成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks ac Ela Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol
Dwi ar de-tox ... Na, o ddifri y tro yma - yn enwedig ar ôl y noson fawreddog yn y Ritz Carlton ar Fawrth y cyntaf!

Dwi ddim fel arfer yn yfed fel ffwl ar ddiwrnod ein nawddsant ond roedd dathlu hanner ffordd ar draws y byd yn rhoi esgus i mi, a'r Cymry eraill sy'n byw yn Honkers, i feddwi yn racs!

Dylwn fod wedi sylweddoli y byddai pethau'n mynd yn ffradach llwyr ar ôl y Bellini cyntaf yn y Mandarin Oriental yn Central.

Mae hwn yn westy pum seren ac yn un o'r ffefrynnau yn HK a'r golygfeydd o Vong, y bar ar y degfed llawr, yn dipyn o beth.

Hiraeth yn cydio
Ta p'un, i mi nid oedd ond yn gyfle am un bach cloi cyn bwrw draw i'r Ritz lle'r oedd y côr meibion yn llenwi eu hsygyfaint ar gyfer yr anthem genedlaethol pan gyrhaeddais.

Dyna pryd y cydiodd yr hiraeth yndda i!

Mae'r côr wedi bod, erioed, yn ganolog i ddathliadau Cymdeithas Dewi Sant Hong Kong ac eleni eto yr oedd yr aelodau yn llawn brwdfrydedd yn canu'r perlau sydd wastad yn dod â deigryn i'r llygaid - Calon Lân ayb.

Presenoldeb Anhygoel
Yn ogystal roedd cadwyn o ganeuon Tom Jones, detholiad o Under Milk Wood gyda thesp go iawn wedi hedfan yr holl ffordd draw o Wlad y Gân i fod yn siaradwr gwadd, Phillip Madoc.

Roedd ei bresenoldeb yn anhygoel. Roeddwn wedi ei weld ar y teledu sawl tro ond roedd clywed ei lais melfedaidd yn yr un stafell a chi yn ddigon i doddi'r galon.

Pe byddwn 30 mlynedd yn hynach!!!!!

Ef oedd yn arwain y noson gan ein tywys yn ddidrafferth drwy'r dathliadau a'r seremoniau gwahanol - a bois roedd dipyn ohonynt.

Roedd criw o 12 ar ein bwrdd ni gyda phedwar yn siarad Cymraeg.

Roedd y gweddyll yn gyfuniad o ffrindiau o Awstralia, Lloegr, Singapore a'r Alban!!!

Hollol ddi-glem
Druan ohonynt - roeddent yn hollol ddi glem am Ddydd Gwyl Dewi - a rhaid cyfaddef, reoddwn innau hefyd!

Wyddwn i ddim ei bod yn draddodiad i fwyta cenhinnen heb ei choginio a Chymro o Wrescam a fu'n byw yn HK am 30 mlynedd gafodd y pleser o roi ei ddannedd ynddi.

Roedd hi'n ddifyr hefyd gweld ambell i ddefod Eisteddfodol ond yn anodd egluro i'r criw di-Gymreig beth oedd ystyr y pethau yma yn dipyn o dasg!

Ta beth - llifodd y gwin drwy'r nos - a da hynny gan fod y tocynau i'r noson yn fil o ddoleri Hong Kong! Fel popeth arall yn Honkers - hynod o gostus.

Eingl-Gymry oedd y rhan fwyaf o'r gwesteion ond roedd hi'n braf picio i mewn i'r ty bach a er mwyn cywiro'r lipi a chlywed Cymraeg yn hytrach na Chantonaeg neu Saesneg - braidd yn afreal hefyd rhaid cyfaddef!!!!

Ta beth , ar ôl yr holl ganu, yfed a dathlu diwrnod ein nawddsant doedd fawr o siap arnaf y dydd Sul gyda hangover hunllefus mewn haul tanbaid.

Mynd i'r ysgol
Felly, dim ond un peth oedd amdani - Singapore Noddles a noson gynnar gan fod Ela Mai yn dechrau yn yr ysgol fore Llun!

Er nad yw Els fach ond yn 22 mis, dwi'n awyddus iawn iddi fynd i ysgol ddwyieithog a dysgu Mandarin yn ogystal â Chymraeg a Seasneg.

Felly mae hi wedi cychwyn mewn ysgol ryngwladol ddwyieithog - Tutor Time, yn Tai Tam .

Dim ond awr a hanner deirgwaith yr wythnos i gychwyn ond mae'n rhagarweiniad da ar gyfer mynychu'r ysgol bob bore o fis Mai ymlaen.

Mae plant o bob man dros y byd i gyd yno yr ysgol er bod y rhan helaeth ohonynt gydag aelod o'r teulu o dras Chinese.

Ychydig iawn o eirfa Gymraeg a Saesneg sydd gan Els mor belled felly does wybod beth oedd yn mynd drwy'i meddwl pan gyrhaeddon ni ar fore Llun 'da Miss.Julie ei hathrawes Mandarin yn ei chyfarch mewn iaith gwbwl estron a'r pump bach arall yn y dosbarth yn canu fflat owt mewn Mandarin!

Yn ôl ei hathrawesau Saesneg a Mandarin mae'n ymddangos iddi fwynhau yn fawr ta beth ac yr oedd gwên fawr ar ei hwyneb ar ôl ei bore cyntaf a chefais dipyn o jobin ei pherswadio i fy nilyn i'r car i fynd adre.

Mmmm - mae'r busnes ysgol ddwyieithog ma yn grêt yn byw yn HK - gore po gynta ei bod yn medru archebu bwyd inni mewn tai bwyta weda i.....







asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy