus iawn i weld y newydd ddyfodiad ac rydym wedi croesawu sawl un i'n cartref ers genedigaeth "y dyn bach sinsir" fel mae'n cael ei alw!!!!



Kylie Mynd i weld Kylie
Pan ddaeth Mam-gu draw i aros am gyfnod fe benderfynom adael y plant yn ei gofal hi a bwrw draw am benwythnos yn Oz - yn enwedig gan fod un atyniad mawr yno - y dywysoges bop a gwaed Cymreig yn ei gwythiennau, Kylie Minogue!!!

Roedd hi'n fwriad gennym i weld Kylie yn perfformio yn HK yn ystod ei thaith Asiaidd y llynedd ond gohiriwyd y cyngerdd wedi iddi ddarganfod ei bod yn dioddef o gancr y fron.

Pan ddarganfyddais ei bod hi ac U2 yn chwarae yn Sydney y penwythnos cyn diwethaf bu'n rhaid mynd ta beth fyddai'r gost!

Yn anffodus, nid oedd tocynnau U2 ar ôl ond wedi siarad â ffrindiau yn Sydney roeddwn yn obeithiol o fedru cael tocynnau Kylie!

Pe byddai raid, buaswn wedi canu I should be so lucky yn borcyn ar do y Tŷ Opera er mwyn cael tocyn!!!

Diolch I'r drefn, roedd lwc o'n hochr ni ac wedi ambell i alwad ffôn fe lwyddon ni i sicrhau tocyn i Kylie ar gyfer y nos Sul.
Perffaith!

Perfformiad cyntaf
Roedd tipyn o gynnwrf yn arwain at y cyngerdd gan mai hwn oedd ei pherfformiad cyntaf ers gwella a hithau'n cychwyn ar y daith Showgirl - The 成人快手coming Tour adref yn Awstralia ac yn ei chartref, Sydney.

Golygai hynny lot fawr i'r Sydneysiders!!!!

Roedd ei llun yn y papurau i gyd a'r rheini yn frith o erthyglau amdani gyda The Australian a'r Sydney Herald a'r gweddill yn gofyn yr un cwestiwn - a fyddai Kylie yn llwyddo i "ail greu" ei hun eto?

Fel Madonna, bu'r ddifa fach o Oz yn dipyn o gameleon dros y blynyddoedd yn newid ei delwedd, ei hedrychiad a'i sŵn flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Tybed a fyddai hi'n medru gwneud yr un peth yn dilyn ei gwaeledd?

Y mwyaf trawiadol
Roedd tipyn o bwysau ar y fenyw fach ac yr oedd yr awyrgylch yn y ganolfan yn China Town, Sydney, yn gwbl drydanol cyn i'r cyngerdd ddechrau.

A minnau eisoes wedi gweld Kylie yn perfformio yn y CIA yng Nghaerdydd ychydig cyn inni symud i Honkers yr oedd gen i syniad go dda beth i'w ddisgwyl ac ni chefais fy siomi yn Syders.

A dweud y gwir dyma un o'r perfformiadau pop mwyaf trawiadol imi ei weld erioed.

Roedd hon yn sioe 'camp' hynod weledol gyda gwisgoedd arallfydol yn cynnwys sequins, plu a staesiau yn hedfan ym mhobman.

Pan ymddangosodd Kylie gyntaf roedd dagrau yn llifo'i lawr ei boch wrth iddi gyfarch y gynulleidfa - y cyfan yn emosiynol iawn iddi hi ac i'r gynulleidfa.

Oedd, roedd hi'n amlwg yn gwerthfawrogi'r ffaith ei bod yn medru perfformio ar lwyfan adref unwaith eto.

Roedd hon yn sioe a hanner gyda Kylie, y band, a'r tîm cryf o ddawnswyr yn rhoi mwy na'u cant y cant i'r gynulleidfa.

Rhywbeth syfrdanol
A phan yr oeddem yn teimlo na allai pethau wella fe ddigwyddodd rhywbeth syfrdanol iawn.

Ar ddiwedd rhan gyntaf y sioe gofynnodd Kylie i bawb sefyll gan ei bod am gyflwyno rhywun inni a phrin y gallwn gredu fy llygaid pan gyflwynodd gawr y byd roc a pop ... Bono!!!!!!!

Ie, dyna beth oedd diweddglo i ran gyntaf sioe - Kylie a Bono yn canu'r ddeuawd a ganodd gyda Robbie Williams, Kids.

I'r rhai hynny fel fi a fethodd â gweld U2 roedd hyn yn wyrth a'r ddau yn amlwg yn mwynhau pob eiliad o'r perfformiad a hithau wedi'i phlesio'n fawr gyda phresenoldeb ac ymdrech ei ffrind.

Y ddau ohonynt yn amlwg yn gwir fwynhau a dathlu bywyd i'r eithaf.

fgh Diolch i'r teulu
Mae Sydney yn un o fy hoff ddinasoedd ond roedd bod yno y tro hwn a gweld cyngerdd oedd mor emosiynol yn brofiad na fyddaf byth yn ei anghofio.

Pan ddiolchodd Kylie i'w theulu - roedd ei mam, ei thad, ei chwaer a'i chariad yn y gynulleidfa - a phan ddiolchodd yn arbennig i'w thad ar ddiwedd y cyngerdd roedd agosatrwydd ei theulu a'i gefnogaeth yn amlwg wedi bod yn rhan hynod o bwysig o'i gwellhad.

Oedd, roedd yn gyngerdd a hanner a theithiais adref i HK ar y dydd Llun yn hapus fy myd - yn gwybod bod fy nyth yn gyflawn a'r cywion bach yn hapus o weld mam a dad - er ei bod hi megis teiffŵn yn y nyth y rhan fwyaf o'r amser!!!!




cysylltiadau




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy